Mater - cyfarfodydd

Treasury Management Mid-Year Review

Cyfarfod: 28/01/2019 - Pwyllgor Gwaith (Eitem 7)

7 Adolygiad Canol Blwyddyn - Rheoli Trysorlys pdf eicon PDF 1 MB

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Penderfynwyd cymeradwyo adroddiad adolygu canol blwyddyn Rheoli’r Trysorlys 2018/19 a’i anfon ymlaen i’r Cyngor Llawn heb unrhyw sylw pellach.

Cofnodion:

Cyflwynwyd i’r Pwyllgor Gwaith ei ystyriedadroddiad y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 oedd yn ymgorffori adolygiad o’r sefyllfa a gweithgarwch Rheoli Trysorlys hanner ffordd trwy flwyddyn ariannol 2018/19.

 

Adroddodd yr Aelod Portffolio Cyllid fod yr adroddiad adolygiad canol-blwyddyn ar weithgareddau Rheoli Trysorlys y Cyngor wedi cael ei baratoi yn unol â gofynion Cod Ymarfer CIPFA ar Reoli Trysorlys; bydd yr adroddiad hefyd yn cael ei gyflwyno i’r Cyngor Llawn o dan delerau Cyfansoddiad y Cyngor.

 

Dywedodd y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 fod y Pwyllgor Archwilio a Llywodraethiant wedi ystyried a derbyn yr adroddiad heb unrhyw sylwadau ychwanegol. Gellir crynhoi’r prif bwyntiau fel a ganlyn

 

           Roedd y Cyngor yn dal gwerth £6.089m o fuddsoddiadau ar 30 Medi, 2018 a cheir manylion amdanynt yn Atodiad 4 yr adroddiad. Mae’r perfformiad am y flwyddyn hyd yma o ran yr arian a ddychwelwyd ar fuddsoddiadau sef £0.023m yn uwch na’r swm o £0.017m a gynhwyswyd yn y gyllideb, a’r rheswm am hyn oedd y cynnydd yn y gyfradd banc o 0.5% i 0.75% yn Awst, 2018.

           Mae’r gofyniad Cyllido Cyfalaf (CFR) a ragamcannir ar gyfer 2018/19 yn £142m. Mae hyn yn pennu angen gwaelodol y Cyngor i fenthyca er mwyn ariannu gwariant cyfalaf a chaiff ei gyllido trwy fenthyca allanol - £125.6m a hefyd fenthyca mewnol - £16.4m sy’n dod o falensau arian parod y Cyngor. Ym mis Ionawr, 2019 fe wnaeth benthyciad gan y PWLB (£5m) aeddfedu ac fe’i talwyd yn ôl ynghyd â benthyciad gan Gyngor Sir Gogledd Swydd Efrog (hefyd yn £5m); rhoddodd hyn gyfle i ailstrwythuro benthyciadau’r Cyngor a arweiniodd at fenthyciad o £15m ac roedd hynny’n cynnwys £5m i dalu’n ôl i PWLB; £5m i dalu’n ôl i Gyngor Sir Gogledd Swydd Efrog a £5m i ail-gydbwyso’r gyfran o fenthyca mewnol o gymharu â benthyca allanol er mwyn cynyddu balansau arian parod y Cyngor.

           Mae’r Cyngor yn gosod Dangosyddion Darbodus fel rhan o’i Strategaeth Rheoli Trysorlys ar gyfer y flwyddyn i ddod; caiff y rhain eu dylunio i reoli benthyca’r Cyngor gan sicrhau nad yw’n benthyca ar lefel sy’n anghynaladwy yn y tymor hir. Cyfeirir at y dangosyddion yn rhan 7 yr adroddiad. Ni ragwelir y ceir unrhyw anhawster cydymffurfio gyda’r dangosyddion yn y flwyddyn gyfredol. Mae Tabl 7.5.1 yr adroddiad yn dangos y balans rhwng benthyca allanol a mewnol gyda chyfanswm y benthyca mewnol wedi cael ei adolygu i lawr o’r amcangyfrif gwreiddiol o £27.467m i £16.409m o ganlyniad ostyngiad yn y gwariant cyfalaf a’r ailstrwythuro y cyfeiriwyd ato’n flaenorol.

 

Penderfynwyd cymeradwyo adroddiad adolygu canol blwyddyn Rheoli’r Trysorlys 2018/19 a’i anfon ymlaen i’r Cyngor Llawn heb unrhyw sylw pellach.