Mater - cyfarfodydd

Changes to the Constitution - Revised Audit and Governance Committee Terms of Reference

Cyfarfod: 29/10/2018 - Pwyllgor Gwaith (Eitem 6)

6 Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu - Diweddaru'r Cylch Gorchwyl pdf eicon PDF 824 KB

Cyflwyno adroddiad ar y cyd gan y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151 a’r Pennaeth Swyddogaeth (Busnes y Cyngor) / Swyddog Monitro. 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Penderfynwyd argymell i’r Cyngor Llawn ei fod yn mabwysiadu Cylch Gorchwyl drafft newydd y Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu.

Cofnodion:

Cyflwynwyd, er ystyriaeth gan y Pwyllgor Gwaith, adroddiad y Pennaeth Archwilio a Risg yn ymgorffori Cylch Gorchwyl diwygiedig y Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu.

 

Adroddodd yr Aelod Portffolio Cyllid ei bod yn arfer dda i bwyllgorau adolygu eu cylch gorchwyl er mwyn sicrhau eu bod yn briodoladolygwyd cylch gorchwyl y Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu ddiwethaf ym mis Mai, 2015. Ym mis Mai, 2018 bu i’r Sefydliad Siartredig Cyllid Cyhoeddus a Chyfrifyddiaeth (CIPFA) adolygu a diweddaru ei ganllawiau er mwyn cymryd i ystyriaeth y newidiadau mewn deddfwriaeth a datblygiadau proffesiynol sydd wedi effeithio ar y sector cyhoeddus. Mae’r canllawiau newydd yn diweddaru swyddogaethau craidd y pwyllgor archwilio mewn perthynas â llywodraethu, rheoli risg, rheolaeth fewnol ac yn diweddaru swyddogaeth y pwyllgor archwilio mewn perthynas ag atal twyll er mwyn adlewyrchu’r Côd Ymarfer ar gyfer Rheoli’r Risg o Dwyll a Llygredigaeth. Roedd aelodau’r Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu yn bresennol mewn gweithdy i drafod y canllawiau diwygiedig a gynhaliwyd ar 13 Mehefin, 2018 ac maent wedi cymeradwyo’r Cylch Gorchwyl diwygiedig.

 

Eglurodd y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 fod canllawiau CIPFA wedi eu hymgorffori yn eu cyfanrwydd yn y cylch gorchwyl newydd ac eithrio’r gofyniad i’r Cyngor Llawn gymeradwyo penodi aelodau lleyg y Pwyllgor. Ar hyn o bryd y Pwyllgor Archwilio a Llywodraeth sy’n gyfrifol am hynny ac argymhellir bod y drefn honno’n parhau gan fod risg, oherwydd amserlen pwyllgorau, y byddai disgwyl am gyfarfod o’r Cyngor Llawn i benodi aelodau lleyg yn golygu na fyddai modd i’r Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu gyfarfod a gallai hynny olygu na fyddai modd cymeradwyo'r datganiad cyfrifon drafft o fewn y terfynau amser.

 

Roedd y Pwyllgor gwaith yn cefnogi’r cynnig i barhau â’r drefn lle mae Aelodau Lleyg yn cael eu penodi gan y Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu; cadarnhaodd y Pennaeth Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro bod y cynnig yn dderbyniol o safbwynt cyfreithiol.

 

Penderfynwyd argymell i’r Cyngor Llawn ei fod yn mabwysiadu Cylch Gorchwyl drafft newydd y Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu.