Mater - cyfarfodydd

30 year Housing Revenue Account Business Plan and Capital Programme

Cyfarfod: 26/03/2018 - Pwyllgor Gwaith (Eitem 10)

10 Cynllun Busnes y Cyfrif Refeniw Tai 2018-2048 pdf eicon PDF 2 MB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Tai.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Penderfynwyd

 

           Cymeradwyo Cynllun Busnes y Cyfrif Refeniw Tai (CRT) 2018-48 ac yn benodol, y gyllideb CRT ar gyfer 2018/19 fel y’i nodir yn y Cynllun ar gyfer ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru.

           Cymeradwyo’r Rhaglen Gyfalaf arfaethedig ar gyfer Tai am 2018/19 fel y caiff ei nodi yn Atodiad 3.

           Dirprwyo awdurdod i’r Pennaeth Gwasanaeth (Tai) a’r Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151 i wneud unrhyw newidiadau i’r Cynllun Busnes cyn ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd er sylw’r Pwyllgor Gwaith – adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Tai yn ymgorffori Cynllun Busnes y Cyfrif Refeniw Tai am 2018-48.

 

Dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth Tai mai'r Cynllun Busnes yw'r prif offeryn ar gyfer cynllunio ariannol er mwyn darparu a rheoli tai'r Cyngor ac mae'n dangos sut mae'r Cyngor yn dod â'i holl stoc i fyny i Safonau Ansawdd Tai Cymru; y modd y mae'r Cyngor yn bwriadu cynnal a rhagori ar y Safonau hyn a'r buddsoddiad sydd ei angen i gynyddu'r stoc dai. Mae'r Cynllun Busnes yn rhagdybio rhaglen ddatblygu o 45 uned yn 2018-19, 60 uned yn 2019/20 a 100 uned yn ystod 2021-22 sy'n cynnwys 40 o unedau tai gofal ychwanegol newydd yn ardal Seiriol.

 

Nododd y Pwyllgor Gwaith y wybodaeth. Gofynnodd y Pwyllgor Gwaith a oedd hi'n ymarferol o gofio bod stoc dai yr Awdurdod wedi bodloni Safonau Tai Ansawdd Cymru (SATC) ers 2012, i ostwng y ddarpariaeth ariannol yn y rhaglen gyfalaf ar gyfer gwaith atgyweirio a chynnal a chadw ac i gynyddu'r ddarpariaeth ar gyfer datblygu tai Cyngor newydd. Dywedodd y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) / Adran 151 fod rhaid i’r Awdurdod, ar ôl cyflawni SATC, sicrhau ei fod yn cynnal y safonau ac yn parhau i uwchraddio'r stoc. Mae'r Cynllun Busnes wedi'i seilio ar ragamcanion mewn perthynas â'r adnoddau sydd ar gael ac mae'n ofynnol i gynnal y safonau, yn ogystal â sicrhau capasiti ar gyfer adeiladu tai newydd. Rhaid taro cydbwysedd rhwng cynnal y stoc bresennol i Safonau Tai Ansawdd Cymru a sicrhau bod arian ar gael i ddatblygu tai cyngor newydd i ddiwallu anghenion tai. Dywedodd y Swyddog ei bod yn bwysig nodi hefyd fod y Cynllun Busnes wedi cael prawf straen i gymryd i ystyriaeth y risgiau e.e. y cynnydd mewn chwyddiant, cyfraddau llog uwch, mwy o gostau o ran gwaith atgyweirio a chynnal a chadw ac ati er mwyn sicrhau hyfywedd y Cynllun a chynaliadwyedd y CRT yn y tymor hir.

 

Nododd y Pwyllgor Gwaith ymhellach fod y niferoedd ar y rhestr aros ar gyfer tai 1 a 2 ystafell wely yn llawer uwch na’r nifer ar gyfer tai 3 a 4 ystafell wely ; gofynnodd am esboniad am y gwahaniaeth. Cadarnhaodd y Rheolwr Gwasanaethau Tai y gwelwyd newid yn y galw; mae'r gwasanaeth yn cynnal prawf fforddiadwyedd cyn i deuluoedd symud i mewn i dai cymdeithasol oherwydd nad yw teuluoedd bob amser yn gallu fforddio cartrefi 3 ystafell wely. Hefyd, bu newid demograffig gyda chynnydd yn nifer y bobl sengl a hŷn sy'n chwilio am gartrefi un ystafell wely.

 

Penderfynwyd –

 

·      Cymeradwyo Cynllun Busnes y Cyfrif Refeniw Tai (CRT) 2018-48 ac

yn benodol, y gyllideb CRT ar gyfer 2018/19 fel y’i nodir yn y Cynllun

ar gyfer ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru.

·    Cymeradwyo’r Rhaglen Gyfalaf arfaethedig ar gyfer Tai am 2018/19 fel

   y caiff ei nodi yn Atodiad 3.

·      Dirprwyo awdurdod i’r Pennaeth Gwasanaeth (Tai) a’r Pennaeth

Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151 i wneud unrhyw

newidiadau i’r Cynllun Busnes cyn ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru.