Mater - cyfarfodydd

Gweddill y Ceisiadau

Cyfarfod: 06/02/2019 - Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion (Eitem 12)

12 Gweddill y Ceisiadau pdf eicon PDF 141 KB

12.1  41C137A/DA – Afallon, Penmynydd

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

 12.1 41C137A/DA - Cais am faterion a gadwyd yn ôl ar gyfer codi     annedd, creu mynedfa i gerbydau ynghyd â gosod system trin carthion yn Afallon, Penmynydd.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y swyddog a gyda’r amodau sydd wedi eu cynnwys yn yr adroddiad ysgrifenedig. 

Cofnodion:

12.1  41C137A/DA – Cais am faterion a gadwyd yn ôl ar gyfer codi annedd, adeiladu mynedfa i gerbydau ynghyd â gosod system trin carthion yn  Afallon, Penmynydd

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais yr Aelod Lleol.

 

Siaradwr Cyhoeddus

 

Dywedodd Mr Aled Jones (yn cefnogi’r cais) fod caniatâd cynllunio amlinellol wedi’i gymeradwyo yn 2016 ynghyd â’r fynedfa i’r safle. Dywedodd ymhellach fod lleoliad yr annedd wedi cael ei symud i ganol y plot a bod uchder y to wedi’i ostwng hefyd yn unol ag argymhellion y Swyddogion Cynllunio. Dywedodd Mr Jones fod trafodaethau wedi bod yn mynd rhagddynt gyda’r Adain Ddraenio ynglŷn â’r system ddraenio; roedd ar ddeall fod Swyddogion yr Adain Ddraenio wedi ymateb heddiw yn dweud bod y system ddraenio yn dderbyniol. Nododd fod preswylwyr yr eiddo sydd drws nesaf i Afallon wedi mynegi pryderon ynglŷn ag edrych drosodd â’r lefelau sŵn o’r safle ond bydd ffens acwstig yn cael ei chodi i leddfu unrhyw niwed i fwynderau’r eiddo cyfagos.

 

Dywedodd y Cynghorydd Alun Mummery, yn siarad fel Aelod Lleol, ei fod wedi galw’r cais i mewn oherwydd pryderon gan drigolion lleol. Darllenodd e-bost a dderbyniwyd ym mis Medi 2018 gan Swyddogion Cynllunio yn datgan nad oedd y cais yn cydymffurfio â’r cais amlinellol a gymeradwywyd oherwydd ei uchder a’i leoliad ar y safle. Dywedodd y Cynghorydd Mummery fod yr adroddiad ar gyfer y pwyllgor heddiw bellach yn datgan bod uchder a lleoliad yr annedd yn dderbyniol ac mae’r Adain Ddraenio hefyd wedi cadarnhau bod y system ddraenio yn dderbyniol. Holodd a oedd yn rhywbeth arferol i roi caniatâd i geisiadau cynllunio tra bod materion statudol heb gael sylw. Ymatebodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio mai diben y cais gerbron y Pwyllgor oedd cyflwyno materion a gadwyd yn ôl a manylion am y cais. Dywedodd yr Aelod Lleol ymhellach fod Cyngor Cymuned Penmynydd wedi mynegi pryderon ynglŷn â’r mynediad i’r safle o’r briffordd ac ystyriwyd y dylai’r Adran Briffyrdd ystyried torri’r gordyfiant o’r gwrychoedd yn ystod misoedd yr haf wrth y gyffordd yn ymyl safle’r cais. Ymatebodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio fod y mynediad i’r safle hefyd wedi’i gynnwys yn y cais amlinellol a gymeradwywyd yn 2016.  Nododd fod llythyr gan Gyngor Cymuned Penmynydd yn mynegi pryderon ynglŷn â’r mynediad i safle’r cais wedi’i dderbyn. Dywedodd y Swyddog eu bod wedi ymdrin â’r manylion ynglŷn â’r mynediad i’r safle yn ystod y broses cais amlinellol.

 

Adroddodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio mai cais materion a gadwyd yn ôl yw’r cais hwn a’i fod yn cydymffurfio â’r caniatâd cynllunio amlinellol sy’n bodoli ac a gymeradwywyd yn flaenorol ym mis Mai 2016 o dan yr hen Gynllun Lleol Ynys Môn ac o dan ddarpariaethau Polisi 50. Nodwyd fod llythyr pellach o wrthwynebiad wedi’i dderbyn ynglŷn â’r cais. Dywedodd fod lleoliad yr annedd wysg ei ochr o fewn y plot er mwyn lleddfu’r mater edrych drosodd ar eiddo cyfagos. Bydd ffens acwstig yn cael ei chodi gyda’r ffin sydd gyfagos ag Afallon, yr  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 12