12 Gweddill y Ceisiadau PDF 487 KB
12.1 23C301C – Pen y Garreg, Talwrn
12.2 36C193P/ENF – Cefn Uchaf, Rhostrehwfa
12.3 45LPA1029D/CC/DIS – Ysgol Santes Dwynwen, Safle’r Ysgol Newydd, Lôn Twnti, Newborough
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
12.1 23C301C - Cais llawn ar gyfer newid defnydd adeilad allanol yn anecs ar gyfer gofalwr ym Mhen y Garreg, Talwrn.
PENDERFYNWYD cynnal ymweliad safle yn unol â chais yr Aelod Lleol am y rhesymau a roddwyd.
12.2 36C193P/ENF - Cais llawn ar gyfer cadw dau o gynwysyddion storio ynghyd â lleoli 10 o gynwysyddion storio ar dir yn Cefn Uchaf, Rhostrehwfa.
PENDERFYNWYD cynnal ymweliad safle yn unol â chais yr Aelod Lleol am y rhesymau a roddwyd.
12.3 45LPA1029D/CC/DIS - Cais i ryddhau amod (10) (goleuadau gweithredol) o ganiatâd cynllunio45LPA1029A/CC/ECON yn Ysgol Santes Dwynwen, Safle’r Ysgol Newydd, Lôn Twnti, Niwbwrch.
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog gyda’r amodau sydd wedi’u cynnwys yn yr adroddiad ysgrifenedig ac ar ôl derbyn manylion boddhaol ar liniaru effeithiau ar ystlumod.
Cofnodion:
12.1 23C301C – Cais llawn ar gyfer newid defnydd adeilad allanol yn anecs ar gyfer gofalwr ym Mhen y Garreg, Talwrn
Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais aelod lleol.
Dywedodd y Cynghorydd Bob Parry OBE, Aelod Lleol, bod y cynnig yn ymwneud â defnyddio adeilad ategol fel llety ar gyfer gofalwr fel y gellir helpu’r bobl oedrannus sy’n byw ym Mhen y Garreg, Talwrn. Gofynnodd am ymweliad safle fel y gellir ystyried y defnydd o’r tir ac unrhyw effeithiau ar ddeiliaid eiddo cyfagos.
Cynigiodd y Cynghorydd Eric W Jones y dylid ymweld â’r safle ac fe eiliwyd ei gynnig gan y Cynghorydd John Griffith.
PENDERFYNWYD cynnal ymweliad safle yn unol â chais yr Aelod Lleol am y rhesymau a roddwyd.
12.2 36C193P/ENF – Cais llawn ar gyfer cadw dau o gynwysyddion storio ynghyd â lleoli 10 o gynwysyddion storio ar dir yn Cefn Uchaf, Rhostrehwfa
(Wedi datgan diddordeb yn y cais hwn, fe aeth y Cynghorydd Bryan Owen allan o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth a’r bleidlais arno).
Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais aelod lleol.
Cynigiodd y Cynghorydd Dafydd Roberts y dylid ymweld â’r safle er mwyn asesu’r effaith ar fwynderau eiddo cyfagos. Fe eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Robin Williams.
PENDERFYNWYD cynnal ymweliad safle yn unol â chais yr Aelod Lleol am y rhesymau a roddwyd.
12.3 45LPA1029D/CC/DIS – Cais i ryddhau amod (10) (goleuadau gweithredol) o ganiatâd cynllunio45LPA1029A/CC/ECON yn Ysgol Santes Dwynwen, Safle’r Ysgol Newydd, Lôn Twnti, Niwbwrch
Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion oherwydd mai’r Cyngor yw perchennog y tir.
Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio fod y cais yn un i ollwng amod (10) (goleuadau gweithredol) oddi ar y cais a gymeradwywyd eisoes yn Ysgol Santes Dwynwen, Niwbwrch. Mae manylion llawn am y goleuadau allanol bellach wedi cael eu cyflwyno i’w hystyried dan y cais hwn ar gyfer 14 o golofnau goleuo ynghyd â goleuadau ar adeilad yr ysgol. Mae’r argymhelliad yn un o ganiatáu ond mae Ymgynghorydd Ecolegol y Cyngor wedi gofyn am fwy o fanylion ynghylch y mesurau lliniaru ar gyfer ystlumod.
Cynigiodd y Cynghorydd Robin Williams y dylid caniatáu’r cais ac fe eiliwyd ei gynnig gan y Cynghorydd John Griffith.
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog gyda’r amodau sydd wedi’u cynnwys yn yr adroddiad ysgrifenedig ac ar ôl derbyn manylion boddhaol ar liniaru effeithiau ar ystlumod.