Mater - cyfarfodydd

Gweddill y Ceisiadau

Cyfarfod: 05/12/2018 - Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion (Eitem 12)

12 Gweddill y Ceisiadau pdf eicon PDF 704 KB

12.1 19C411N/1/ENF – 20 Parc Felin Ddŵr, Llaingoch, Caergybi

12.2 19C448B – Mountain View, Greenfield Terrace, Caergybi

12.3  39C589A/VAR/ENF – 1 Tros y Môr, Ffordd Cynan, Porthaethwy

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

12.1  19C411N/ENF – Cais ôl-weithredol ar gyfer rhannu’r annedd i ffurfio dwy annedd ar wahân yn 20 Parc Felin Ddŵr, Llaingoch, Caergybi

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad ac adroddiad y Swyddog a gyda’r amodau a oedd wedi eu cynnwys.

 

12.2  19C448B – Cais amlinellol ar gyfer codi 2 annedd sydd yn cynnwys manylion llawn am y mynedfa ar dir rhwng Mountain View, Greenfield Terrace, Caergybi

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad ac adroddiad y Swyddog a gyda’r amodau a oedd wedi eu cynnwys ynghyd ag amodau ychwanegol mewn perthynas â draenio dŵr wyneb ac adfer tir halogedig.

 

12.3  39C589A/VAR/ENF – Cais o dan Adran 73A i ddiwygio amod (02) o ganiatâd cynllunio rhif 39C589 (Cais llawn ar gyfer addasu ag ehangu sydd yn cynnwys dec haul yn) er mwyn diwygio dyluniad y cynllun a gymeradwywyd, yn cynnwys dymchwel ac ail adeiladu rhan o’r llawr isaf yn 1 Tros y Môr, Ffordd Cynan, Porthaethwy

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad ac adroddiad y Swyddog a gyda’r amodau a oedd wedi eu cynnwys.

 

Cofnodion:

12.1  19C411N/ENF – Cais ôl-weithredol ar gyfer rhannu’r annedd i ffurfio dwy annedd ar wahân yn 20 Parc Felin Ddŵr, Llaingoch, Caergybi. 

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais yr Aelod Lleol. 

 

Dywedodd y Cynghorydd Shaun Redmond, Aelod Lleol, bod caniatâd Cynllunio wedi’i roi yn 2009 ar gyfer estyniad i 20 Parc Felin Ddŵr. Dywedodd fod y perchennog wedi cymryd mantais wrth ymestyn yr annedd er mwyn ffurfio dau annedd ar wahân heb ganiatâd gynllunio gan dorri polisïau cynllunio mewn modd sylweddol. Holodd y Cynghorydd Redmond a fyddai cais cynllunio a gyflwynwyd er mwyn trosi annedd ym Mharc Felin Ddŵr i ffurfio dwy annedd ar wahân yn cael ei gymeradwyo. Dywedodd fod angen ymyrraeth cyfreithiol er mwyn atal achosion o’r fath o dorri polisïau cynllunio. Dywedodd hefyd nad oedd yn derbyn na fyddai rhannu’r annedd yn cael unrhyw effaith andwyol ar yr eiddo cyfagos, dywedodd y bydd problemau parcio yn codi ac y bydd cerbydau’n cael eu hychwanegu i’r eiddo.       

 

Amlinellodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio y gwrthwynebiadau lleol i’r cais fel y nodwyd yn yr adroddiad. Dywedodd fod caniatâd cynllunio wedi ei gymeradwyo ar gyfer codi estyniad i’r annedd ym Mharc Felin Ddŵr ond yn dilyn ymweliadau gorfodi i’r eiddo ei bod hi’n amlwg bod yr annedd wedi ei rannu yn ddau eiddo. Mae gan Stad Parc Felin Ddŵr 18 annedd sy’n rhannu mynedfa i’r stad. Ni fydd y cais arfaethedig yn cael effaith andwyol ar yr eiddo cyfagos o ganlyniad i’r defnydd presennol o’r safle fel annedd preswyl. Gan gydnabod y rhoddwyd caniatâd yn wreiddiol ar gyfer addasiadau ac estyniadau, mae’r ymgeisydd wedi mynd ati i rannu’r annedd yn dilyn ymestyn yr eiddo. Mae’r cais yn cael ei ystyried ar hyn o bryd fel cais ôl-weithredol. Cyfeiriodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio at y prif ystyriaethau cynllunio sydd wedi eu cynnwys yn adroddiad y Swyddog a cyfeiriodd at Baragraff 14.2.3 o Lawlyfr Rheoli Datblygu Llywodraeth Cymru sy’n nodi:-  

  

Dylid sicrhau mai’r bwriad yw cywiro effeithiau’r datblygiad anawdurdodedig, nid cosbi’r person(au) sy’n cyflawni’r gweithrediad neu’r defnydd. Ni ddylid cymryd camau gorfodi ychwaith dim ond er mwyn unioni datblygiad na ofynnwyd am ganiatâd ar ei gyfer ond sy’n dderbyniol fel arall”.

 

Dywedodd hefyd fod yr Awdurdod Cynllunio yn delio â cheisiadau ôl-weithredol yn yr un modd ag unrhyw geisiadau Cynllunio newydd y bydd yn eu derbyn; bydd ceisiadau’n cael eu delio a nhw yn unol â’r polisïau cynllunio presennol er mwyn gallu penderfynu a ydynt yn dderbyniol.  

 

Mynegodd Aelodau’r Pwyllgor bryderon am y ceisiadau ôl-weithredol sy’n parhau i gael eu cyflwyno i’r Awdurdod Lleol. Awgrymwyd bod angen i’r Cyngor anfon mwy o dystiolaeth i Lywodraeth Cymru am y ceisiadau ôl-weithredol parhaus sy’n cael eu derbyn a bod angen adolygu polisïau mewn perthynas â cheisiadau o’r fath. 

 

Cynigiodd y Cynghorydd Robin Williams y dylid caniatáu’r cais ac eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd John Griffith.

 

          PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad ac           adroddiad y Swyddog a gyda’r amodau  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 12