6 Ceisiadau fydd yn cael eu gohirio PDF 208 KB
6.1 34C304Z/1/ECON – Coleg Menai, Ffordd y Coleg, Llangefni
6.2 41LPA1041/FR/TR/CC – Star Crossroads, Star
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
6.1 34C304Z/1/ECON – Cais llawn ar gyfer codi chwech o adeiladau, newid defnydd cae yn ardal hyfforddiant peiriannau trwm a chreu
maes parcio newydd yng Ngholeg Menai,
Ffordd y Coleg, Llangefni.
PENDERFYNWYD cynnal ymweliad safle yn unol ag argymhelliad y Swyddog am y rhesymau a roddwyd.
6.2 41LPA1041/FR/TR/CC Cais llawn ar gyfer newid defnydd tir amaethyddol i’w ddefnyddio fel man stopio dros dro (10 llecyn) ar gyfer Sipsiwn a Theithwyr, creu mynedfa gerbydau newydd, ffurfio mynedfa newydd i gerddwyr a phafin ynghyd â datblygiadau cysylltiedig ar
dir i’r Dwyrain o Gyffordd Star, Star.
PENDERFYNWYD gohirio ystyried y cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog am y rheswm a roddwyd.
Cofnodion:
6.1 34C304Z/1/ECON – Cais llawn ar gyfer codi chwech o adeiladau, newid defnydd cae yn ardal hyfforddiant peiriannau trwm a chreu maes parcio newydd yng Ngholeg Menai, Ffordd y Coleg, Llangefni
Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio yr ystyriwyd bod angen i’r aelodau weld y cynnig a’i gyd-destun cyn gwneud ystyried y cais.
PENDERFYNWYD cynnal ymweliad safle yn unol ag argymhelliad y Swyddog am y rhesymau a roddwyd.
6.2 Cais llawn ar gyfer newid defnydd tir amaethyddol i’w ddefnyddio
fel man stopio dros dro (10 llecyn) ar gyfer Sipsiwn a Theithwyr, creu mynedfa gerbydau newydd, ffurfio mynedfa newydd i gerddwyr a phafin ynghyd â datblygiadau cysylltiedig ar dir i’r dwyrain o Gyffordd Star, Star
Wedi datgan diddordeb yn y cais hwn, aeth y Rheolwr Datblygu Cynllunio allano’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth a’r penderfyniad ar yr eitem.
Dywedodd y Prif Swyddog Cynllunio mai’r argymhelliad oedd gohirio’r cais ac y caiff ei drafod yn y cyfarfod nesaf o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar 25 Gorffennaf, 2018.
Penderfynwyd gohirio ystyried y cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog am y rheswm a roddwyd.