5 Blaen Raglen Waith y Pwyllgor Gwaith PDF 773 KB
Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd.
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
Penderfynwyd cadarnhau Blaen Rhaglen Waith y Pwyllgor Gwaith wedi ei diweddaru am y cyfnod Chwefror i Fedi, 2019 gyda’r newidiadau ychwanegol a amlinellwyd yn y cyfarfod.
Cofnodion:
Cyflwynwyd i’r Pwyllgor Gwaith ei ystyried – adroddiad Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd yn ymgorffori Blaen Raglen Waith y Pwyllgor Gwaith am y cyfnod Chwefror, 2019 i Medi, 2019.
Rhoddodd y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd ddiweddariad i’r Pwyllgor Gwaith fel a ganlyn –
Eitemau newydd i’r Rhaglen Waith -
• Eitem 1 – Ymgynghoriad ar y Strategaeth Doiledau. Mae’r penderfyniad wedi’i ddirprwyo i’r Deilydd Portffolio a’r amserlen ar gyfer ei gyhoeddi yw Ionawr/Chwefror, 2019.
• Eitem 7 – Strategaeth Gyfalaf i’w hystyried gan y Pwyllgor Gwaith yn ei gyfarfod ar 18 Chwefror, 2019.
• Eitem 8 – Cyllideb Gyfalaf, 2019/20 i’w hystyried gan y Pwyllgor Gwaith yn ei gyfarfod ar 18 Chwefror, 2019.
• Eitem 14 – Newidiadau i’r Cyfansoddiad (Rheolau Gweithdrefn Sgriwtini) i’w hystyried gan y Pwyllgor Gwaith yn ei gyfarfod ar 18 Chwefror, 2019.
• Eitem 23 – Polisi Taliadau Tai Dewisol i’w ystyried gan y Pwyllgor Gwaith yn ei gyfarfod ar 25 Mawrth, 2019.
• Eitem 24 – Adroddiad Blynyddol yr Ymddiriedolaeth Addysg Bellach i’w ystyried gan y Pwyllgor Gwaith yn ei gyfarfod ar 25 Mawrth, 2019.
• Eitem 25 – Cynllun Busnes y Cyfrif Refeniw Tai i’w ystyried gan y Pwyllgor Gwaith yn ei gyfarfod ar 25 Mawrth, 2019.
• Eitem 26 – Panel Comisiynu Cefnogi Pobl i’w ystyried gan y Pwyllgor Gwaith yn ei gyfarfod ar 25 Mawrth, 2019.
• Eitem 27 – Moderneiddio Ysgolion (Adroddiad ar wrthwynebiadau i adnewyddu ac ehangu Ysgol Llandegfan, cau Ysgol Biwmares ac adnewyddu Ysgol Llangoed) i’w ystyried gan y Pwyllgor Gwaith yn ei gyfarfod ar 25 Mawrth, 2019.
• Eitem 28 – Moderneiddio Ysgolion (Adroddiad ar wrthwynebiadau i ehangu Ysgol y Graig a chau Ysgol Talwrn) i’w ystyried gan y Pwyllgor Gwaith yn ei gyfarfod ar 25 Mawrth, 2019.
• Eitem 37 – Cerdyn Sgorio Corfforaethol 2019/20 Chwarter 1 i’w ystyried gan y Pwyllgor Gwaith yn ei gyfarfod ym mis Medi, 2019.
• Eitem 38 – Adroddiad Monitro’r Gyllideb Refeniw a Chyfalaf 2019/20, Chwarter 1 i’w ystyried gan y Pwyllgor Gwaith yn ei gyfarfod ym mis Medi, 2019.
Newidiadau ers cyhoeddi’r agenda a’r adroddiad uchod –
• Eitem 17 – Polisi Cludiant Ysgolion, wedi’i ail-raglennu o gyfarfod y Pwyllgor Gwaith ar 18 Chwefror, 2019 i’w gyfarfod ar 25 Mawrth, 2019.
• Eitem 22 – Darpariaeth Hamdden ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol – Cais gan y gwasanaeth i ail-raglennu’r eitem o gyfarfod y Pwyllgor Gwaith ar 25 Mawrth, 2019 i gyfarfod diweddarach ar ddyddiad i’w gadarnhau.
Penderfynwyd cadarnhau Blaen Rhaglen Waith y Pwyllgor Gwaith wedi ei diweddaru am y cyfnod Chwefror i Fedi, 2019 gyda’r newidiadau ychwanegol a amlinellwyd yn y cyfarfod.