Mater - cyfarfodydd

Gweddill y Ceisiadau

Cyfarfod: 09/01/2019 - Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion (Eitem 12)

12 Gweddill y Ceisiadau pdf eicon PDF 535 KB

12.1  32LPA1047/CC – Tre Ifan, Caergeiliog

12.2  FPL/2018/4 – Maes yr Ysgol, Caergybi

12.3  FPL/2018/24 – Adran 4 Ffordd Gyswllt Llangefni

12.4  39C597 – Chwarel Cambria, Ffordd Cambria, Porthaethwy

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

12.1   32LPA1047/CC - Cais llawn ar gyfer codi 6 annedd ynghyd â chreu mynedfa i gerbydau ar dir yn Tre Ifan, Caergeiliog.

 

Penderfynwyd cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad ac adroddiad y Swyddog gyda’r amodau cynllunio sydd wedi eu cynnwys ac yn amodol hefyd ar gynnwys amod ychwanegol mewn perthynas â mesurau lliniaru sŵn.   

 

12.2  FPL/2018/4 - Cais llawn ar gyfer dymchwel y modurdai presennol ynghyd â chodi 4 annedd un person yn cynnwys lle parcio ym Maes yr Ysgol, Caergybi.

 

Penderfynwyd cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad ac adroddiad y Swyddog gyda’r  amodau sydd wedi eu cynnwys yn yr adroddiad.

 

12.3 FPL/2018/24 - Cais ôl weithredol ar gyfer adeiladu mynedfa amaethyddol a ffurfiodd ran o Adran 4 Ffordd Gyswllt Llangefni yn A5514, Llangefni

 

Penderfynwyd cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad ac adroddiad y Swyddog gyda’r amodau sydd wedi eu cynnwys yn yr adroddiad.

 

12.4 39C597 - Cais llawn ar gyfer codi annedd ynghyd ag addasu’r fynedfa bresennol i gerbydau ar dir yn hen Chwarel Cambria, Ffordd Cambria, Porthaethwy.

 

Penderfynwyd cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad ac adroddiad y Swyddog gyda’r amodau sydd wedi’u cynnwys yn yr adroddiad ac yn amodol hefyd ar amod ychwanegol yn gofyn am gael delio gydag unrhyw dir llygredig fel rhan o’r datblygiad. 

 

Cofnodion:

12.1    32LPA1047/CC – Cais llawn ar gyfer codi 6 annedd ynghyd â chreu mynedfa i gerbydau ar dir yn Tre Ifan, Caergeiliog

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion oherwydd mai Cyngor Sir Ynys Môn yw’r ymgeisydd a pherchennog y tir.

Adroddodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio fod rhan o’r cynnig yn golygu creu mynedfa newydd drwy Stad Tre Ifan yn ogystal â darparu llefydd parcio ar gyfer 12 o gerbydau. Oherwydd bod safle’r cais yn agos at safle Llu Awyr y Fali, cynhaliwyd asesiad sŵn ac mae Gwasanaethau Amgylcheddol y Cyngor wedi cadarnhau ei fod yn dderbyniol. Os bydd y cais yn cael ei ganiatáu bydd rhaid gosod amodau fydd yn ei gwneud yn ofynnol i ymgorffori mesurau lliniaru sŵn wrth adeiladu’r anheddau, a dyma sy’n cael ei gynnig. Ar hyn o bryd mae manylion draenio yn cael eu hasesu a chyflwynir amodau er mwyn sicrhau eu bod yn dderbyniol. Dywedodd y Swyddog bod y Gwasanaeth Dysgu Gydol Oes wedi cadarnhau, ar ôl i’r adroddiad gael ei gyhoeddi, nad oes angen cyfraniad tuag at addysg o ganlyniad i alw yn deillio o’r datblygiad arfaethedig. Fodd bynnag, mae’r amodau sy’n cael eu cynnig yn cynnwys amod i sicrhau fod y datblygiad yn darparu cyfran o dai fforddiadwy. Mae’r cynnig yn cydymffurfio â pholisi ac ystyrir ei fod yn dderbyniol yn ei leoliad. O ganlyniad, yr argymhelliad yw caniatáu’r cais.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Kenneth Hughes a fyddai’r datblygiad yn mynd yn ei flaen petai’r ysgol leol yn llawn ac yn methu derbyn unrhyw ddisgyblion ychwanegol.

 

Eglurodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio yr ymgynghorir â’r Gwasanaeth Dysgu Gydol Oes ynghylch ceisiadau tebyg i hwn er mwyn cael gwybod a yw’n ystyried bod angen cyfraniad ariannol tuag at ddarparu addysg yn yr ardal. Yn yr achos hwn, mae’r Gwasanaeth wedi cadarnhau nad yw’n gofyn am gyfraniad. Fodd bynnag, mae’r cais yn cael ei ystyried a gwneir penderfyniad ar sail cynllunio yn hytrach nac ar sail addysgol.

 

Dywedodd y Cynghorydd Kenneth Hughes, gan mai dyna oedd y sefyllfa, ei fod o’r farn fod gofyn i’r Gwasanaeth Dysgu Gydol Oes a yw’n dymuno gofyn am gyfraniad ariannol yn ddiffyg yn y broses gan fod rhieni â’r hawl i ddewis i ba ysgol i anfon eu plant a bod ganddynt yr hawl i beidio ag anfon eu plant i’r ysgol o gwbl, ond yn hytrach eu haddysgu gartref. Gofynnodd y Cynghorydd Hughes, o ystyried hawliau rhieni, a ddylai’r Awdurdod Cynllunio ofyn y cwestiwn hwn i’r Gwasanaeth Dysgu Gydol Oes.

 

Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio fod gofyn am gyfraniad ariannol tuag at wasanaeth neu gyfleusterau, yn cynnwys addysg lle bernir bod hynny’n angenrheidiol, yn bolisi a fabwysiadwyd ac a weithredwyd gan y Cyngor fel rhan o’r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd sydd yn nodi’r gofynion ynghylch cyfraniadau gan y datblygwr. Os yw pryderon yr Aelod ynglŷn â’r polisi yn rhai cyffredinol yn hytrach nag yn ymwneud â’r cais penodol dan ystyriaeth, yna mae’r mater hwnnw tu hwnt i gyfrifoldeb y Pwyllgor.

 

Dywedodd y Cynghorydd  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 12