Mater - cyfarfodydd

Departure Applications

Cyfarfod: 04/04/2018 - Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion (Eitem 10)

10 Ceisiadau'n Gwyro pdf eicon PDF 448 KB

10.1  36C344B/VAR – Ysgol Henblas, Llangristiolus

10.2  46C402F/VAR – Pendorlan, Lôn Isallt, Trearddur

10.3  47C149B/VAR – Hen Ysgol Gynradd Llanddeusant, Llanddeusant

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

10.1 36C344B/VAR - Cais o dan Adran 73 i ddiwygio amod (01)(Cynlluniau a gymeradwywyd) o ganiatâd cynllunio rhif 36C344A/DA(Cais am faterion a gadwyd yn ôl ar gyfer codi annedd) er mwyn ymestyn yr ystafell haul a chodi garej ar wahân ar dir ger Ysgol Henblas, Llangristiolus.

 

PENDERFYNWYD: -

 

  • Cymeradwyo’r cais a rhoi’r hawl i weithredu i Swyddogion yn dilyn diwedd y cyfnod ymgynghori cyhoeddus;
  • Bod amodau ychwanegol yn cael eu hatodi i ganiatâd y cais er mwyn adlewyrchu’r caniatâd blaenorol.

 

10.2 46C402F/VAR - Cais o dan Adran 73 A i ddiwygio amodau (05) (mynediad i'r safle presennol), (06) (ffordd y stad a llwybrau troed), (09) (system ddraenio) a (10) (cadw man glaswelltog) o ganiatâd cynllunio rhif 46C402D (cais llawn i godi 13 o dai, cau’r fynedfa bresennol i Pendorlan a gwella fynedfa i Fflatiau’r Cliff) er mwyn caniatáu mynediad i gerddwyr/beicwyr oddi ar Lôn Isallt, creu mynediad i erddi cefn tai A1 i A4, cwblhau ffordd y stad a’r llwybrau fesul dipyn a chwblhau’r system ddraenio fesul dipyn wedi i’r gwaith gychwyn ar y safle yn Pendorlan, Lôn Isallt, Trearddur.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog yn amodol ar yr amodau a oedd wedi’u cynnwys yn yr adroddiad.

 

10.3 47C149B/VAR - Cais o dan Adran 73A i ddiwygio amodau (02) (defnydd allanol), (04) (cynllun draenio), (05) (cynnal a chadw ffordd y stad a'r system draenio), (07) (manylion mynedfa), (09) (llygredd), (10) (gwaith coed a gwrychoedd) a (11) (rhaglen o waith archeolegol) o caniatâd Cynllunio rhif 47C149 (ddymchwel rhan o'r ysgol presennol, newid defnydd yr ysgol i swyddfa, codi 10 annedd ynghyd â chreu mynedfa newydd i gerbydau) er mwyn cyflwyno'r manylion ar ôl i waith ddechrau ar y safle yn Hen Ysgol Gynradd Llanddeusant, Llanddeusant.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog gyda’r amodau a oedd wedi’u cynnwys yn yr adroddiad a chwblhau cytundeb cyfreithiol ar gyfer darpariaeth tai fforddiadwy wedi i’r cyfnod ymgynghori mewn perthynas â chynllun diwygiedig ddod i ben.

 

Cofnodion:

10.1  36C344B/VAR – Cais o dan Adran 73 i ddiwygio amod (01)(Cynlluniau a gymeradwywyd) o ganiatâd cynllunio rhif 36C344A/DA(Cais am faterion a gadwyd yn ôl ar gyfer codi annedd) er mwyn ymestyn yr ystafell haul a chodi garej ar wahân ar dir ger Ysgol Henblas, Llangristiolus.

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod y cais yn groes i bolisïau’r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd ond yn un mae’r Awdurdod Cynllunio Lleol yn ystyried y dylid ei ganiatáu.  

 

Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio y cymeradwywyd y cais yn wreiddiol yn 2016 o dan bolisi 50 o’r Cynllun Datblygu lleol ond ers mabwysiadu’r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd fod y datblygiad bellach y tu allan i ffin pentref Llangristiolus. Dywedodd ei bod yn ystyried na fyddai’r cais yn cael effaith negyddol ar amwynderau’r eiddo cyfagos. Dywedodd y Swyddog hefyd bod yr Awdurdod Priffyrdd bellach wedi ymateb gan ddweud nad oes ganddynt wrthwynebiad i’r cais ond y bydd angen gosod amodau ychwanegol er mwyn adlewyrchu’r caniatâd blaenorol.  Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio hefyd nad yw’r cyfnod ymgynghori statudol mewn perthynas â’r cais yn dod i ben tan 6 Ebrill 2018.   

 

Cynigiodd Eric W Jones y dylid cymeradwyo’r cais ac eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd K P Hughes.

 

          PENDERFYNWYD: -

 

·        Cymeradwyo’r cais a rhoi’r hawl i weithredu i Swyddogion yn dilyn diwedd y cyfnod ymgynghori cyhoeddus;

·        Bod amodau ychwanegol yn cael eu hatodi i ganiatâd y cais er mwyn adlewyrchu’r caniatâd blaenorol.

 

10.2  46C402F/VAR – Cais o dan Adran 73 A i ddiwygio amodau (05) (mynediad i'r safle presennol), (06) (ffordd y stad a llwybrau troed), (09) (system ddraenio) a (10) (cadw man glaswelltog) o ganiatâd cynllunio rhif 46C402D (cais llawn i godi 13 o dai, cau’r fynedfa bresennol i Pendorlan a gwella fynedfa i Fflatiau’r Cliff) er mwyn caniatáu mynediad i gerddwyr/beicwyr oddi ar Lôn Isallt, creu mynediad i erddi cefn tai A1 i A4, cwblhau ffordd y stad a’r llwybrau fesul dipyn a chwblhau’r system ddraenio fesul dipyn wedi i’r gwaith gychwyn ar y safle yn Pendorlan, Lôn Isallt, Trearddur.

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan ei fod yn tynnu’n groes i Bolisi TAI 5 (Tai Marchnad Lleol) o’r Cynllun Datblygu Lleol a’i fod yn gyfystyr â chais sy’n groes i bolisi y mae’r Awdurdod Cynllunio lleol yn ystyried y dylid ei ganiatáu. 

 

Amlinellodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio hanes cynllunio’r cais a dywedodd, fel rhan o’r cais cynllunio blaenorol, bod y fynedfa gerbydau i’r safle ym Mhendorlan wedi’i chau gan fod ei lleoliad ar dro cul ar ffordd yr arfordir ym Mae Trearddur. Sicrhawyd caniatâd cynllunio gyda mynedfa newydd i’w ffurfio drwy’r ffordd fynediad i Westy’r Cliff er mwyn gwella gwelededd o’r safle. Gosodwyd amod cynllunio ar y pryd y dylai’r fynedfa newydd gael ei chwblhau cyn i’r datblygiad ddechrau ond yr amrywiad i’r amod hwnnw sydd gerbron y Pwyllgor hwn yw  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 10