Mater - cyfarfodydd

Schools' Modernisation - Llangefni Area (Ysgol y Graig and Ysgol Talwrn)

Cyfarfod: 16/07/2018 - Pwyllgor Gwaith (Eitem 5)

5 Moderneiddio Ysgolion - Ardal Llangefni (Ysgol y Graig ac Ysgol Talwrn) pdf eicon PDF 2 MB

Cyflwyno adroddiad y Prif Weithredwr a’r Prif Weithredwr Cynorthwyol (Partneriaethau, Cymunedau a Gwella Gwasanaethau).

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Penderfynwyd cynyddu capasiti Ysgol y Graig i wneud lle i ddisgyblion Ysgol Talwrn a chau Ysgol Talwrn.

 

Bydd hyn yn cael ei wneud trwy:

 

·                    Ddefnyddio’r adeilad presennol ar gyfer Cyfnod Allweddol 2 sef blynyddoedd 3 i 6 a’i addasu;

·                    Codi “Bloc” newydd ar gyfer y Cyfnod Sylfaen, sef blynyddoedd Meithrin, Derbyn, 1 a 2;

·                    Ystyried adleoli’r ddarpariaeth Dechrau’n Deg o fewn campws Ysgol y Graig.

 

Byddai’r “bloc” newydd yn parhau i fod yn rhan o Ysgol y Graig ac nid yn uned ar wahân.

 

Nododd Aelodau Etholedig y dylai’r trefniant newydd weithredu fel un ysgol ac nid fel dwy uned ar wahân.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Prif Weithredwr Cynorthwyol (Partneriaeth, Cymuned a Gwella Gwasanaethau) yn cynnwys yr adroddiad ar ganlyniad yr Ymgynghoriad Statudol ar ddiwygio’r ddarpariaeth addysg gynradd yn ardal Llangefni yn ymwneud ag Ysgol Talwrn ac Ysgol y Graig ar gyfer ystyriaeth y Pwyllgor Gwaith. Cynhaliwyd y cyfnod ymgynghori statudol rhwng 1 Mai a 18 Mehefin, 2018.

 

Adroddodd yr Aelod Portffolio Addysg, Llyfrgelloedd, Ieuenctid a Diwylliant ar nodau ac amcanion y rhaglen moderneiddio ysgolion sy’n cynnwys gwerthuso dyfodol ysgolion a’r effeithiau ar randdeiliaid yn cynnwys plant, rhieni, staff ysgol a llywodraethwyr. Roedd yn cydnabod y gall hyn fod yn fater dadleuol ac yn dasg heriol i’r Awdurdod ac ei fod hefyd yn fater sy’n achosi pryder i rieni, sy’n ddealladwy. Fodd bynnag, yr hyn sy’n cael ei drafod yw dyfodol ysgolion dros yr 50 mlynedd nesaf o bosibl; gwasanaeth ysgolion sy’n gwegian o dan bwysau toriadau ariannol; ôl-groniad cynnal a chadw, gofynion y cwricwlwm ynghyd â nifer o faterion eraill. Rhaid i’r Cyngor roi ystyriaeth o ddifri i wneud y system ysgolion yn fwy effeithiol er mwyn creu amgylchedd lle gall disgyblion ac athrawon lwyddo a hefyd er mwyn ei wneud yn fwy effeithlon fel bod adnoddau’n cael eu defnyddio yn effeithiol a bod ysgolion yn cael cyfran deg o’r gyllideb. Er mai Ysgol Talwrn ac Ysgol y Graig a’r materion sy’n effeithio arnynt sydd o dan sylw yn y cyfarfod hwn, mae’r materion hynny yn ffurfio rhan o ddarlun ehangach sy’n edrych ar yr Ynys yn ei chyfanrwydd a’r Gwasanaeth Addysg ynddi.

 

Tynnodd yr Aelod Portffolio sylw at y ffaith bod cyllideb y Gwasanaeth Addysg yn 40% o gyllideb gyffredinol y Cyngor a bod angen dod o hyd i arbedion o tua £5.2 miliwn yn y Gwasanaeth dros y 3 blynedd nesaf. Mae Addysg wedi cael ei warchod rhag y gwaethaf o’r toriadau ariannol yn y gorffennol ond does dim modd i’r sefyllfa honno barhau – mae ôl- groniad costau cynnal a chadw tua £16 miliwn. Mae’r pwysau ariannol a wynebir gan Ynys Môn a chynghorau eraill yn dod yn y pen draw o gyfeiriad Llywodraeth San Steffan a’r agenda o gynni parhaus. Mae’r Cyngor yn gweithredu ei raglen moderneiddio ysgolion er mwyn gwella canlyniadau addysgol i blant; er mwyn gwella safonau arweinyddiaeth ac addysgu a dysgu ac er mwyn sicrhau bod ysgolion sy’n arwain o fewn y sector ym mhob ardal. Mae’r gyrwyr ar gyfer newid yn parhau i fod yr un fath; mae’r rhain wedi eu nodi yn yr adroddiad ac mae nifer o’r gyrwyr hynny yn berthnasol i’r sefyllfa hon. Cyfeiriodd yr Aelod Portffolio at rôl yr Aelod Etholedig yn y broses o foderneiddio ysgolion sy’n gosod dyletswydd arnynt i gynrychioli eu cymunedau unigol ond hefyd dyletswydd i ystyried yr Ynys yn ei chyfanrwydd h.y. y cyfrifoldebau corfforaethol ehangach sy’n ymestyn tu hwnt i un ardal benodol.

 

Cyfeiriodd y Prif Weithredwr Cynorthwyol at y prif themâu a’r materion a godwyd gan randdeiliaid yn y ddwy ysgol wrth iddynt ymateb i’r broses ymgynghori ac ymateb yr Awdurdod i’r materion  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 5