Mater - cyfarfodydd

Budget Consultation Plan 2019/20

Cyfarfod: 12/11/2018 - Pwyllgor Gwaith (Eitem 4)

4 Cynllun Ymgynghori Cyllideb 2019/20 pdf eicon PDF 926 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Proffesiwn (Adnoddau Dynol) a Thrawsnewid.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Penderfynwyd cymeradwyo Cynllun Ymgynghori Cyllideb 2019/20 i’w wireddu yn ystod y cyfnod 12 Tachwedd hyd at 31 Rhagfyr, 2018.

Cofnodion:

Cafodd adroddiad y Pennaeth Proffesiwn (Adnoddau Dynol) a Thrawsnewid Corfforaethol yn ymgorffori’r Cynllun arfaethedig ar gyfer Ymgynghori ar Gyllideb 2019/20 ei gyflwyno er ystyriaeth y Pwyllgor Gwaith. Byddai’r Cynllun yn cael ei weithredu’n ystod y cyfnod rhwng 12 Tachwedd, 2018 a 31 Rhagfyr, 2018.

 

Dywedodd yr Aelod Portffolio ar gyfer Busnes Corfforaethol bod y Cynllun Ymgynghori ar y Gyllideb yn cael ei graffu a’i adolygu bob blwyddyn fel y gellir gwella cynlluniau ar gyfer y dyfodol. Mae Cynllun Ymgynghori 2019/20 yn ceisio ymgynghori’n ehangach gyda phobl ifanc a gwneud mwy o ddefnydd o’r cyfryngau cymdeithasol fel modd o godi ymwybyddiaeth ynghylch cynigion cyllidebol y Cyngor ac o gyrraedd pobl er mwyn cael eu sylwadau arnynt. Dywedodd yr Aelod Portffolio bod rôl bwysig yn hyn o beth i Aelodau hefyd o ran helpu pobl i ddeall y ffordd y mae’r Cyngor yn cael ei ariannu, sut y mae’n gwario arian cyhoeddus a pham y mae’n rhaid iddo dorri cyllidebau a gwasanaethau. 

 

Dywedodd y Cynghorydd Dylan Rees, Is-gadeirydd y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol fod y Pwyllgor Sgriwtini wedi ystyried Cynllun Ymgynghori ar Gyllideb 2019/20 yn ei gyfarfod ar 6 Tachwedd, 2018. Wrth dderbyn y Cynllun, roedd y Pwyllgor wedi sôn am bwysigrwydd sicrhau bod trefniadau cadarn yn eu lle ar gyfer ymgynghori’n effeithiol gyda phlant a phobl ifanc fel rhan o’r broses ymgynghori ac, yn ogystal, y dylai llesiant cenedlaethau’r dyfodol ffurfio rhan hanfodol bwysig o’r broses ac y dylid ymgynghori gyda’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus fel un o bartneriaid strategol y Cyngor.

 

Trafododd y Pwyllgor Gwaith y Cynllun gan awgrymu y dylid, er mwyn helpu’r cyhoedd i lunio barn am y cynigion y mae’r Cyngor yn eu cyflwyno ar gyfer sicrhau cyllideb gytbwys, baratoi clip fideo byr ac/neu daflen ffeithiau yn nodi’r cyd-destun i’r angen am arbedion, maint yr arbedion y mae’r Cyngor wedi eu gwneud hyn yma a’r her y mae’n ei hwynebu wrth geisio cwrdd â’r galw am wasanaethau pan mae cyllid yn cael ei dorri flwyddyn ar ôl blwyddyn.

 

Cadarnhaodd y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog 151 y bydd yr elfennau hynny’n cael eu cynnwys yn y pecyn ymgynghori pan gaiff ei gyhoeddi.

 

Penderfynwyd cymeradwyo Cynllun Ymgynghori Cyllideb 2019/20 i’w wireddu yn ystod y cyfnod 12 Tachwedd hyd at 31 Rhagfyr, 2018.