Mater - cyfarfodydd

Ceisiadau Economaidd

Cyfarfod: 07/11/2018 - Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion (Eitem 8)

8 Ceisiadau Economaidd pdf eicon PDF 305 KB

8.1 34C262H/FR/ECON – Cig Môn, Stâd Ddiwydiannol Bryn Cefni, Llangefni

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

8.1       34C262H/FR/ECON – Cais llawn i godi adeilad yn cynnwys 8 o unedau ar wahân (i’w defnyddio i ddibenion diwydiannol ysgafn dan ddosbarthiadau defnydd B1, B2 a B8) ynghyd â datblygiad cysylltiedig ar dir ar hen safle Cig Môn, Stad Diwydiannol Bryn Cefni, Llangefni

 

Penderfynwyd cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad ac adroddiad y Swyddog a gyda’r amodau a oedd wedi eu cynnwys.

Cofnodion:

8.1       34C262H/FR/ECON – Cais llawn i godi adeilad yn cynnwys 8 o unedau ar wahân (i’w defnyddio i ddibenion diwydiannol ysgafn dan ddosbarthiadau defnydd B1, B2 a B8) ynghyd â datblygiad cysylltiedig ar dir ar hen safle Cig Môn, Stad Ddiwydiannol Bryn Cefni, Llangefni

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion oherwydd bod rhan o safle’r cais wedi ei leoli ar dir ym mherchnogaeth y Cyngor.

 

Adroddodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio y byddai’r unedau arfaethedig yn cael eu lleoli yn gyffredinol yng nghanol y safle gyda’r ffordd fynediad yn rhedeg mewn patrwm cylchol gwrth-glocwedd. Er bod safle’r cais gerllaw Afon Cefni ac mewn ardal Parth Llifogydd C2, gan ei fod ar gyfer dosbarthiadau defnydd B1, B2 a B8 mae’n cael ei gategoreiddio fel datblygiad llai bregus dan Nodyn Cyngor Technegol 15 ac felly ystyrir ei fod yn risg isel. Hefyd, bydd lefelau lloriau gorffenedig yr unedau uwchlaw lefelau llifogydd eithafol yr afon gyfagos. Cadarnhaodd y Swyddog bod Cyfoeth Naturiol Cymru wedi asesu’r cais ac ni chodwyd unrhyw wrthwynebiad i’r datblygiad arfaethedig. Bydd y cynnig yn dod â safle nad yw’n cael ei ddefnyddio erbyn hyn ôl i ddefnydd cyflogaeth cynaliadwy ac felly'r argymhelliad yw caniatáu’r cais. 

 

Cynigiodd y Cynghorydd Nicola Roberts fod y cais yn cael ei gymeradwyo yn unol ag argymhelliad y Swyddog; eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Robin Williams.

 

Penderfynwyd cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad ac adroddiad y Swyddog a gyda’r amodau a oedd wedi eu cynnwys.