Mater - cyfarfodydd

Gweddill y Ceisiadau

Cyfarfod: 03/10/2018 - Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion (Eitem 12)

12 Gweddill y Ceisiadau pdf eicon PDF 267 KB

12.1 19LPA1043A/CC – Stryd Vulcan, Caergybi

 

12.2 24LPA791F/CC – Canolfan Fusnes Ynys Môn, Llangefni

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

 12.1  19LPA1043A/CC – Cais llawn ar gyfer codi 6 annedd fforddiadwy, creu mynedfa i gerddwyr, creu 8 llecyn parcio ynghyd a dymchwel ac adleoli postiau giat ar dir ger Stryd Vulcan, Caergybi.

 

PENDERFYNWYD ymweld â safle’r cais oherwydd pryderon yn lleol ynghylch materion traffig.

 

EITEM YCHWANEGOL – CAFWYD CANIATÂD Y CADEIRYDD I’W THRAFOD

 

12.2  34LPA791F/CC – Cais llawn ar gyfer gwaith tirlunio ynghyd â chreu 4 llecyn parcio ychwanegol yng Nghanolfan Fusnes Ynys Môn, Llangefni

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog a chyda’r amodau a oedd wedi eu cynnwys yn yr adroddiad ysgrifenedig.  

Cofnodion:

12.1  19LPA1043A/CC – Cais llawn ar gyfer codi 6 annedd fforddiadwy, creu mynedfa i gerddwyr, creu 8 llecyn parcio ynghyd a dymchwel ac adleoli postiau giat ar dir ger Stryd Vulcan, Caergybi.

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan mai’r Cyngor yw’r ymgeisydd a pherchennog y tir. Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio ar gais yr Aelod Lleol hefyd. 

 

Adroddodd y Rheolwr Datblygu a Chynllunio fod y safle wedi’i leoli ar groesffordd Stryd Seiriol a Stryd Vulcan. I’r gorllewin o safle’r cais mae Ysgol Gynradd Ysgol Cybi sydd â ffordd wasanaeth sy’n rhannu safle’r cais. Mae’r cais cynllunio yn un ar gyfer 6 annedd fforddiadwy mewn dau floc. 

 

Dywedodd y Cynghorydd T Ll Hughes MBE, Aelod Lleol bod pryderon yn lleol am ddiogelwch y ffordd ger y safle arfaethedig. Nododd bod dwy ysgol yn yr ardal hon sef Ysgol Uwchradd Caergybi a’r Ysgol Gynradd newydd sef Ysgol Cybi a oedd yn gwneud cyfanswm o dros 1,000 o ddisgyblion. Mae gan y Cynghorydd Hughes hefyd bryderon am yr angen i gau’r llwybr troed presennol.

 

Cynigiodd y Cynghorydd John Griffith y dylid cynnal ymweliad safle oherwydd y pryderon lleol am faterion traffig. Eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Bryan Owen. 

 

PENDERFYNWYD ymweld â safle’r cais oherwydd pryderon yn lleol ynghylch materion traffig.

 

EITEM YCHWANEGOL – CADEIRYDD WEDI CANIATÁU I’R EITEM AEL EI THRAFOD

 

12.2  34LPA791F/CC – Cais llawn ar gyfer gwaith tirlunio ynghyd â chreu 4 llecyn parcio ychwanegol yng Nghanolfan Fusnes Ynys Môn, Llangefni

 

Cyflwynwyd y cais hwn i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan mai’r Cyngor yw’r ymgeisydd a’r perchennog tir. Fel eitem hwyr, cytunodd y Cadeirydd i’r eitem gael ei hychwanegu i’r agenda ar sail brys ac oherwydd nad yw cyllid ar gyfer y datblygiad ond ar gael am gyfnod byr. 

 

Adroddodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio fod y cais yn un ar gyfer creu 4 llecyn parcio a gwneud gwaith tirlunio yn ogystal ag ail-drefnu’r safle’n gyffredinol. Nododd fod Cyngor Tref Llangefni yn cefnodi’r cais. 

 

Cynigiodd y Cynghorydd Nicola Roberts y dylid cymeradwyo’r cais ac eiliwyd hynny gan y Cynghorydd John Griffith. 

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog a chyda’r amodau a oedd wedi eu cynnwys yn yr adroddiad ysgrifenedig.