8 Strategaeth Cyfranogiad Tenantiaid PDF 7 MB
Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Tai.
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
Penderfynwyd cymeradwyo’r Strategaeth Cyfranogiad Tenantiaid Lleol.
Cofnodion:
Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Tai yn ymgorffori’r Strategaeth Leol Cyfranogiad Tenantiaid am y cyfnod 2018-23 er ystyriaeth y Pwyllgor Gwaith.
Dywedodd yr Aelod Portffolio ar gyfer Tai a Chefnogi Cymunedau fod Llywodraeth Cymru yn disgwyl i Landlordiaid Cymdeithasol gytuno ar a chyhoeddi Strategaeth Gyfranogiad ar gyfer Gwasanaethau Tai. Drwy ddarparu strategaeth sy’n cynnig amrediad o ffyrdd o gymryd rhan, gall denantiaid ddewis sut a phryd y maent yn dymuno cyfranogi. Dywedodd yr Aelod Portffolio ei bod yn bwysig bod y Cyngor yn cymeradwyo Cyfranogiad Tenantiaid fel strategaeth o bwys.
Cadarnhaodd y Rheolwr Gwasanaethau Tai (Strategaeth, Comisiynu a Pholisi) bod cyfranogiad Tenantiaid yn cael ei ystyried fel rhywbeth pwysig gan y Gwasanaeth Tai. Mae’r Gwasanaeth yn defnyddio amrediad o ddulliau i ymgysylltu gyda thenantiaid ar wahanol lefelau. Dywedodd y Swyddog y gwnaed cynnydd yn ystod y flwyddyn ddiwethaf tuag at sicrhau cyfranogiad tenantiaid bywiog.
Penderfynwyd cymeradwyo’r Strategaeth Cyfranogiad Tenantiaid Lleol.