Mater - cyfarfodydd

The Executive's Forward Work Programme

Cyfarfod: 16/07/2018 - Pwyllgor Gwaith (Eitem 6)

6 Blaen Raglen Waith y Pwyllgor Gwaith pdf eicon PDF 744 KB

Cyflwyno adroddiad Pennaeth Gwasanaethau y Democrataidd.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Penderfynwyd cadarnhau Blaen Raglen Waith y Pwyllgor Gwaith am y cyfnod Awst, 2018 i Mawrth, 2019 fel y’i chyflwynwyd yn y cyfarfod.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd yn cynnwys Blaen Raglen Waith y Pwyllgor Gwaith ar gyfer y cyfnod rhwng Awst, 2018 a Mawrth, 2019 ar gyfer cymeradwyaeth y Pwyllgor Gwaith.

 

Adroddodd y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd bod tair eitem newydd ar y Blaen Raglen Waith ddiwygiedig fel y nodir isod ac mai dyma’r unig newidiadau i’r rhaglen a gyflwynwyd

 

Eitem 11 – Adroddiad blynyddol ar Iechyd a Diogelwch i’r ystyried gan y Pwyllgor Gwaith yn ei gyfarfod 17 Medi, 2018.

Eitem 23 – Adroddiad Monitro Refeniw a Chyllid Cyfalaf 2018/19 ar gyfer Chwarter 3 i’w ystyried gan y Pwyllgor Gwaith yn ei gyfarfod 18 Chwefror, 2019.

Eitem 27 - Cerdyn Sgorio Corfforaethol Chwarter 3, 2018/19 i’w ystyried gan y Pwyllgor Gwaith yn ei gyfarfod 25 Mawrth, 2019.

 

Penderfynwyd cadarnhau Blaen Raglen Waith y Pwyllgor Gwaith ar gyfer y cyfnod rhwng Awst, 2018 a Mawrth 2019 fel y’i cyflwynwyd.