Mater - cyfarfodydd

2018/19 Revenue Budget Monitoring Report - Quarter 1

Cyfarfod: 17/09/2018 - Pwyllgor Gwaith (Eitem 7)

7 Monitro'r Gyllideb Refeniw - Chwarter 1, 2018/19 pdf eicon PDF 1007 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Penderfynwyd nodi’r canlynol

 

           Y sefyllfa a amlinellir yn atodiadau A a B yng nghyswllt perfformiad ariannol yr Awdurdod hyd yma a’r alldro disgwyliedig ar gyfer 2018/19;

           Y crynodeb o’r cyllidebau wrth gefn ar gyfer 2018/19 fel y manylir arnynt yn Atodiad C;

           Y sefyllfa mewn perthynas â’r Rhaglenni Buddsoddi i Arbed yn Atodiad CH;

           Y sefyllfa o ran arbedion effeithlonrwydd 2018/19 yn Atodiad D;

           Y modd y caiff costau staff asiantaeth ac ymgynghorwyr eu monitro yn 2018/19 fel yr amlinellir yn Atodiadau DD ac E, a fod

           Yr ad-daliad TAW annisgwyl oddeutu £800k yn cael ei gredydu i gronfa wrth gefn glustnodedig y byddir yn penderfynu ar ei defnydd yn nes ymlaen.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd, er ystyriaeth gan y Pwyllgor Gwaith, adroddiad y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 yn amlinellu perfformiad ariannol gwasanaethau’r Cyngor ar ddiwedd chwarter cyntaf blwyddyn ariannol 2018/19 (1 Ebrill – 30 Mehefin).

 

Adroddodd yr Aelod Portffolio fod y Cyngor wedi gosod cyllideb net ym mis Chwefror ar gyfer 2018/19 gyda gwariant net y gwasanaethau, swm o £130.870m, i gael ei gyllido o incwm o’r Dreth Gyngor, Trethi Annomestig a grantiau cyffredinol oedd yn rhoi cyfanswm o £130.9m yn dilyn addasiadau. Roedd y gyllideb ar gyfer 2018/19 yn cynnwys arbedion angenrheidiol o £2.522m. Fe’u hymgorfforwyd yng nghyllidebau unigol y gwasanaethau a chaiff llwyddiant neu fethiant i’w cyflawni eu hadlewyrchu yn y (tan)/gorwariant net a ddangosir yn yr adroddiad.  Ar sail canlyniadau Chwarter 1, dywedodd yr Aelod Portffolio y rhagwelir cyfanswm o £1.744m o orwariant yn 2018/19 yn cynnwys Cyllid Corfforaethol a chronfa’r Dreth Gyngor. Mae hyn yn cyfateb i 1.33% o gyllideb net y Cyngor ar gyfer 2018/19. Y rheswm am hyn yw pwysau cyllidebol tebyg i’r hyn a brofwyd yn 2017/18, a chost y gwasanaethau plant statudol yw’r elfen fwyaf arwyddocaol.

 

Dywedodd yr Aelod Portffolio Cyllid fod llawer o sylw wedi’i roi i ddefnydd yr Awdurdod o staff asiantaeth a/neu ymgynghorwyr a’r costau sy’n codi o ganlyniad i hynny; mae’r Awdurdod yn monitro’r costau hyn yn ofalus ac yn adrodd arnynt yn chwarterol fel rhan o’r gwaith o fonitro’r gyllideb. Dywedodd fod yr Awdurod yn rhan o ddau brosiect seilwaith mawr ar hyn o bryd sy’n creu’r angen am arbenigedd a chymorth arbenigol o du allan i’r Cyngor.

 

Dywedodd y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 fod y gorwariant a ragwelir yng nghyllideb 2018/19 yn adlewyrchiad o effaith cronnus toriadau yng nghyllidebau gwasanaethau dros amser. Yn hanesyddol, mae gwasanaethau yng Nghyngor Môn wedi llwyddo’n weddol i gadw o fewn eu cyllidebau gyda gwasanaethau sy’n tanwario yn cynorthwyo i gydbwyso gorwariant mewn meysydd gwasanaeth eraill. Fodd bynnag, wrth i gyllidebau leihau ac i gyllidebau nad ydynt yn cael eu defnyddio ddiflannu, mae llai o sgôp i wasanaethau danwario ar eu cyllidebaudengys yr adroddiad fod y rhan fwyaf o wasanaethau yn debygol o fod o fewn, neu ychydig dros, eu cyllideb erbyn diwedd y flwyddyn ac nid yw hynny o gymorth er mwyn gwrthbwyso gorwariant sylweddol yn y Gwasanaethau Plant. Mae’r adroddiad yn cyfeirio at chwarter cyntaf y flwyddyn ariannol newydd felly mae’n bosib y bydd y sefyllfa’n newid, yn arbennig yn ystod misoedd y gaeaf. Bydd rhaid rhoi sylw i’r sefyllfa o ran y prif orwariant, sef yn y Gwasanaethau Plant, er nad oes fawr o gyfleoedd i weithredu yn bennaf oherwydd diffyg lleoliadau lleol ar yr Ynys ar gyfer plant sy’n derbyn gofal.  Oherwydd hyn, rhaid i’r Gwasanaeth chwilio am leoliadau all sirol sydd yn ddrud ac maent yn creu cost i’r Gwasanaeth Addysg oherwydd y gofyn i  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 7