Mater - cyfarfodydd

Development of Gypsies and Travellers' Site, Star

Cyfarfod: 17/12/2018 - Pwyllgor Gwaith (Eitem 13)

Datblygu Safle i Sipsiwn a Theithwyr, Star

Cyflwyno adroddiad gan Bennaeth y Gwasanaethau Tai.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Penderfynwyd cymeradwyo’r canlynol –

 

·        Caffaeliad y tir yn Star ar gyfer y safle.

·        Y costau cyllideb cyfalaf ynghlwm â’r prosiect o ddarparu’r safle stopio dros dro yn Star.

·        Y gwaith tendro ar gyfer datblygiad y safle yn Star yn seiliedig ar yr amcanbrisiau a ddarparwyd a/neu o ganlyniad i ddefnyddio fframweithiau eraill.

·        Yr amserlen sydd wedi’i hamlinellu ar gyfer datblygu’r safle yn Star.

Cofnodion:

Cyflwynwyd i’r Pwyllgor Gwaith ei ystyriedadroddiad Pennaeth y Gwasanaethau Tai ar ddatblygu’r lle aros dros dro i Sipsiwn a Theithwyr yn Star. Roedd yr adroddiad yn darparu gwybodaeth ynglŷn â’r costau cyllideb cyfalaf angenrheidiol ar gyfer cyflawni’r prosiect ar y safle yn Star ynghyd â’r costau refeniw ailadroddus dangosol ar gyfer rhedeg y safle yn y dyfodol.

 

Am eu bod wedi datgan diddordeb sy’n rhagfarnu yn yr eitem hon, gadawodd y Cynghorwyr R. Meirion Jones, Alun Mummery a Robin Williams y cyfarfod tra oedd y drafodaeth yn mynd rhagddi a thra gwnaed y penderfyniad.

 

Ymhelaethodd Pennaeth y Gwasanaethau Tai ar gostau datblygu’r prosiect a’r amserlen, y broses dendro arfaethedig, y costau refeniw blynyddol sy’n parhau ar gyfer y safle ac ystyriaethau cysylltiedig.

 

Wrth nodi’r wybodaeth a gyflwynwyd, fe wnaeth y Pwyllgor Gwaith y pwyntiau a ganlyn

 

           Y dylid rhoi ystyriaeth i ddefnyddio fframweithiau caffael eraill yn ogystal â GwerthwchiGymru.

           Y dylid cyflymu’r amserlen ar gyfer cyflawni’r prosiect fel bod modd cwblhau’r prosiect yn gynt

           Os yw’n bosib, dylid talu am y costau refeniw parhaus ar gyfer y safle o’r incwm a grëir o’r safle heb orfod defnyddio arian o Gyllideb Refeniw y Cyngor.

 

Penderfynwyd cymeradwyo’r canlynol

 

           Caffaeliad y tir yn Star ar gyfer y safle.

           Y costau cyllideb cyfalaf ynghlwm â’r prosiect o ddarparu’r safle stopio dros dro yn Star.

           Y gwaith tendro ar gyfer datblygiad y safle yn Star yn seiliedig ar yr amcan-brisiau a ddarparwyd a/neu o ganlyniad i ddefnyddio fframweithiau eraill.

           Yr amserlen sydd wedi’i hamlinellu ar gyfer datblygu’r safle yn Star.