Mater - cyfarfodydd

Departure Applications

Cyfarfod: 06/03/2019 - Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion (Eitem 10)

10 Ceisiadau'n Gwyro pdf eicon PDF 384 KB

10.1 VAR/2018/14 – Plotiau 8, 9 a 10, Yr Herb Garden, Llain Capelulo, Pentre Berw, Gaerwen

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

10.1    VAR/2018/14 – Cais o dan Adran 73A i amrywio amod (07) (Cynlluniau a Gymeradwywyd) o gais cynllunio cyfeirnod 33C102G (Codi 3 annedd ar blot 8, 9 a 10) er mwyn cynyddu eu maint a newid cyfeiriadedd y safle i fod yn anheddau 4 ystafell wely ynghyd ag addasu gosodiad y llefydd parcio ym Mhlotiau 8, 9 a 10, The Herb Garden, Llain Capelulo, Pentre Berw, Gaerwen

Penderfynwyd cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad ac adroddiad y Swyddog, gyda’r amodau cynllunio sydd wedi’u cynnwys yn yr adroddiad hwnnw, ac ar yr amod na chaiff unrhyw faterion newydd eu codi cyn i’r cyfnod ymgynghori ddod i ben ar ddiwedd 6 Mawrth, 2019.

Cofnodion:

Cyfeiriwyd y cais at y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod y cais yn groes i bolisïau’r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd ond yn un y mae’r Awdurdod yn dymuno ei ganiatáu. 

Adroddodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio fod y cais yn cynnwys lleihau maint dwy annedd a chynyddu maint un annedd a gafodd ei chymeradwyo’n flaenorol ar y safle ynghyd â symud yr annedd o fewn y plot. Rhoddwyd caniatâd cynllunio am stad o dai ar y safle yn wreiddiol yn 2006 gyda chaniatâd pellach ar gyfer anheddau ar Blotiau 8, 9 a 10 yn cael eu rhoi yn 2008. Nid yw’r cais yn cydymffurfio â gofynion Polisi TAI 6 o ran bod ar gael fel tai marchnad agored pan o dan Bolisi TAI6. Mae Pentre Berw wedi ei adnabod fel clwstwr lle mae ceisiadau yn gallu cael eu cefnogi fel tai fforddiadwy ar gyfer angen lleol. Fodd bynnag, mae darpariaeth ar gyfer tai fforddiadwy yn ffurfio rhan o’r stad bresennol. Mae un llythyr o wrthwynebiad wedi ei dderbyn ar y sail a amlinellwyd yn yr adroddiad. Gan fod y safle eisoes â chaniatâd cynllunio a gan na ystyrir fod y newidiadau yn ddirywiad o’r dyluniad a’r gosodiad a gafodd ei gymeradwyo o dan y caniatâd blaenorol ac nad ydynt yn cael unrhyw effaith ar yr eiddo preswyl cyfagos, y tu hwnt i’r hyn sydd wedi’i ganiatáu yn flaenorol ar y safle, mae’r argymhelliad yn un o ganiatáu’r cais. Dywedodd y Swyddog na fyddai’r caniatâd cynllunio, petai’n cael ei roi, yn cael ei ryddhau tan ar ôl i’r cyfnod ymgynghori ddod i ben ddiwedd heddiw, 6 Mawrth, 2019. 

Cynigiodd y Cynghorydd Bryan Owen y dylid caniatáu’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog. Eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Robin Williams. 