12 Gweddill y Ceisiadau PDF 355 KB
12.1 34LPA1015E/DIS/CC – Cyn Safle Hyfforddiant Môn, Llangefni
12.2 39C355B – Cyn Ysgol Gynradd, Ffordd Pentraeth, Porthaethwy
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
12.1 34LPA1015E/DIS/CC – Cais i ddileu amodau (02) (dŵr wyneb) a (03) (cynllun draenio) o ganiatâd cynllunio 34LPA1015B/CC yn yr hen safle Hyfforddiant Môn Training, Llangefni
Penderfynwyd cymeradwyo’r cais yn unol ag adroddiad ac argymhelliad y Swyddog.
12.2 39C355B – Cais ôl-weithredol i godi 8 o fflatiau ynghyd â maes parcio a gwaith cysylltiedig ar dir yn yr hen Ysgol Gynradd, Lôn Pentraeth, Porthaethwy.
Penderfynwyd gwrthod y cais yn unol ag argymhelliad ac adroddiad y Swyddog.
Cofnodion:
12.1 34LPA1015E/DIS/CC – Cais i ddileu amodau(02) (dŵr wyneb) a (03) (cynllun draenio) o ganiatâd cynllunio 34LPA1015B/CC yn yr hen safle Hyfforddiant Môn Training, Llangefni
Cyfeiriwyd y cais at y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan ei fod yn gais gan y Cyngor Sir.
Adroddodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio bod Adain Dechnegol (Draenio) y Cyngor yn ystyried y cynlluniau draenio a gyflwynwyd yn foddhaol ac fe gadarnhaodd Dŵr Cymru nad oes ganddynt unrhyw wrthwynebiad i’r amod gael ei ddileu. Mae argymhelliad y Swyddog felly’n un o gymeradwyo’r cais.
Cynigiodd y Cynghorydd Bryan Owen y dylid cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog; eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Nicola Roberts.
Penderfynwyd cymeradwyo’r cais yn unol ag adroddiad ac argymhelliad y Swyddog.
12.2 39C355B – Cais ôl-weithredol i godi 8 o fflatiau ynghyd â maes parcio a gwaith cysylltiedig ar dir yn yr hen Ysgol Gynradd, Lôn Pentraeth, Porthaethwy.
Cyfeiriwyd y cais at y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod rhan o’r cais wedi’i leoli ar dir sy’n berchen i’r Cyngor.
Siaradwr Cyhoeddus
Amlinellodd Mr Jamie Bradshaw (a oedd yn siarad o blaid y cais) ei fod yn ystyried bod y cynllun arfaethedig yn cydymffurfio â pholisïau cenedlaethol a lleol o ran ei fod ar safle tir llwyd sydd wedi’i leoli o fewn fin datblygu Porthaethwy. Y rhagdybiaeth mewn polisïau cenedlaethol a lleol yw bod y safle yn addas ar gyfer datblygu mewn egwyddor ac y dylid annog y defnydd ohono fel y nodir yn adroddiad y Swyddog. Mewn ymateb i bryderon y Swyddog o ran dwysedd y datblygiad a’i addasrwydd ar gyfer y lleoliad, mae’r cais yn bodloni polisïau lleol a chenedlaethol o ran defnyddio safleoedd fel hwn sydd mewn lleoliadau hawdd cael mynediad iddynt, sy’n agos at lwybrau trafnidiaeth, ar gyfer datblygiadau dwyster uchel. Byddai’r cais yn bodloni’r amcan hwn drwy wneud y defnydd gorau o’r tir er mwyn sicrhau dwyster uwch ond ei fod yn dal i fod yn ddatblygiad priodol ar gyfer y safle a’i leoliad gan felly leihau’r pwysau ar safleoedd tir llwyd er mwyn bodloni anghenion tai. Er bod yr adeilad arfaethedig yn dri llawr o uchder, mae’r lefelau tir a’r dyluniad gofalus yn golygu y byddai uchder yr adeilad yn adlewyrchu’r eiddo o’i gwmpas ac y bydd 2.5 metr yn is na’r annedd tri llawr sydd wedi’i ganiatáu i’r gogledd. Dywedodd Mr Bradshaw nad oedd yn meddwl bod y datblygiad yn rhy gywasgedig gan y byddai’r datblygiad ond yn cymryd 30% o ardal y safle a byddai digon o le o amgylch yr adeilad ac mae hynny’n cydymffurfio â phellteroedd gwahaniad y Cyngor ei hun sy’n caniatáu ar gyfer tirlunio. Mae’r pryderon fod gan yr adeilad nifer o ffenestri lefel uchel a gwydrau aneglur yn yr ystafelloedd gwely a’r ardaloedd byw, y mae’r Swyddog o’r farn sy’n creu golygfa ormesol ar gyfer y rhai a fydd ... Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 12