Mater - cyfarfodydd

School Transport Policy

Cyfarfod: 25/03/2019 - Pwyllgor Gwaith (Eitem 11)

11 Polisi Cludiant Ysgolion pdf eicon PDF 1 MB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Dysgu.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Penderfynwyd –

 

·         Mabwysiadu’r Polisi Cludiant Ysgol diwygiedig i’w weithredu o ddechrau’r flwyddyn academaidd newydd (Medi 2019).

·         Nodi sylwadau’r Panel Sgriwtini Cyllid.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd i’r Pwyllgor Gwaith ei gymeradwyoadroddiad y Pennaeth Dysgu yn ymgorffori Polisi Cludiant Ysgol diwygiedig.

 

Adroddodd yr Aelod Portffolio ar gyfer Addysg, Llyfrgelloedd, Diwylliant a Ieuenctid, er na chynigir unrhyw newidiadau sylfaenol i’r meini prawf cymhwyster ar gyfer cludiant ysgol (mae’r rhain wedi eu hamlinellu yn adran 1.2.1 yr adroddiad), mae’r polisi diwygiedig yn rhoi eglurhad manwl ar y meysydd a amlinellir yn adran 1.2 yr adroddiad. Cyfeiriodd yr Aelod Portffolio at sylwadau’r Panel Sgriwtini Cyllidroedd y Panel wedi rhoi ystyriaeth fanwl i effaith ariannol y polisi cludiant diwygiedig yn ei gyfarfod ar 14 Chwefror, 2019, gan nodi’r gwaith cysoni ar lwybrau tacsi a oedd wedi digwydd i gadarnhau cymhwyster am y gwasanaeth; y gostyngiad yn nifer y plant sy’n derbyn y gwasanaeth o ganlyniad i’r gwaith cysoni; annigonolrwydd y gyllideb hanesyddol i gwrdd â chost y galw am wasanaethau, a datblygiad gwaith partneriaeth yn y maes hwn rhwng y Gwasanaethau Dysgu, Priffyrdd ac Adnoddau.

 

Dywedodd y Pennaeth Dysgu fod y Polisi Cludiant Ysgol cyfredol wedi cael ei adolygu i gwrdd â gofynion Mesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008 ac i roi dealltwriaeth gynhwysfawr i fudd-ddeiliaid o’r hyn sy’n gwneud teithwyr yn gymwys am gludiant. Bydd y polisi diwygiedig hefyd yn sicrhau bod yr Adrannau Addysg a Phriffyrdd yn gweithredu’n effeithiol i ddarparu’r gwasanaeth a bydd yn cadarnhau eu gweithdrefnau darparu cludiant. Bydd y polisi hefyd yn darparu gwerth am arian a gwasanaeth o ansawdd i fudd-ddeiliaid.

 

Adroddodd y Cynghorydd Dylan Rees o gyfarfod y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol ar 19 Mawrth, 2019 lle cafodd y Polisi Cludiant Ysgol diwygiedig ei drafod. Wrth argymell i’r Pwyllgor Gwaith ei fod yn mabwysiadu’r polisi, roedd y Pwyllgor Sgriwtini wedi nodi fod y polisi diwygiedig yn fersiwn gliriach o’r polisi cyfredol ac nad yw’n cyflwyno unrhyw beth newydd a’i fod yn cydymffurfio’n llawn â Mesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008. Roedd y Pwyllgor hefyd wedi argymell, lle bo hynny’n ymarferol, y dylid rhoi ystyriaeth i amseriad cludiant ysgol er mwyn sicrhau bod modd i ddisgyblion sydd angen mynychu clybiau brecwast gael cludiant i’r clybiau hynny.

 

Penderfynwyd

 

           Mabwysiadu’r Polisi Cludiant Ysgol diwygiedig i ddod i rym ar ddechrau’r flwyddyn academaidd newydd (Medi 2019).

           Nodi sylwadau’r Panel Sgriwtini Cyllid.