Mater - cyfarfodydd

Applications that will be Deferred

Cyfarfod: 02/05/2018 - Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion (Eitem 6)

6 Ceisiadau fydd yn cael eu Gohirio pdf eicon PDF 276 KB

6.1  39C285D – Lôn y Gamfa, Porthaethwy

6.2  41LPA1041/FR/TR/CC – Star Crossroads, Star

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

6.1  39C285D Cais llawn ar gyfer codi 17 o dai ar dir yn Lôn Gamfa, Porthaethwy

 

PENDERFYNWYD gohirio ystyried y cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog am y rheswm a roddwyd.

 

6.2  41LPA1041/FR/TR/CC – Cais llawn ar gyfer newid defnydd tir amaethyddol i’w ddefnyddio fel man stopio dros dro (10 llecyn) ar gyfer Sipsiwn a Theithwyr, creu mynedfa gerbydau newydd, ffurfio mynedfa newydd i gerddwyr a phafin ynghyd â datblygiadau cysylltiedig ar dir i’r dwyrain o Star Crossroad, Star

 

PENDERFYNWYD gohirio ystyried y cais ac na fyddai unrhyw benderfyniad yn cael ei wneud ar yr ymweliad safle tan y byddai adroddiad llawn wedi dod gerbron y Pwyllgor.

Cofnodion:

6.1  39C285D Cais llawn i godi 17 annedd ar dir yn Full application for  Lôn Gamfa, Porthaethwy

 

Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio yr argymhellir y dylid gohirio ystyried y cais tan y ceir yr adroddiad disgwyliedig yn dilyn achos o lifogydd yn ddiweddar.

 

PENDERFYNWYD gohirio ystyried y cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog am y rheswm a roddwyd.

 

6.2  41LPA1041/FR/TR/CC – Cais llawn ar gyfer newid defnydd tir amaethyddol i’w ddefnyddio fel man stopio dros dro (10 llecyn) ar gyfer Sipsiwn a Theithwyr, creu mynedfa gerbydau newydd, ffurfio mynedfa newydd i gerddwyr a phafin ynghyd â datblygiadau cysylltiedig ar dir i’r Dwyrain o Gyffordd Star, Star

 

(Bu’r Rheolwr Datblygu Cynllunio ddatgan diddordeb yn y mater hwn a gadawodd y cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem).

 

Adroddodd y Rheolwr Cynllunio Amgylchedd Adeiledig a Naturiol bod angen i’r Aelodau weld y cynnig a’i gyd-destun cyn ystyried y cais.  Nododd y disgwylir adroddiad effaith llifogydd mewn perthynas â safle’r cais.

 

Dywedodd y Cynghorydd Robin Williams ei fod yn ystyried bod angen i’r Pwyllgor ystyried cynnwys yr adroddiad effaith llifogydd ynghyd â’r holl wybodaeth mewn perthynas â’r cais hwn cyn ystyried ymweld â’r safle.  Cynigiodd y Cynghorydd Robin Williams y dylid gohirio ystyried y cais.  Eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Vaughan Hughes.                    

 

PENDERFYNWYD gohirio ystyried y cais ac na fyddai unrhyw benderfyniad yn cael ei wneud ar yr ymweliad safle tan y byddai adroddiad llawn wedi dod gerbron y Pwyllgor.