Mater - cyfarfodydd

2019/20 Budget

Cyfarfod: 12/11/2018 - Pwyllgor Gwaith (Eitem 6)

6 Cyllideb Refeniw Ddrafft 2019/20 pdf eicon PDF 705 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Penderfynwyd

 

                       Peidio â dyrannu’r ddau grant sydd wedi eu hymgorffori yn y Cyllid Allanol Cyfun (AEF) i gyllidebau’r gwasanaethau perthnasol oherwydd caniatawyd ar gyfer hynny yn y gyllideb ddigyfnewid.

                       Cymeradwyo cyllideb ddigyfnewid o £137.402m ar gyfer 2019/20 ac y dylai hyn fod yn sail ar gyfer cyllideb refeniw 2019/20.

                       Bod y Pwyllgor Gwaith yn penderfynu ar y cynnydd arfaethedig yn y Dreth Gyngor ar gyfer 2019/20 a fydd yn destun ymgynghoriad cyhoeddus.

                       Ar ôl caniatáu ar gyfer y cynnydd arfaethedig yn y Dreth Gyngor, dylai’r Pwyllgor Gwaith geisio gwneud digon o arbedion yn 2019/20 i gydbwyso'r gyllideb refeniw heb orfod defnyddio cronfeydd wrth gefn cyffredinol ac er mwyn sicrhau bod yr arbedion y mae angen eu gwneud yn 2019/20 yn gyraeddadwy.

                       Bod y Pwyllgor Gwaith yn ceisio barn y cyhoedd ar yr arbedion arfaethedig.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd er sylw’r Pwyllgor Gwaith – adroddiad y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) yn cynnwys y Gyllideb Refeniw ddrafft ar gyfer 2019/20.

 

Dywedodd yr Aelod Portffolio Cyllid bod gosod y Gyllideb Refeniw ar gyfer 2019/20 wastad am fod yn heriol – gwnaed y dasg hon yn anoddach fyth ar ôl y setliad dros dro siomedig a dderbyniodd Ynys Môn gan Lywodraeth Cymru sydd wedi gadael y Cyngor gyda bwlch cyllido o £7m yn fras (cyn cymryd unrhyw arbedion ac unrhyw gynnydd yn y Dreth Gyngor i ystyriaeth). Mae’r Cyngor o’r herwydd yn wynebu gorfod gwneud rhai penderfyniadau anodd iawn. Er bod gwasanaethau wedi canfod arbedion gwerth cyfanswm o £3.747m hyd yma, rhagwelir y bydd gorwariant ar gyllideb 2018/19 a hynny’n bennaf oherwydd y pwysau ar y Gwasanaethau Plant a bydd angen cyllido’r pwysau hyn o’r arian wrth gefn cyffredinol gan olygu y bydd balans arian wrth gefn y Cyngor yn gostwng ymhellach i lefel sydd islaw’r balans isaf ar argymhellir. Dywedodd yr Aelod Portffolio y bydd y gyllideb dros dro gan gynnwys y rhestr o arbedion arfaethedig yn Atodiad 4, ynghyd â lefel y cynnydd yn y Dreth Gyngor, yn destun ymgynghoriad cyhoeddus. Caiff effaith lefelau amrywiol y cynnydd yn y Dreth Gyngor ei dangos yn y tabl yn adran 10.2 yr adroddiad gydag opsiynau i gynyddu’r Dreth Gyngor gan 5% a 10% yn cael eu hystyried. Mae’r sefyllfa ariannol ar drothwy 2019/20 yn anodd a bydd angen gweithredu ar arbedion ynghyd â chynnydd sylweddol yn y Dreth Gyngor. Mae union lefel y cynnydd yn dibynnu hefyd ar a fydd Llywodraeth Cymru yn pasio ymlaen i lywodraeth leol rywfaint, os o gwbl, o’r arian ychwanegol a dderbyniodd yng Nghyllideb y Canghellor ac os felly, beth fydd cyfran Ynys Môn o’r arian hwnnw.

 

Dywedodd y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 mai’r cam cyntaf yn y broses o osod y Gyllideb Refeniw ar gyfer 2019/20 yw creu cyllideb ddigyfnewid, sef y gyllideb sydd ei hangen i ddarparu’r un lefel o wasanaethau ag yn 2018/19 ond wedi ei haddasu ar gyfer unrhyw newidiadau y gwyddys amdanynt neu rai yr ymrwymwyd iddynt (e.e. cynnydd neu ostyngiad mewn costau) - manylir ar y prif newidiadau yn adrannau 3 a 4 yr adroddiad - ac ar ôl addasu ar gyfer unrhyw newidiadau o ran staffio a thâl a chwyddiant prisiau fel y manylir arnynt yn adrannau 5 a 6 yr adroddiad. Fodd bynnag, er mwyn sicrhau bod y gyllideb yn darparu lefel realistig o gyllid, mae angen gwneud newidiadau pellach sy’n adlewyrchu’r pwysau cyfredol ac unrhyw bwysau ychwanegol ar y gyllideb y gwyddys amdanynt - yn arbennig felly yn y Gwasanaethau Plant er mwyn cefnogi’r nifer gynyddol o blant sydd mewn gofal, ac o ganlyniad i hynny, y ffioedd ar gyfer Addysg All-Sirol a amlinellir yn adran 7 yr adroddiad. Dygodd y Swyddog sylw at y ffaith fod Llywodraeth Cymru wedi trosglwyddo i’r setliad ar gyfer 2019/20, ddau o grantiau (Grant Tâl Athrawon a’r Grant Prydau Ysgol Am Ddim) y mae’n bwriadu eu rhoi i Gynghorau yn 2018/19.  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 6