Mater - cyfarfodydd

Development Proposals Submitted by Councillors and Officers

Cyfarfod: 02/05/2018 - Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion (Eitem 11)

11 Cynigion Datblygu a gyflwynwyd gan Gynghorwyr a Swyddogion pdf eicon PDF 154 KB

11.1  21C76H/VAR – 4 Maes y Coed, Llanddaniel

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

11.1  21C76H/VAR – Cais o dan Adran 73 i ddiwygio amod (02) o ganiatâd cynllunio rhif 21C76G (addasu ag ehangu) er mwyn diwygio y cynlluniau sydd wedi eu caniatáu yn 4 Maes y Coed, Llanddaniel

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog a chyda’r amodau a oedd wedi’u cynnwys yn yr adroddiad.

Cofnodion:

11.1 21C76H/VAR – Cais o dan Adran 73 i ddiwygio amod (02) o ganiatâd cynllunio rhif 21C76G (addasu ag ehangu) er mwyn diwygio y cynlluniau sydd wedi eu caniatáu yn 4 Maes y Coed, Llanddaniel.

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod yr ymgeisydd yn perthyn i ‘swyddog perthnasol’ fel y’i diffinnir ym mharagraff 4.6.10 o Gyfansoddiad y Cyngor. Mae’r cais wedi’i graffu gan y Swyddog Monitro yn unol â’r gofyniad ym mharagraff 4.6.10.4 o’r Cyfansoddiad.  

 

Adroddodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio fod y cais yn golygu amrywiad i amod (02) o ganiatâd cynllunio 21C76G er mwyn diwygio’r cynllun sydd wedi’i gymeradwyo ar gyfer addasiadau ac estyniadau i’r annedd yn 4 Maes y Coed, Llanddaniel. Nododd na fyddai cynnydd o 0.6 metr yn hyd yr estyniad yn cael effaith ar y cynllun a gymeradwywyd yn flaenorol a bod yr argymhelliad yn un o ganiatáu. 

 

Cynigiodd y Cynghorydd Robin Williams y dylid caniatáu’r cais ac eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Dafydd Roberts. 

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog a chyda’r amodau a oedd wedi’u cynnwys yn yr adroddiad.