Mater - cyfarfodydd

Applications that will be Deferred

Cyfarfod: 04/07/2018 - Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion (Eitem 6)

6 Ceisiadau fydd yn cael eu gohirio pdf eicon PDF 208 KB

6.1  34C304Z/1/ECON – Coleg Menai, Ffordd y Coleg, Llangefni

6.2  41LPA1041/FR/TR/CC – Star Crossroads, Star

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

6.1  34C304Z/1/ECON – Cais llawn ar gyfer codi chwech o adeiladau, newid defnydd cae yn ardal hyfforddiant peiriannau trwm a chreu  

       maes parcio newydd yng Ngholeg Menai,

       Ffordd y Coleg, Llangefni.

 

PENDERFYNWYD cynnal ymweliad safle yn unol ag argymhelliad y Swyddog am y rhesymau a roddwyd. 

 

6.2  41LPA1041/FR/TR/CC Cais llawn ar gyfer newid defnydd tir amaethyddol i’w ddefnyddio fel man stopio dros dro (10 llecyn) ar gyfer Sipsiwn a Theithwyr, creu mynedfa gerbydau newydd, ffurfio mynedfa newydd i gerddwyr a phafin ynghyd â datblygiadau cysylltiedig ar

       dir i’r Dwyrain o Gyffordd Star, Star.

 

PENDERFYNWYD gohirio ystyried y cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog am y rheswm a roddwyd. 

 

Cofnodion:

6.1  34C304Z/1/ECON – Cais llawn ar gyfer codi chwech o adeiladau, newid defnydd cae yn  ardal hyfforddiant peiriannau trwm a chreu maes parcio newydd yng Ngholeg Menai, Ffordd y Coleg, Llangefni

 

Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio yr ystyriwyd bod angen i’r aelodau weld y cynnig a’i gyd-destun cyn gwneud ystyried y cais.

 

PENDERFYNWYD cynnal ymweliad safle yn unol ag argymhelliad y Swyddog am y rhesymau a roddwyd.

 

6.2  Cais llawn ar gyfer newid defnydd tir amaethyddol i’w ddefnyddio

fel man stopio dros dro (10 llecyn) ar gyfer Sipsiwn a Theithwyr, creu mynedfa gerbydau newydd, ffurfio mynedfa newydd i gerddwyr a phafin ynghyd â datblygiadau cysylltiedig ar dir i’r dwyrain o Gyffordd  Star, Star

 

Wedi datgan diddordeb yn y cais hwn, aeth y Rheolwr Datblygu Cynllunio allano’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth a’r penderfyniad ar yr eitem. 

 

Dywedodd y Prif Swyddog Cynllunio mai’r argymhelliad oedd gohirio’r cais ac y caiff ei drafod yn y cyfarfod nesaf o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar 25 Gorffennaf, 2018.

 

Penderfynwyd gohirio ystyried y cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog am y rheswm a roddwyd.