12 Gweddill y Ceisiadau PDF 267 KB
12.1 19LPA1043A/CC – Stryd Vulcan, Caergybi
12.2 24LPA791F/CC – Canolfan Fusnes Ynys Môn, Llangefni
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
12.1 19LPA1043A/CC – Cais llawn ar gyfer codi 6 annedd fforddiadwy, creu mynedfa i gerddwyr, creu 8 llecyn parcio ynghyd a dymchwel ac adleoli postiau giat ar dir ger Stryd Vulcan, Caergybi.
PENDERFYNWYD ymweld â safle’r cais oherwydd pryderon yn lleol ynghylch materion traffig.
EITEM YCHWANEGOL – CAFWYD CANIATÂD Y CADEIRYDD I’W THRAFOD
12.2 34LPA791F/CC – Cais llawn ar gyfer gwaith tirlunio ynghyd â chreu 4 llecyn parcio ychwanegol yng Nghanolfan Fusnes Ynys Môn, Llangefni
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog a chyda’r amodau a oedd wedi eu cynnwys yn yr adroddiad ysgrifenedig.
Cofnodion:
12.1 19LPA1043A/CC – Cais llawn ar gyfer codi 6 annedd fforddiadwy, creu mynedfa i gerddwyr, creu 8 llecyn parcio ynghyd a dymchwel ac adleoli postiau giat ar dir ger Stryd Vulcan, Caergybi.
Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan mai’r Cyngor yw’r ymgeisydd a pherchennog y tir. Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio ar gais yr Aelod Lleol hefyd.
Adroddodd y Rheolwr Datblygu a Chynllunio fod y safle wedi’i leoli ar groesffordd Stryd Seiriol a Stryd Vulcan. I’r gorllewin o safle’r cais mae Ysgol Gynradd Ysgol Cybi sydd â ffordd wasanaeth sy’n rhannu safle’r cais. Mae’r cais cynllunio yn un ar gyfer 6 annedd fforddiadwy mewn dau floc.
Dywedodd y Cynghorydd T Ll Hughes MBE, Aelod Lleol bod pryderon yn lleol am ddiogelwch y ffordd ger y safle arfaethedig. Nododd bod dwy ysgol yn yr ardal hon sef Ysgol Uwchradd Caergybi a’r Ysgol Gynradd newydd sef Ysgol Cybi a oedd yn gwneud cyfanswm o dros 1,000 o ddisgyblion. Mae gan y Cynghorydd Hughes hefyd bryderon am yr angen i gau’r llwybr troed presennol.
Cynigiodd y Cynghorydd John Griffith y dylid cynnal ymweliad safle oherwydd y pryderon lleol am faterion traffig. Eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Bryan Owen.
PENDERFYNWYD ymweld â safle’r cais oherwydd pryderon yn lleol ynghylch materion traffig.
EITEM YCHWANEGOL – CADEIRYDD WEDI CANIATÁU I’R EITEM AEL EI THRAFOD
12.2 34LPA791F/CC – Cais llawn ar gyfer gwaith tirlunio ynghyd â chreu 4 llecyn parcio ychwanegol yng Nghanolfan Fusnes Ynys Môn, Llangefni
Cyflwynwyd y cais hwn i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan mai’r Cyngor yw’r ymgeisydd a’r perchennog tir. Fel eitem hwyr, cytunodd y Cadeirydd i’r eitem gael ei hychwanegu i’r agenda ar sail brys ac oherwydd nad yw cyllid ar gyfer y datblygiad ond ar gael am gyfnod byr.
Adroddodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio fod y cais yn un ar gyfer creu 4 llecyn parcio a gwneud gwaith tirlunio yn ogystal ag ail-drefnu’r safle’n gyffredinol. Nododd fod Cyngor Tref Llangefni yn cefnodi’r cais.
Cynigiodd y Cynghorydd Nicola Roberts y dylid cymeradwyo’r cais ac eiliwyd hynny gan y Cynghorydd John Griffith.
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog a chyda’r amodau a oedd wedi eu cynnwys yn yr adroddiad ysgrifenedig.