6 Ceisiadau Fydd yn Cael eu Gohirio PDF 344 KB
6.1 19C1231 – Stâd Cae Rhos, Ffordd Porthdafarch, Caergybi
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
6.1 19C1231 – Cais amlinellol ar gyfer codi 32 annedd marchnad a 4 annedd fforddiadwy, adeiladu mynedfa newydd i gerbydau a cherddwyr, darparu man chwarae a mannau agored ynghyd â manylion llawn y fynedfa a’r gosodiad ar dir ger Stâd Cae Rhos, Ffordd Porthdafarch, Caergybi
PENDERFYNWYD gohirio ystyried y cais yn unol â’r rhesymau a nodwyd ac argymhelliad y Swyddog.
Cofnodion:
6.1 19C1231 – Cais amlinellol ar gyfer codi 32 annedd marchnad a 4 annedd fforddiadwy, adeiladu mynedfa newydd i gerbydau a cherddwyr, darparu man chwarae a mannau agored ynghyd â manylion llawn y fynedfa a’r gosodiad ar dir ger Stad Cae Rhos, Ffordd Porthdafarch, Caergybi
Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion oherwydd iddo gael ei gyfeirio gan Aelodau Lleol. Yn ei gyfarfod ar 8 Ionawr 2020 penderfynodd y Pwyllgor i ymweld â safle’r cais cyn gwneud penderfyniad arno. Ymwelwyd â’r safle ar 22 Ionawr 2020.
Adroddodd y Swyddog Gorfodaeth Cynllunio na dderbyniwyd ymateb yr Awdurdod Cynllunio mewn perthynas â’r arolwg traffig a pharcio. Ychwanegodd, yn dilyn derbyn adroddiad gan aelod o’r cyhoedd, bod Cyfoeth Naturiol Cymru wedi hysbysu’r awdurdod bod daear moch daear yn agos i safle’r cais ac nad oedd y ddaear honno wedi’i nodi yn yr arolwg ecolegol a gyflwynwyd gyda’r cais cynllunio. O ganlyniad, bydd rhaid cael rhagor o wybodaeth ecolegol. Yr argymhelliad i’r Pwyllgor oedd gohirio’r cais.
PENDERFYNWYD gohirio ystyried y cais am y rhesymau a nodwyd yn unol ag argymhelliad y Swyddog.