Mater - cyfarfodydd

Establishing a Sustainable Drainage Approved Board

Cyfarfod: 29/10/2018 - Pwyllgor Gwaith (Eitem 8)

8 Cyllid ar gyfer Gwaith Llifogydd yn Llangefni pdf eicon PDF 439 KB

Cyflwyno adroddiad gan Bennaeth Dros Dro y Gwasanaethau Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo. 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Penderfynwyd bod y Gwasanaeth Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo yn derbyn £85k o gyllid cyfalaf er mwyn cwrdd â chost gwaith atgyweirio wal atal llifogydd tu cefn i Glandwr, Llangefni.

Cofnodion:

Cyflwynwyd, er ystyriaeth, adroddiad y Pennaeth Gwasanaeth Dros Dro (Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo) yn gofyn i’r Pwyllgor Gwaith gymeradwyo dyrannu £85k o gyllid cyfalaf i’r Gwasanaeth Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo er mwyn cwrdd â’r gost o drwsio wal atal llifogydd tu ôl i Glandwr, Llangefni. Roedd y gymuned yn teimlo’n gryf bod angen cymryd camau brys cyn gaeaf 2018. Yn dilyn hynny, trefnodd CNC fod yr afon yn cael ei glanhau a gwaith modelu llifogydd yn cael ei wneud. Fodd bynnag, nodwyd ar y pryd nad oedd modd cadarnhau pryd fyddai unrhyw waith yn deillio o’r broses fodelu yn cael ei wneud.

 

Dywedodd yr Aelod Portffolio bod y Cyngor wedi archwilio’r asedau hynny o’i eiddo yn Llangefni fyddai’n gallu gwneud gwahaniaeth petai digwyddiad tebyg o law eithafol ar y raddfa a gafwyd ym mis Tachwedd 2017 yn digwydd eto ac adnabuwyd rhan o wal derfyn, ym mherchnogaeth y Cyngor, ger Afon Cefni a thu cefn i Deras Glandwr. Roedd y wal wedi decharu dymchwel mewn rhai mannau ac ystyriwyd y byddai trwsio’r wal hon yn lleihau’r perygl o lifogydd yn Nheras Glandwr ac yn lleihau’r perygl o ddŵr llifogydd lifo ar hyd Ffordd Glandwr ac i Stryd yr Eglwys. Y dewis arall yn hytrach na thrwsio’r wal fyddai disgwyl i CNC gwblhau’r gwaith modelu llifogydd ond mae perygl y byddai eiddo a busnesau yng nghanol y dref yn cael eu heffeithio gan lifogydd eto yn y cyfamser. Mae rhai preswylwyr yn dal i gael eu heffeithio gan y difrod a achoswyd o ganlyniad i lifogydd mis Tachwedd 2017 ac nid yw rhai busnesau wedi ailagor. Byddai oedi cyn gwneud y gwaith yn creu risg o lifogydd pellach ac yn niweidio enw da’r Awdurdod.

 

Roedd y Pwyllgor Gwaith yn cefnogi’r cais am gyllid cyfalaf ar yr amod bod sicrwydd yn cael ei roi fod yr arian ar gael.

 

Cadarnhaodd y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 bod disgwyl y bydd tanwariant yn y gyllideb gyfalaf erbyn diwedd y flwyddyn a bod modd felly dyrannu £85k o’r arian cyfalaf sy’n weddill i’r cynllun hwn.

 

Yn ogystal, roedd y Pwyllgor Gwaith yn cydnabod y gwaith a wnaethpwyd gan y Gwasanaeth Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo mewn ymateb i’r llifogydd a’r difrod a gafwyd yn Llangefni ac mewn ardaloedd eraill ar yr Ynys a gafodd eu heffeithio gan y llifogydd ym mis Tachwedd 2017.

 

Penderfynwyd bod y Gwasanaeth Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo yn derbyn £85k o gyllid cyfalaf er mwyn cwrdd â chost gwaith atgyweirio wal atal llifogydd tu cefn i Glandwr, Llangefni.