Mater - cyfarfodydd

Schools' Modernisation - Llangefni Area - Report following the statutory consultation (Corn Hir, Bodffordd and Henblas)

Cyfarfod: 30/04/2018 - Pwyllgor Gwaith (Eitem 9)

9 Moderneiddio Ysgolion yn Ynys Mon - Adroddiad ar yr Ymgynghori Statudol yn Ardal Llangefni: Ysgol Corn Hir, Ysgol Henblas, Ysgol Bodffordd pdf eicon PDF 2 MB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Dysgu.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Penderfynwyd –

 

·                    Cymeradwyo Opsiwn 2, sef adeiladu ysgol newydd ar gyfer ysgolion Bodffordd a Corn Hir a pharhau i gynnal darpariaeth addysgol yn Llangristiolus naill ai drwy gynnal Ysgol Henblas ar ei ffurf gyfredol neu fel ysgol aml-safle [h.y. uno Henblas gyda’r ysgol newydd a chreu un ysgol ar ddau safle]. Byddai rhaid i’r penderfyniad hwn fod yn gysylltiedig â chael sicrwydd mewn blwyddyn [h.y. erbyn diwedd blwyddyn ysgol 2018/19] bod safonau yn Ysgol Henblas yn codi, bod cyflymder cyfredol y gwelliant yn cynyddu a bod y rhagolygon o ran niferoedd disgyblion yn parhau’n gyson neu yn codi.

·                    Bod trafodaethau yn cael eu cynnal gyda Chyngor Cymuned Bodffordd a chyda cymuned Bodffordd er mwyn diogelu a chadw’r neuadd gymuned. Y trafodaethau hynny i gychwyn yn ystod y 6 wythnos nesaf.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd, er ystyriaeth gan y Pwyllgor Gwaith, adroddiad y Prif Weithredwr Cynorthwyol yn ymgorffori’r adroddiad ar ganlyniad yr ymgynghoriad statudol ar foderneiddio’r ddarpariaeth addysg gynradd yn ardal Llangefni (Ysgol Corn Hir, Ysgol Bodffordd ac Ysgol Henblas).

 

Ar ôl datgan diddordeb rhagfarnus yn y mater hwn, gadawodd y Cynghorydd Llinos Medi Huws, y Cynghorydd Richard Dew a’r Prif Weithredwr y cyfarfod yn ystod y drafodaeth a’r penderfyniad ar yr eitem hon. Roedd y Cynghorydd Ieuan Williams, yr Is-gadeirydd, yn y Gadair ar gyfer yr eitem hon.

 

Gwahoddodd y Cadeirydd y Cynghorydd Aled Morris Jones, Cadeirydd y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol, i adrodd ar drafodaethau’r Pwyllgor Sgriwtini ar y mater hwn yn ei gyfarfod a gynhaliwyd ar 23 Ebrill, 2018 a’r argymhellion yn deillio o hynny.

 

Diolchodd y Cynghorydd Aled Morris Jones unwaith eto i bawb a oedd wedi cyfrannu at drafodaeth y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol ar y pwnc hwn yn y cyfarfod ar 23 Ebrill ac yn arbennig cynrychiolwyr y tair ysgol dan sylw a oedd oll wedi cyflwyno achos cadarn ar ran eu hysgolion. Roedd cynrychiolwyr Ysgol Bodffordd wedi cyfleu darlun o ysgol wledig brysur oedd yn weithgar yn ei chymuned ac sydd â Chylch Meithrin uchel ei barch. Un o’r pryderon o ran yr adroddiad a gyflwynwyd i’r Pwyllgor Sgriwtini oedd y diffyg tystiolaeth i brofi mai’r Cyngor sydd berchen ar dir ac adeilad cymunedol sy’n gysylltiedig ag Ysgol Bodffordd, rhywbeth y codwyd amheuon ei gylch yn ystod y cyfarfod. Dywedodd y Cynghorydd Jones fod y Pwyllgor yn awyddus i gael eglurhad ar hyn cyn y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Gwaith. O ran Ysgol Corn Hir, clywodd y Pwyllgor Sgriwtini mai’r prif fater oedd diffyg lle ar gyfer y plant yn yr ysgol. Roedd cynrychiolwyr Ysgol Henblas wedi disgrifio’r camau breision y mae’r ysgol yn eu cymryd erbyn hyn i wella safonau a pherfformiad o dan arweiniad Pennaeth newydd, brwdfrydig. Dywedodd y Cynghorydd Jones mai’r darlun sy’n datblygu mewn perthynas ag Ysgol Bodffordd ac Ysgol Henblas yw eu bod yn ddwy ysgol ganolig eu maint (neu’n ysgolion y gellid eu hystyried yn rhai mawr hyd yn oed yn ôl safonau Ynys Môn) sy’n cael eu targedu oherwydd yr angen i ddatrys problem diffyg llefydd addysg gynradd yn Llangefni. Er y derbynnir fod rhaid datrys y sefyllfa yn Ysgol Corn Hir, y pryder oedd yn cael ei gyfleu i’r Pwyllgor Sgriwtini oedd na ddylid gwneud hynny ar draul Ysgol Bodffordd ac Ysgol Henblas. Cyfeiriodd y Cynghorydd Aled Morris Jones at sylwadau a wnaed gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg Llywodraeth Cymru yn y sesiwn llawn ar 25 Ebrill pan gafodd ei holi gan Aelod Cynulliad Ynys Môn ynglŷn â’r rhaglen moderneiddio ysgolion yn Ynys Môn - ac yn benodol ynglŷn â’r diffyg eglurder oherwydd disgwyliad Rhaglen Ysgolion yr Unfed Ganrif ar Hugain fod darparu cyllid ar gyfer ysgolion newydd yn dibynnu ar greu arbedion drwy uno/cau ysgolion bach ar un llaw, a’r rhagdybiaeth yn erbyn cau ysgolion gwledig yn y Côd Trefniadaeth Ysgolion drafft newydd ar y llaw arall.  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 9