6 Ceisiadau Fydd yn Cael eu Gohirio PDF 343 KB
6.1 19C452F – Canada Gardens, Caergybi
6.2 39C285D – Lôn y Gamfa, Porthaethwy
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
6.1 19C452F - Cais llawn i godi 15 o dai 2 ystafell wely ynghyd â 10 o fflatiau 1 ystafell wely ar dir yn Canada Gardens, Caergybi
Penderfynwyd ymweld â safle'r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog am y rheswm a roddwyd.
6.2 39C285D - Cais llawn i godi 17 annedd ar dir yn Lôn Gamfa, Porthaethwy
Penderfynwyd gohirio ystyried y cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog am y rheswm a roddwyd.
Cofnodion:
6.1 19C452F - Cais llawn i godi 15 o dai 2 ystafell wely ynghyd â 10 o fflatiau 1 ystafell wely ar dir yn Canada Gardens, Caergybi
Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio mai barn y Swyddog yw bod angen i Aelodau'r Pwyllgor weld y cynnig a'i gyd-destun cyn penderfynu ar y cais; felly argymhellir ymweld â’r safle.
Penderfynwyd ymweld â safle'r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog am y rheswm a roddwyd.
6.2 39C285D - Cais llawn i godi 17 annedd ar dir yn Lôn Gamfa, Porthaethwy
Adroddodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio yr argymhellir gohirio ystyried y cais hyd nes y derbynnir adroddiad y disgwylir amdano yn dilyn digwyddiad llifogydd diweddar.
Penderfynwyd gohirio ystyried y cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog am y rheswm a roddwyd.