8 Strategaeth Gwrth-Dlodi PDF 1 MB
Cyflwyno adroddiad Pennaeth y Gwasanaethau Tai.
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
Penderfynwyd –
· Cymeradwyo’r Strategaeth Gwrth Dlodi fel y’i cyflwynwyd.
· Bod Gwasanaethau yn cynnwys y Strategaeth fel amcan o fewn y Cynllun Darparu Gwasanaeth yn flynyddol.
Cofnodion:
Cyflwynwyd ar gyfer ystyriaeth y Pwyllgor gwaith adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Tai yn cynnwys y Strategaeth Gwrth-dlodi yn dilyn ymgynghoriad.
Adroddodd yr Aelod Portffolio Tai a Chefnogi Cymunedau yr ystyriwyd y Strategaeth Gwrth- dlodi gan y Pwyllgor Sgriwtini Partneriaeth ac Adfywio yn ei gyfarfod a gynhaliwyd ar 9 Gorffennaf, 2018; argymhellodd y Pwyllgor Sgriwtini y dylid cadarnhau’r Strategaeth ac y dylai hefyd fod yn amcan ar gyfer pob gwasanaeth o fewn ei Gynllun Darparu Gwasanaeth. Dywedodd yr Aelod Portffolio ei fod yn ddiolchgar am fewnbwn y Pwyllgor Sgriwtini a’i fod yn gweld cynnwys y strategaeth fel amcan yn y cynlluniau darparu gwasanaeth yn gryfder a fyddai’n rhoi mwy o ysgogiad i fynd i’r afael â thlodi.
Dywedodd y Pennaeth Gwasanaethau Tai fod y Strategaeth Gwrthdlodi wedi mynd drwy broses ymgynghori gynhwysfawr.
Penderfynwyd –
• Cymeradwyo’r Strategaeth gwrth-dlodi fel y’i cyflwynwyd;
• Bod Gwasanaethau yn cynnwys y Strategaeth fel amcan o fewn y Cynllun Darparu Gwasanaeth yn flynyddol.