Mater - cyfarfodydd

Capital Budget Strategic Plan 2019/20

Cyfarfod: 12/11/2018 - Pwyllgor Gwaith (Eitem 7)

7 Cyllideb Cyfalaf 2019/20 pdf eicon PDF 589 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Penderfynwyd -

 

           Argymell y rhaglen gyfalaf ganlynol ar gyfer 2019/20 i’r Cyngor llawn:-                                                                                                                                                                                                                                                                                                                                                                                   £’m

 

Cynlluniau Ymrwymedig a Ddygwyd Ymlaen o 2018/19             13.429

Buddsoddi mewn Asedau presennol

                                                                                                                      2.539

Ail-wynebu Priffyrdd                                                                           1.359

Ysgolion yr 21ain Ganrif                                                                        7.563

Cyfanswm Cynlluniau Cyfalaf y Gronfa Gyffredinol                                24.890

 

Cynlluniau Cyfalaf CRT                                                                  13.110

 

Cyfanswm Rhaglen Gyfalaf Arfaethedig 2019/20                         38,000

 

Cyllidir drwy:-

 

Gyllid a ddygwyd ymlaen o 2018/19                                                  1.099

Grant Cyfalaf Cyffredinol                                                                                1.327

Benthyca â Chefnogaeth                                                                     2.026

Benthyca Di-gefnogaeth – Ysgolion yr 21ain Ganrif                                 1.847

Benthyca â Chefnogaeth– Ysgolion yr 21ain Ganrif                                1.943

Grantiau Allanol                                                                                18.728

Grant Atgyweirio Priffyrdd                                                                         0.580

Benthyca Di-gefnogaeth CRT                                                        1.000

Cyllid CRT                                                                                           9.450

 

Cyfanswm Cyllid                                                                              38.000

 

·           Bod £1.510m o gyllid heb ei ddefnyddio ar gyfer Gofal Ychwanegol Seiriol a Safleoedd Preswyl ar gyfer Sipsiwn a Theithwyr yn cael ei ryddhau yn ôl i’r Gronfa Gyfalaf Gyffredinol i gyllido’r canlynol –

 

·         Elfen y Cyngor o’r cyllid ar gyfer y 10 bid cyfalaf newydd a nodir ym mharagraff 3.3 yr adroddiad (£797k)

 

·         Prosiectau Buddsoddi i Arbed:- Effeithiolrwydd Ynni mewn Adeiladau Corfforaethol (£250k) a phrynu Cerbydau LPG a Thrydan newydd (£150k)

 

·                Cadarnhau bod y grant ychwanegol ar gyfer ail-wynebu Priffyrdd (£580k) yn ychwanegol i’r isafswm buddsoddiad cyfalaf (£779k)

Cofnodion:

Cyflwynwyd ar gyfer argymhelliad gan y Pwyllgor Gwaith – adroddiad y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 yn cynnwys cyllideb gyfalaf arfaethedig ar gyfer 2019/20.

 

Dywedodd yr Aelod Portffolio Cyllid fod angen i’r Pwyllgor Gwaith gynnig cyllideb gyfalaf ar gyfer 2019/20 a fydd wedyn yn cael ei chyflwyno i’r Cyngor Llawn yn ei gyfarfod ar 27 Chwefror, 2019. Roedd yr adroddiad yn gosod allan y brif raglen gyfalaf ar gyfer 2019/20 ynghyd â bidiau am gynlluniau ychwanegol yr oedd angen arweiniad gan y Pwyllgor Gwaith yn eu cylch.

 

Dywedodd y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 fod y gyllideb gyfalaf graidd yn ymgorffori’r strategaethau cyfalaf blaenorol sy’n seiliedig ar fuddsoddi mewn T.G., asedau cerbydau ac adeiladau, gosod wynebau newydd ar ffyrdd a darparu grantiau cyfleusterau i’r anabl yn unol â’r gofyniad statudol. Yr un modd â’r gorffennol, nid oes fawr o newid yn lefel y cyllid cyfalaf craidd y mae’r Cyngor yn ei dderbyn gan Lywodraeth Cymru (yn cynnwys y Grant Cyfalaf Cyffredinol a’r Benthyciadau gyda Chymorth heb eu neilltuo) sy’n golygu bod ei allu i wario yn gostwng bob blwyddyn gyda hynny’n cyfyngu ar yr hyn y gall y Cyngor ei wneud. Dros y blynyddoedd, mae’r Cyngor wedi defnyddio derbyniadau cyfalaf o werthu asedau nad oes eu hangen mwyach fel cyfraniad tuag at wariant cyfalaf. Fodd bynnag, ac eithrio’r safleoedd ysgolion sydd wedi cael eu rhyddhau o ganlyniad i’r Rhaglen Moderneiddio Ysgolion - mae’r arian a geir o hynny wedi cael ei glustnodi tuag at adeiladu ysgolion newydd - ychydig iawn o asedau eraill sydd gan y Cyngor i’w gwerthu ac o ganlyniad, mae’r swm sydd ar gael o dderbyniadau cyfalaf i ariannu gwariant cyfalaf newydd yn llai o lawer nag yr oedd yn y gorffennol.

 

Cyfeiriodd y Swyddog at yr isod fel materion y mae angen arweiniad gan y Pwyllgor Gwaith ar gyfer symud ymlaen –

 

           Mewn cyllidebau cyfalaf yn y gorffennol, mae £1m o gyllid cyfalaf wedi cael ei glustnodi tuag at brosiect Gofal Ychwanegol Seiriol. Fodd bynnag, oherwydd y bydd y prosiect hwn yn awr yn cael ei ariannu’n gyfan gwbl drwy’r Cyfrif Refeniw Tai, gellir yn awr ryddhau’r £1m a glustnodwyd i gyllido prosiectau cyfalaf eraill – mae angen penderfynu a dyllid rhyddhau’r arian hwn ai peidio.

           Yn Rhaglen Gyfalaf 2018/19, cafodd swm o £1.858m ei glustnodi ar gyfer y safleoedd parhaol a dros dro i Sipsiwn a Theithwyr gyda hynny’n cynnwys £0.450m o grant allanol ar gyfer y safle parhaol a £1.408m o adnoddau’r Cyngor ei hun. Bwriedir gwario £0.120m ar y cynllun yn 2018/19 gan olygu y bydd £1.288m o arian y Cyngor nad ydyw wedi ei ddefnyddio yn cael ei gario drosodd i 2019/20. Gan fod caniatâd cynllunio bellach wedi cael ei sicrhau ar gyfer y safle dros dro, mae £0.778m wedi cael ei gynnwys yn rhaglen gyfalaf ddrafft 2019/20 ar gyfer cwblhau’r prosiect hwn. Nid yw’r cynlluniau ar gyfer y safle parhaol wedi mynd rhagddynt mor gyflym – nid yw caniatâd cynllunio wedi cael ei roddi eto ac mae angen gwneud  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 7