Mater - cyfarfodydd

Gweddill y Ceisiadau

Cyfarfod: 04/07/2018 - Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion (Eitem 12)

12 Gweddill y Ceisiadau pdf eicon PDF 376 KB

12.1  19C251U/FR/TR – Tir gyferbyn a Travel Lodge, Ffordd Kingsland, Caergybi

12.2  39C18C/2/VAR – Plot 10 Ty Mawr, Porthaethwy

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

12.1      19C251U/FR/TR – Cais llawn ar gyfer newid defnydd tir gwag yn safle rhentu ceir gan gynnwys swyddfa ar dir gyferbyn â Travel Lodge, Ffordd Kinsgland, Caergybi.

 

   PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog gyda’r  amodau sydd wedi’u cynnwys yn yr adroddiad ysgrifenedig.  

 

12.2      39C18C/2/VAR –  Cais o dan Adran 73 i ddiwygio amod (09) o ganiatâd cynllunio rhif 39C18H/DA (codi 21 o dai) er mwyn diwygio yr edrychiad allanol yn Tŷ Mawr, Porthaethwy.

 

   PENDERFYNWYD ymweld â’r safle yn unol â chais yr Aelod Lleol am y rhesymau a roddwyd.  

 

Cofnodion:

12.1  19C251U/FR/TR – Cais llawn ar gyfer newid defnydd tir gwag yn safle rhentu ceir gan gynnwys swyddfa ar dir gyferbyn â Travel Lodge, Ffordd Kinsgland, Caergybi

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais Aelod Lleol.

 

Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio fod y cais yn un i newid defnydd y safle yn fusnes rhentio ceir gyda swyddfa gysylltiedig mewn porta-cabin a chanopi ‘valet’ lle byddai’r cerbydau’n cael eu glanhau. Mae’r cynnig yn golygu creu compownd wedi ei darmacio lle gellir parcio 22 o gerbydau ar gyfer eu llogi a 7 o lecynnau parcio i gwsmeriaid. Rhagwelir y bydd 5 o bobl yn cael eu cyflogi yn safle’r cais. Nododd bod y cais wedi cael ei alw i mewn i’r Pwyllgor gan Aelod Lleol oherwydd materion traffig a pharcio ger y safle a phryderon ynghylch lleoliad y safle sydd ger yr A55.  Dywedodd y Swyddog nad yw’r Awdurdod Priffyrdd nag Asiantaeth Briffyrdd Llywodraeth Cymru wedi gwrthwynebu’r cais ond bod yr Awdurdod Priffyrdd wedi mynnu ar gynllun rheoli adeiladu a fydd yn rhoi sylw i faterion adeiladu a gweithredu mewn perthynas â’r datblygiad arfaethedig. Disgwylir am sylwadau ynghylch draenio a dŵr wyneb ar gyfer y cais. Nododd ymhellach fod manylion am yr offer y bwriedir ei ddefnyddio, oriau gweithredu a lefelau sŵn o’r datblygiad arfaethedig wedi cael eu cyflwyno i’r Gwasanaeth Amgylchedd sydd wrthi ar hyn o bryd yn asesu’r materion hyn.   Mae’r safle’r cais mewn parth llifogydd C2 ond mae’r cais wedi cael ei gategoreiddo fel un llai bregus dan ddarpariaethau polisi TAN 15 yn y CDLlC.     

 

Dywedodd y Swyddog fod safle’r cais eisoes yn cynnwys unedau siopio ond bod y safle wedi cael ei glirio ac wedi bod yn wag am flynyddoedd lawer ac o’r herwydd, nid oes unrhyw ddefnydd cynllunio dilys yn bodoli ar y safle. Oherwydd nad oes unrhyw ddefnydd cynllunio dilys, mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi gwrthwynebu’r cais oherwydd nad oedd yr Asesiadau Canlyniadau Llifogydd a gyflwynwyd gyda’r cais cynllunio wedi arddangos cydymffurfiaeth gyda TAN 15.  Oherwydd bod y datblygiad yn un i sefydlu cyfleuster llogi ceir gyda phorta cabin ar y safle, tybir bod lefel y risg llifogydd yn isel. Yn ychwanegol at hyn, gellir priodoli pwysau cadarnhau sylweddol i’r ffactorau datblygu economaidd oherwydd bydd 5 o swyddi’n cael eu creu a bydd yn cyfrannu at adfywiad trefol ac at wella mwyderau gweledol y safle. Mae’r argymhelliad yn un i ganiatáu’r cais.

 

Dywedodd y Cynghorydd T Ll Hughes MBE fel Aelod Lleol, er y derbynnir bod safle’r cais wedi bod yn wag ers blynyddoed a bod angen ei ddatblygu, roedd yn cwestiynu a oedd cyfleuster llogi ceir yn briodol ar y safle hwn. Dywedodd fod ganddo bryderon yn barod ynghylch lefel y traffig ger y safle hwn. Nododd bod y safle yn ymyl yr Orsaf Dân, yr A55 a chilfannau sy’n cael eu defnyddio ar gyfer parcio. Dywedodd hefyd y cafwyd problemau gyda llifogydd yn y rhan hon o safle’r cais. 

 

Rhoes y Rheolwr Datblygu Cynllunio sylw i’r materion a godwyd  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 12