Mater - cyfarfodydd

Play Sufficiency Assessment

Cyfarfod: 26/03/2018 - Pwyllgor Gwaith (Eitem 13)

13 Asesiad Digonolrwydd Chwarae pdf eicon PDF 628 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Dysgu.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Penderfynwyd cymeradwyo’r Cynllun Gweithredu drafft ar gyfer Digonolrwydd Chwarae am 2017-18 ac anfon y Cynllun i Lywodraeth Cymru yn unol â’r gofyniad statudol.

Cofnodion:

Cyflwynwyd er sylw’r Pwyllgor Gwaith - adroddiad y Pennaeth Dysgu yn cynnwys adolygiad o Gynllun Gweithredu Digonolrwydd Chwarae 2017/18.

 

Cymeradwyodd yr Aelod Portffolio Addysg, Llyfrgelloedd, Diwylliant ac Ieuenctid yr adroddiad a'r Cynllun Gweithredu i'r Pwyllgor Gwaith.

 

Cadarnhaodd y Pennaeth Dysgu nad oes pryderon nad yw'r Awdurdod yn bodloni'r gofynion statudol o ran cyfleoedd chwarae a digonolrwydd chwarae. Fodd bynnag, mae'r ffordd y mae swydd y Swyddog Chwarae yn cael ei hariannu wedi newid. Ariannwyd y swydd yn flaenorol drwy'r grant Teuluoedd yn Gyntaf; oherwydd y bydd telerau'r grant yn newid o fis Ebrill, 2018 ac oherwydd bod hwn yn ofyniad statudol, ni ellir defnyddio'r grant at y diben hwn. O ganlyniad, ac oherwydd bod deilydd y swydd wedi gadael, mae'r Gwasanaeth Dysgu wedi ymgorffori dyletswyddau'r swydd o fewn ei Uned Cefnogi Teuluoedd a bydd yn cyfuno'r cyfrifoldebau statudol â rhai’r asesiad digonolrwydd gofal plant. Bydd hyn yn caniatáu cyflawni, targedu adnoddau a datblygu mewn modd cydlynol ar draws y ddau sector. Dywedodd y Swyddfa bod yr adolygiad o'r cynllun gweithredu yn mynd i'r afael â naw maes gwaith y mae gofyn statudol i’r Awdurdod adroddi arnynt yn cynnwys gwaith a wnaed gydag ysgolion a chymunedau i sicrhau gweithgareddau chwarae am ddim / cost isel, cyfleoedd chwarae mewn ardaloedd gwledig a chyfleoedd chwarae i ddiwallu anghenion penodol plant a phobl ifanc. Mae'r cynllun gweithredu yn adrodd ymhellach ar y modd y mae'r Awdurdod yn sicrhau bod gweithgareddau chwarae yn digwydd o fewn amgylchedd diogel.

 

Nododd y Pwyllgor Gwaith fod gwahoddiadau i wneud cais am gyllid ar gyfer mannau chwarae yn cael eu cyhoeddi gyda therfynau amser tynn iawn (llai na 24 awr mewn rhai achosion) sy’n ei gwneud hi'n anodd i grwpiau / sefydliadau wneud cais oni bai bod cynlluniau parod ganddynt ar y silff y gallant eu cyflwyno ar fyr rybudd. Nododd y Pwyllgor Gwaith, er ei bod yn ddoeth o beth i grwpiau fod â chynlluniau yn barod, y dylid pwyso hefyd ar Lywodraeth Cymru fod angen i'r amserlen ar gyfer cyflwyno cynlluniau / ceisiadau o'r fath fod yn realistig.

 

Dywedodd y Pennaeth Dysgu, er bod yr arian y mae Llywodraeth Cymru yn ei ryddhau yn flynyddol yn ychwanegol at y grant cyfleoedd chwarae yn tueddu i fod yn hwyr, bod y rhan fwyaf o bartneriaid yr Awdurdod sy’n ymwneud â chwarae wedi llunio cynlluniau erbyn hyn sy’n golygu mai mater yn unig o sicrhau bod y cais yn cael ei gyflwyno ydyw wedyn.

 

Penderfynwyd cymeradwyo’r Cynllun Gweithredu drafft ar gyfer Digonolrwydd Chwarae am 2017-18 ac anfon y Cynllun i Lywodraeth Cymru yn unol â’r gofyniad statudol.