10 Grant Plant a Chymunedau 2019/20 PDF 786 KB
Cyflwyno adroddiad ar y cyd gan y Pennaeth Dysgu, Pennaeth y Gwasanaethau Plant a Theuluoedd a Phennaeth y Gwasanaethau Tai.
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
Penderfynwyd cymeradwyo’r Cynllun Plant a Chymunedau Drafft ar gyfer 2019-20.
Cofnodion:
Cyflwynwyd i’r Pwyllgor Gwaith ei gymeradwyo – adroddiad ar y cyd y Pennaeth Dysgu, Pennaeth y Gwasanaethau Plant a Theuluoedd a’r Pennaeth Gwasanaethau Tai, yn ymgorffori’r Cynllun Drafft Plant a Chymunedau 2019/20.
Adroddodd Rheolwr yr Uned Cefnogi Teuluoedd y bydd Llywodraeth Cymru, o fis Ebrill 2019 ymlaen, yn cyfuno’r 7 grant unigol a restrir yn yr adroddiad o dan y Rhaglen Grant Plant a Chymunedau. Er bod pob rhaglen unigol yn parhau i gynllunio ac i adrodd yn annibynnol i Lywodraeth Cymru, yn unol â’r fenter Cyllid Hyblyg newydd, mae’n rhaid i’r Awdurdod nawr gyflwyno un cais grant am y grantiau hyn. Mae blwyddyn ariannol 2019/20 yn cael ei gweld fel blwyddyn drosiannol gyda gwaith pellach yn cael ei wneud i fapio a chydgysylltu gwasanaethau er mwyn gwella’r ffocws ar y cwsmer a chanlyniadau i’r cwsmer. Ceisir cymeradwyaeth y Pwyllgor Gwaith ar gyfer Cynllun 2019-20 gyda’r bwriad wedyn o ddychwelyd gyda chynllun ar gyfer 2020 ymlaen lle bydd y rhaglenni grant wedi eu halinio’n well ac yn targedu grwpiau penodol/darparu gwasanaethau penodol yn unol â demograffeg lleol.
Nododd y Pwyllgor Gwaith fod rhaid i’r Awdurdod fod yn barod am y posibilrwydd o ostyngiad yn y cyllid o ganlyniad i gyfuno’r 7 grant unigol.
Penderfynwyd cymeradwyo’r Cynllun Drafft Plant a Chymunedau ar gyfer 2019-20.