8 Cynllun Busnes y Cyfrif Refeniw Tai PDF 2 MB
Cyflwyno adroddiad gan Bennaeth y Gwasanaethau Tai.
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
Penderfynwyd –
• Cymeradwyo Cynllun Busnes 2019-2049 ar gyfer y Cyfrif Refeniw Tai (CRT), ac yn arbennig cyllideb y Cyfrif Refeniw Tai ar gyfer 2019-2020 i'w cyflwyno i Lywodraeth Cymru;
• Cymeradwyo’r Rhaglen Gyfalaf arfaethedig ar gyfer Tai am 2019-2020 fel y nodir yn y Gyllideb Cyfalaf.
• Rhoi awdurdod dirprwyedig i’r Deilodd Portffolio Tai, Pennaeth Gwasanaeth Tai a’r Pennaeth Swyddogaeth - Adnoddau a’r Swyddog Adran 151, i gytuno dyluniad a geiriad terfynol y Cynllun Busnes 2019 - 2049, cyn ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru.
Cofnodion:
Cyflwynwyd i’r Pwyllgor Gwaith ei ystyried – adroddiad Pennaeth y Gwasanaethau Tai yn ymgorffori Cynllun Busnes y Cyfrif Refeniw Tai am y cyfnod 2019 i 2049.
Adroddodd yr Aelod Portffolio ar gyfer Tai a Chefnogi Cymunedau fod Cynllun Busnes y CRT yn ffurfio’r prif gyfrwng ar gyfer cynllunio ariannol mewn perthynas â chyflawni a rheoli stoc tai y Cyngor. Yn arbennig, mae’r Cynllun Busnes yn dangos sut daw’r Cyngor â’i holl stoc i fyny at Safonau Ansawdd Tai Cymru (mae yna dal rai eiddo sydd wedi ei categoreiddio fel “methiannau derbyniol”); sut mae’r Cyngor yn bwriadu cynnal SATC a rhagori arnynt, a’r buddsoddiad sydd ei angen i gynyddu’r stoc tai. Trwy’r CRT, mae’r Cyngor yn berchen ac yn rheoli 3,819 o eiddo ac ychydig dros 700 o garejys ar hyd a lled yr ynys. Dros gyfnod y Cynllun Busnes, bydd y stoc yn cynyddu i dros 5,000 o unedau.
Dywedodd yr Aelod Portffolio fod Cynllun Busnes y CRT yn rhoi gweledigaeth bositif ar gyfer dyfodol stoc tai’r Cyngor a chymeradwyodd y Cynllun Busnes i’r Pwyllgor Gwaith.
Rhoddodd Bennaeth y Gwasanaethau Tai ddiweddariad i’r Pwyllgor Gwaith trwy gadarnhau y bu rhai newidiadau yn y ffigurau, a chawsai’r rhain eu cylchredeg i’r Aelodau yn ystod yr wythnos. Mae blwyddyn gyntaf y Cynllun Busnes yn seiliedig ar gyllideb 2019/20 a gafodd ei chymeradwyo gan y Cyngor ym mis Chwefror, 2019. Yn y cyfnod ers mis Chwefror, canfuwyd wrth gysoni’r ffigyrau fod rhai elfennau wedi llithro gan arwain at rai newidiadau yn arbennig i’r ffigyrau ar gyfer adeiladu tai newydd ym Mlwyddyn 1 y Cynllun, a chanlyniad hynny yw bod £2m yn ychwanegol wedi’i gynnwys ar gyfer Blwyddyn 1. Mae hyn wedi arwain at fymryn o gynnydd yn y lefel benthyca, ac ym Mlwyddyn 1 bydd cronfeydd wrth gefn y CRT yn talu am hynny. Mae’n fwriad yn y Cynllun Busnes i ddangos hyfywedd y Cyfrif Refeniw Tai dros y cyfnod 30 blynedd, a’r flaenoriaeth yw cynnal a rhagori ar Safonau Ansawdd Tai Cymru a chynyddu’r stoc tai gan felly roi hwb i’r economi leol wrth i’r Cyngor weithredu ei raglen datblygu tai.
Penderfynwyd –
• Cymeradwyo Cynllun Busnes 2019-2049 ar gyfer y Cyfrif Refeniw Tai (CRT), ac yn arbennig cyllideb y Cyfrif Refeniw Tai ar gyfer 2019-2020 i'w cyflwyno i Lywodraeth Cymru.
• Cymeradwyo’r Rhaglen Gyfalaf arfaethedig ar gyfer Tai am 2019-2020 fel y nodir yn y Gyllideb Cyfalaf.
• Rhoi awdurdod dirprwyedig i’r Aelod Portffolio Tai, Pennaeth y Gwasanaethau Tai a’r Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151, i gytuno dyluniad a geiriad terfynol y Cynllun Busnes 2019 – 2049, cyn ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru.