Mater - cyfarfodydd

Gweddill y Ceisiadau

Cyfarfod: 02/05/2018 - Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion (Eitem 12)

12 Gweddill y Ceisiadau pdf eicon PDF 879 KB

12.1  19C1217 – 18 Ffordd Maes Hyfryd, Caergybi

12.2  19LPA1043/CC –  Stryd Vulcan, Caergybi

12.3  20LPA1044/CC – Teilia, Cemaes

12.4  25C228A – 41 Stryd Fawr, Llannerchymedd

12.5  46C615/AD –  Canolfan Ymwelwyr, Lôn Ynys Lawd, Caergybi

12.6  49C333A/FR – Capel Hermon, Stryd y Cae, Y Fali

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

 12.1 19C1217 -  Cais llawn i newid defnydd Annedd C3 yn Dŷ Amlbreswyliaeth C4 yn 18 Lon Maes Hyfryd Road, Caergybi.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog a chyda’r amodau a oedd wedi’u cynnwys yn yr adroddiad.

 

12.2 19LPA1043/CC - Cais llawn ar gyfer codi 6 annedd fforddiadwy ynghyd a creu mynedfa i gerddwyr ac 8 man parcio ar dir ger Vulcan Street, Caergybi.

 

Nodwyd fod y cais wedi’i dynnu’n ôl.

 

12.3 20LPA1044/CC - Cais llawn i osod gorsaf meteorolegol 3 metr o uchder ar dir yn Teilia, Cemaes.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog a chyda’r amodau a oedd wedi’u cynnwys yn yr adroddiad.

 

12.4 25C228A - Cais ôl-weithredol ar gyfer ymestyn y cwrtil ynghyd a chodi modurdy yn

41 Stryd Fawr, Llannerch-Y-Medd.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog a chyda’r amodau a oedd wedi’u cynnwys yn yr adroddiad.

 

12.5 46C615/AD - Cais i leoli arwydd heb ei oleuo ynghyd â gosod mesurydd parcio ym maes parcio uwchben Canolfan Ymwelwyr, Ynys Lawd, Caergybi.

 

PENDERFYNWYD ymweld â’r safle yn unol â chais yr Aelod Lleol a hynny am y rhesymau a roddwyd.

 

12.6 49C333A/FR - Cais llawn i newid defnydd y capel gwag i annedd ynghyd ag addasu a chodi balconi ar y llawr cyntaf yng Nghapel Hermon, Field Street, Y Fali.

 

PENDERFYNWYD ymweld â’r safle yn unol â chais yr Aelod Lleol a hynny am y rhesymau a roddwyd.

 

Cofnodion:

12.1 19C1217 – Cais llawn i newid defnydd Annedd C3 yn Amlbreswyliaeth C4 yn 18 Lôn Maes Hyfryd Road, Caergybi.

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais Aelod Lleol.

 

Dywedodd Mr Craig Stalman (yn siarad yn erbyn y cais) bod gan y stryd breswyl ym Maeshyfryd, Caergybi nifer o bobl oedrannus a theuluoedd o bob oed yn byw yno. Dywedodd y byddai cyflwyno Tŷ Amlbreswyliaeth (HMO) o bosib yn dod â’r bobl hyn i gysylltiad â phobl y byddent yn dewis eu hosgoi fel arfer. Gan fod Maeshyfryd yn cael ei ddefnyddio gan blant ar y ffordd i ac o’r ysgol. mae posibilrwydd y byddai’r plant hyn yn dod i gysylltiad â phobl na fyddai nhw na’u rhieni yn dymuno iddynt gael cyswllt â nhw. Mae problemau parcio eisoes yn bodoli ym Maeshyfryd ac yn ystod gyda’r nosau bydd cerbydau’n parcio ar ddwy ochr y ffordd sy’n stryd unffordd gul. Gyda chyflwyno HMO, mae posibilrwydd y byddai nifer uwch o gerbydau ar gyfer pob tŷ ac y byddai’r effaith ar y trigolion yn sylweddol. O ganlyniad i’r system unffordd, Maeshyfryd yw’r brif ffordd drwodd a ddefnyddir gan gerbydau masnachol a cherbydau brys er mwyn cyrraedd Kings Road a Tara Street. Mae trigolion eisoes wedi bod yn dyst i hyn wrth i fysiau orfod bagio i lawr stryd unffordd. Dywedodd Mr Stalman hefyd bod HMO yn cyflwyno’r  posibilrwydd y bydd nifer uwch o bobl yn cael eu cyfyngu i un annedd gan greu felly’r posibilrwydd o niwsans sŵn sy’n gysylltiedig â hynny. Gyda chynifer o drigolion mewn un tŷ gallai olygu cynnydd mewn ymddygiad gwrthgymdeithasol sy’n gysylltiedig a thai HMO a gallai hynny gael effaith emosiynol a seicolegol ar y tai a’r teuluoedd cyfagos. Dywedodd hefyd y byddai cyflwyno HMO yn cael effaith negyddol at brisiau tai yn yr ardal, nid yn unig o ran prisiau tai yn gostwng ond hefyd amharodrwydd pobl eraill i brynu tŷ mor agos at HMO. Mae gan ardal Maeshyfryd eisoes broblemau amgylcheddol o ran casglu biniau a diffyg lle i storio biniau ailgylchu a biniau du/gwyrdd. Gyda chyflwyno HMO, gyda 6 ystafell o bosibl, gallai hyn olygu 24 bin ac nid oes gan yr eiddo penodol hwn le o flaen yr eiddo nac yng nghefn yr eiddo ar gyfer biniau o’r fath. Felly, mae’n anorfod y byddai’r lôn gefn i’r eiddo yn cael ei defnyddio i storio biniau gan achosi problemau llygod a glanweithdra eraill.           

 

Holodd y Cynghorydd R O Jones pwy fyddai’n byw yn yr annedd hon petai’r cais yn cael ei ganiatáu. Ymatebodd Mr Stalman ei fod wedi cael ar ddeall gan ddeiliad eiddo cyfagos a oedd wedi siarad â’r ymgeisydd mai ei fwriad oedd cael pobl broffesiynol i fyw yn yr ystafelloedd un llofft. Dywedodd nad oedd yn gwybod lle byddai’r holl bobl hyn yn parcio eu ceir gan fod potensial i gael 12 car yn parcio yn yr ardal. 

 

Adroddodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio bod y cais yn un i newid defnydd annedd tri  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 12