Mater - cyfarfodydd

Departure Applications

Cyfarfod: 07/02/2018 - Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion (Eitem 10)

10 Ceisiadau'n Gwyro pdf eicon PDF 445 KB

10.1  15C29M/VAR – Hen Feudy, Fferam Bailey, Trefdraeth

10.2  21C38G/VAR – Canolfan Fusnes Daniel, Llanddaniel

10.3  43C195F/VAR – Y Granar, Rhoscolyn

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

10.1 15C29M/VAR - Cais dan Adran 73 i amrywio amod (02) (cyflwyno manylion am y modd y bwriedir trin y ffiniau, dulliau amgáu a marcio cyn cychwyn defnyddio’r safle yn hytrach na cyn i’r gwaith ddatblygu gychwyn ynghyd â chaniatáu i’r gwaith gael ei gwblhau cyn pen  12 mis i gychwyn ei ddefnyddio) o benderfyniad apêl cyfeirnod APP/L6805/A/12/2194277 (troi adeilad allanol yn annedd) yn Hen Feudy, Fferam Bailey, Trefdraeth

 

PENDERFYNWYD caniatáu'r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog a chyda’r amodau a a oedd wedi eu cynnwys yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

10.2  21C38G/VAR - Cais o dan Adran 73 ac Adran 73A ar gyfer amrywio amod (16) (cynlluniau a gymeradwywyd) yng nghaniatâd cynllunio cyfeirnod 21C38D (codi 4 annedd a mynediad newydd i gerbydau) er mwyn diwygio dyluniad y 4 annedd ar dir hen Ganolfan Fusnes Daniel, Llanddaniel

 

PENDERFYNWYD caniatáu'r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog a chyda’r amodau a a oedd wedi eu cynnwys yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

10.3  43C195F/VAR - Cais o dan Adran 73A ar gyfer amrywio amodau (02) (cofnod ffotograffig), (03) (cael gwared ar ddŵr wyneb) a (04) (y dull arfaethedig o drin y ffiniau) yng nghaniatâd cynllunio cyfeirnod 43C195D (newid defnydd o adeilad allanol i greu annedd) er mwyn caniatáu cyflwyno manylion ar ôl i'r gwaith ddechrau yn Y Granar, Rhoscolyn

 

PENDERFYNWYD caniatáu'r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog a chyda’r amodau a oedd wedi eu cynnwys yn yr adroddiad ysgrifenedig ac amod ychwanegol ynghylch gwneud y gwaith ar y ffiniau.

 

Cofnodion:

10.1 15C29M/VAR - Cais dan Adran 73 i amrywio amod (02) (cyflwyno manylion am y modd y bwriedir trin y ffiniau, dulliau amgáu a marcio cyn cychwyn defnyddio’r safle yn hytrach na cyn i’r gwaith ddatblygu gychwyn ynghyd â chaniatáu i’r gwaith gael ei gwblhau cyn pen 12 mis i gychwyn ei ddefnyddio) o benderfyniad apêl cyfeirnod APP/L6805/A/12/2194277 (troi adeilad allanol yn annedd) yn Hen Feudy, Fferam Bailey, Trefdraeth

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod y cynnig yn groes i bolisïau’r Cynllun Datblygu Lleol ar Cyd ond bod y Pwyllgor Cynllunio Lleol â’i fryd ar ei ganiatáu.

 

Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio bod y cais yn un i amrywio amod (02) mewn perthynas â’r modd y bwriedir trin y ffiniau cyn cychwyn ar y gwaith addasu yn Hen Feudy, Fferam Bailey, Trefdraeth. Nododd bod y gwaith addasu eisoes wedi’i wneud a bod rhywun yn byw yn yr annedd ar hyn o bryd. Nid oedd y manylion angenrheidiol a nodwyd yn yr amodau a oedd ynghlwm wrth y caniatâd gwreiddiol ar gyfer y cais wedi cael eu cyflwyno ac mae’r cais hwn yn mynd i’r afael â’r materion hynny, h.y. codi waliau cerrig a ffensio. Mae’r cais yn groes i bolisi TAI7 y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd ond oherwydd bod yr adeilad wedi cael ei addasu i ddibenion preswylio, roedd yr Awdurdod Cynllunio â’i fryd ar gymeradwyo’r cais.

 

Cynigiodd y Cynghorydd John Griffith y dylid cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog ac fe eiliwyd ei gynnig gan y Cynghorydd Dafydd Roberts.

 

PENDERFYNWYD caniatáu'r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog a chyda’r amodau a a oedd wedi eu cynnwys yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

10.2 21C38G/VAR – Cais o dan Adran 73 ac Adran 73A ar gyfer amrywio amod (16) (cynlluniau a gymeradwywyd) yng nghaniatâd cynllunio cyfeirnod 21C38D (codi 4 annedd a mynediad newydd i gerbydau) er mwyn diwygio dyluniad y 4 annedd ar dir hen Ganolfan Fusnes Daniel, Llanddaniel

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod y cynnig yn groes i bolisïau’r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd ond bod y Pwyllgor Cynllunio Lleol â’i fryd ar ei ganiatáu.

 

Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio bod y cais yn un i amrywio amod (16) y cais cynllunio a gymeradwywyd yn ddiweddar mewn perthynas â diwygio dyluniad y 4 annedd yn hen Ganolfan Fusnes Daniel, Llanddaniel. Mae’r diwygiadau y gofynnir amdanynt yn ymwneud â newid y ffenestri, y drysau a’r ystafelloedd haul yn yr anheddau. Roedd y cais a gymeradwywyd 7.7 metr o uchder, fodd bynnag mae wedi ei ostwng bellach i 7.3 metr gan gynnwys yr uchder i grib y to. Nododd fod rhan fechan o ffordd y stad y tu allan i’r ffin ddatblygu a dyma’r rheswm am gyflwyno’r cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion. Fodd bynnag, gan fod y gwaith eisoes wedi cychwyn ar y safle, mae’r Awdurdod Cynllunio Lleol â’i fryd ar ganiatáu’r cais.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Vaughan Hughes y dylid cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 10