Mater - cyfarfodydd

Housing Revenue Account

Cyfarfod: 17/09/2018 - Pwyllgor Gwaith (Eitem 8)

8 Monitro'r Cyfrif Refeniw Tai - Chwarter 1, 2018/19 pdf eicon PDF 311 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Penderfynwyd nodi’r sefyllfa o ran perfformiad ariannol y Cyfrif Refeniw Tai (CRT) ar gyfer Chwarter 1 ynghyd â’r alldro a ragamcenir ar gyfer 2018/19.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 yn amlinellu perfformiad ariannol y Cyfrif Refeniw Tai (CRA) ar ddiwedd Chwarter 1 2018/19 er ystyriaeth gan y Pwyllgor Gwaith.

 

Adroddodd y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 fod balans agoriadol y CRT yn £7.407k. Mae gwariant o £6m wedi’i gynllunio fydd yn gostwng yr arian wrth gefn i £1.3m. Oherwydd llithriad yn y gwariant cyfalaf bydd llai nag a ragwelwyd o’r CRT yn cael ei ddefnyddio gan adael balans o £3.098m ar ddiwedd y flwyddyn ariannol i gyllido gwariant CRT yn y dyfodol.

 

Penderfynwyd nodi’r sefyllfa o ran perfformiad ariannol y Cyfrif Refeniw Tai (CRT) ar gyfer Chwarter 1 ynghyd â’r alldro a ragamcenir ar gyfer 2018/19.