Mater - cyfarfodydd

Annual Report of the Statutory Director of Social Services

Cyfarfod: 16/07/2018 - Pwyllgor Gwaith (Eitem 9)

9 Adroddiad Blynyddol Cyfarwyddwr Statudol y Gwasanaethau Cymdeithasol 2017/18 pdf eicon PDF 1 MB

Cyflwyno adroddiad y Prif Weithredwr Cynorthwyol (Llywodraethu a Thrawsnewid Prosesau Busnes)/Cyfarwyddwr Statudol y Gwasanaethau Cymdeithasol.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Penderfynwyd derbyn Adroddiad Blynyddol Cyfarwyddwr Statudol y Gwasanaethau Cymdeithasol fel adlewyrchiad cywir o effeithiolrwydd y Gwasanaethau Cymdeithasol yn 2017/18.

Cofnodion:

Cyflwynwyd Adroddiad Drafft Blynyddol y Prif Weithredwr Cynorthwyol (Llywodraethiant a Thrawsnewid Prosesau Busnes) a’r Cyfarwyddwr Statudol Gwasanaethau Cymdeithasol ar effeithlonrwydd y Gwasanaethau Cymdeithasol yn ystod blwyddyn ariannol 2017/18 ar gyfer ystyriaeth y Pwyllgor Gwaith.

 

Adroddodd y Cadeirydd a’r Aelod Portffolio Gwasanaethau Cymdeithasol fod yr Adroddiad Blynyddol wedi ei graffu gan y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol yn ei gyfarfod a gynhaliwyd ar 5 Gorffennaf, 2018. Cymeradwyodd yr adroddiad i’r Pwyllgor Gwaith.

 

Dywedodd y Prif Weithredwr Cynorthwyol/Cyfarwyddwr Statudol Gwasanethau Cymdeithasol mai dyma’r ail flwyddyn i’r Adroddiad Blynyddol gael ei gynhyrchu ar y fformat presennol a bennir gan y Cod Ymarfer ac sy’n seiliedig ar chwe Safon Ymarfer. Mae’r adroddiad wedi’i anelu at gynulleidfa amrywiol yn cynnwys aelodau etholedig, y cyhoedd, defnyddwyr gwasanaeth, partneriaid ac Arolygiaeth Gofal Cymru ac mae’n ceisio hyrwyddo ymwybyddiaeth ac atebolrwydd am y perfformiad a’r cynnydd a wnaed dros y flwyddyn ddiwethaf wrth ddarparu Gwasanaethau Cymdeithasol yng Nghyngor Sir Ynys Môn.

Cynhaliodd y Gwasanaeth sesiwn Herio gwasanaeth a fynychwyd gan nifer ar 14 Mehefin, 2018 lle gwahoddwyd sefydliadau partner, sefydliadau trydydd sector, gofalwyr a darparwyr.

 

Dywedodd y Swyddog, gan gyfeirio at y Gwasanaethau Oedolion, bod cynnydd da wedi’i wneud yn 2017/18, yn enwedig wrth ail fodelu Garreglwyd yng Nghaergybi i ddarparu cymorth arbenigol i bobl hŷn â dementia sy'n galluogi’r rhai hynny sy’n dioddef o ddementia i aros yn agosach at eu teuluoedd a’u ffrindiau. Bydd Hafan Cefni, y cyfleuster gofal ychwanegol yn Llangefni yn agor yn hwyrach yn 2018 a bydd yn galluogi mwy o bobl i aros yn eu cymunedau wrth i’w anghenion gofal a’r gefnogaeth sydd ei hangen arnynt gynyddu. Yn ogystal, mae’r Gwasanaeth wedi tendro ar gyfer trefniadau Gofal cartref newydd a fydd yn gwella cysondeb a mynediad i’r gwasanaeth. Mae cydweithio rhwng y Gwasanethau Cymdeithasol a Phartneriaid hefyd wedi gwella yn ystod y flwyddyn, yn enwedig gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, Heddlu Gogledd Cymru a phartneriaid Trydydd Sector.

 

Gwnaed cynnydd sylweddol er mwyn gwella’r Gwasanaethau Plant a Theuluoedd yn ystod y flwyddyn fel sydd wedi’i gydnabod gan Arolygiaeth Gofal Cymru yn ei lythyr dyddiedig Ionawr, 2018. Er bod nifer o elfennau yn y Cynllun Gweithredu a Gwella Ôl Arolwg bellach yn eu lle, mae’r Gwasanaeth yn parhau ar daith o welliant a bydd yn cael ei archwilio gan AGC eto yn ddiweddarach yn 2018.

 

Ychwanegodd y Swyddog bod cymorth Gwasanaethau Cymdeithasol i bobl Ynys Môn hefyd yn gyfrifoldeb corfforaethol ac nad yw’n gyfyngedig i’r Gwasanaethau Plant ac Oedolion statudol. Mae’r Gwasanaeth wedi trefnu i holl staff y Cyngor dderbyn hyfforddiant Trais yn erbyn Merched, Camdriniaeth Ddomestig a Thrais Rhywiol sy’n rhywbeth gorfodol ym mhob Cyngor a sefydliad cyhoeddus arall; mae 75% wedi derbyn hyfforddiant ar y lefel gyntaf sy’n cymharu’n dda ag awdurdodau lleol eraill.

 

Diolchodd y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol Statudol i bawb a oedd wedi cyfrannu at berfformiad y Gwasanaethau Cymdeithasol yn ystod y flwyddyn boed hynny drwy gydweithio neu drwy ddarparu cefnogaeth a her; mae’r rheini yn cynnwys partneriaid y Gwasanaeth a darparwyr gwasanaeth; cymunedau ar Ynys Môn, staff Gwasanethau Oedolion  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 9