Mater - cyfarfodydd

Schools Modernisation - Report on Objections to the Refurbishment and Expansion of Ysgol Llandegfan, Closure of Ysgol Beaumaris and Refurbishement of Ysgol Llangoed

Cyfarfod: 07/03/2019 - Pwyllgor Gwaith (Eitem 2)

2 Moderneiddio Ysgolion ar Ynys Mon - Adroddiad yn dilyn cyhoeddi'r rhybudd statudol ar gyfer cau Ysgol Gynradd Biwmares, ehangu ac adnewyddu Ysgol Llandegfan ac adnewyddu Ysgol Llangoed, a chymeradwyaeth o'r cynnig gwreiddiol pdf eicon PDF 704 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Dysgu.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Penderfynwyd -

 

·        Cymeradwyo’r cynnig gwreiddiol, sef i adnewyddu ac ymestyn Ysgol Llandegfan, cau Ysgol Biwmares ac adnewyddu Ysgol Llangoed.

·        Awdurdodi Swyddogion i barhau gyda’r broses o adnewyddu ac ymestyn Ysgol Llangoed, cau Ysgol Biwmares, ac adnewyddu Ysgol Llangoed.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd er ystyriaeth y Pwyllgor Gwaith – adroddiad y Pennaeth Dysgu yn ymgorffori adroddiad ar wrthwynebiadau (Atodiad 1) yn dilyn cyhoeddi Rhybudd Statudol o fwriad yr Awdurdod i gau Ysgol Biwmares, ehangu ac adnewyddu Ysgol Llandegfan ac adnewyddu Ysgol Llangoed.

 

Dywedodd yr Aelod Portffolio ar gyfer Addysg, Llyfrgelloedd, Diwylliant ac Ieuenctid bod yr Awdurdod, er mwyn cydymffurfio â gofynion Deddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013, wedi cyhoeddi Rhybudd Statudol o’i fwriad i gau Ysgol Biwmares, i ehangu ac adnewyddu Ysgol Llandegfan ac adnewyddu Ysgol Llangoed. Cyhoeddwyd y Rhybudd Statudol ar 14 Ionawr, 2019  gyda chyfnod o 28 diwrnod i ddilyn ar gyfer cyflwyno gwrthwynebiadau i’r cynnig. Yn Atodiad 1 yr adroddiad, ceir crynodeb o’r 50 o wrthwynebiadau a dderbyniwyd ynghyd ag ymateb yr Awdurdod i bob gwrthwynebiad. Mae’r modd y mae’r Cyngor yn delio gyda gwrthwynebiadau i rybudd statudol yn cydymffurfio â’r weithdrefn a amlinellwyd yn y Côd Trefniadaeth Ysgolion 2013 sy’n golygu bod angen i’r Pwyllgor Gwaith gymeradwyo’r cynigion, eu gwrthod neu eu cymeradwyo gyda newidiadau.  Cafodd rhybudd statudol o fwriad yr Awdurdod i weithredu’r cynnig ei gyhoeddi’n wreiddiol ar 22 Tachwedd, 2018 a oedd yn golygu bod y cyfnod gwrthwynebu 28 diwrnod yn cau ar 27 Rhagfyr, 2018 a oedd yn cyd-dddigwydd â gwyliau’r ysgol. Er mwyn caniatáu mwy o amser i gydranddeiliaid ymateb, cyhoeddwyd rhybudd statudol pellach ar 14 Ionawr, 2019 a daeth y cyfnod gwrthwynebu i ben ar 10 Chwefror, 2019.

 

Dywedodd yr Aelod Portffolio y cychwynnwyd ar y broses o foderneiddio’r ddarpariaeth addysg gynradd yn ardal Seiriol ym mis Mehefin, 2017 gydag ymgynghoriad anstatudol. Wedi hynny, cynhaliwyd proses ymgynghori statudol. Ar 26 Mawrth, 2018, penderfynodd y pwyllgor gwaith ohirio gwneud penderfyniad er mwyn cynnal ymgynghoriad statudol newydd ar y cynigion ar gyfer addysg gynradd yn yr ardal. Dywedodd yr Aelod Portffolio bod cyfarfod heddiw, ble mae’n rhaid i’r Pwyllgor Gwaith gadarnhau, gwrthod neu ddiwygio’r cynigon a gymeradwywyd ganddo ar 18 Gorffennaf, 2018 lle byddai Ysgol Llandegfan yn cael ei hehangu a’i hadnewyddu, Ysgol Biwmares yn cau ac Ysgol Llangoed yn cael ei hadnewyddu, yn benllanw proses faith lle rhoddwyd sylw manwl i ddyfodol addysg gynradd yn Ardal Seiriol sydd wedi golygu ymgynghori eang ar hyd y ffordd ynghyd a chyfnod o oedi er mwyn ail-gynnal ymgynghoriad.

 

Cyfeiriodd y Pennaeth Dysgu at y gwrthwynebiadau a nodwyd yn Atodiad 1 yr adroddiad ac y gellir eu crynhoi dan y themâu isod –

 

           Ar sail proses gan gynnwys y modd y cynhaliwyd yr ymgynghoriadau a’r modd y cyhoeddwyd y rhybudd statudol.

           Ar sail effeithiau posibl y cynnig ar dref Biwmares a’i demograffi.

           Yn seiliedig ar anghytundeb gyda’r opsiwn a ffefrir.

           Ar y sail nad oes digon o ystyriaeth wedi’i rhoi i opsiynau eraill.

           Ar y sail y gallai’r cynigion arwain at rieni’n dewis anfon eu plant i ysgolion ar y tir mawr.

           Ar y sail nad oes digon o ystyriaeth wedi’i rhoi i Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015

           Ar y sail nad oes unrhyw grŵp cydranddeiliaid wedi cael ei  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 2