Mater - cyfarfodydd

Development Proposals Submitted by Councillors and Officers

Cyfarfod: 06/03/2019 - Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion (Eitem 11)

11 Cynigion Datblygu gan Gynghorwyr a Swyddogion pdf eicon PDF 406 KB

11.1 MAO/2019/3 – Bryntwrog, Gwalchmai

11.2 HHP/2019/39 – Gardd y Plas, Llanddeusant

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

11.1    48C182B/MIN – Mân newidiadau i gynllun a ganiatawyd yn flaenorol o dan ganiatâd cynllunio 48C182A/DA er mwyn addasu’r dyluniad ar dir ger Bryntwrog, Gwalchmai

Penderfynwyd cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad ac adroddiad y Swyddog, gyda’r amod yn yr adroddiad hwnnw.

11.2    HHP/2019/39 – Cais llawn am addasiadau ac estyniadau ynghyd â chodi garej ar wahân yng Ngardd y Plas, Llanddeusant

Penderfynwyd cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad ac adroddiad y Swyddog, gyda’r amodau sydd wedi eu cynnwys yn yr adroddiad, ac ar yr amod na chaiff unrhyw faterion newydd eu codi cyn i’r cyfnod ymgynghori ddod i ben ar ddiwedd 8 Mawrth, 2019.

Cofnodion:

11.1    48C182B/MIN – Mân newidiadau i gynllun a ganiatawyd yn flaenorol o dan ganiatâd cynllunio 48C182A/DA er mwyn addasu’r dyluniad ar dir ger Bryntwrog, Gwalchmai

Cyfeiriwyd y cais at y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod yr ymgeisydd yn perthyn i swyddog perthnasol. Mae’r ffeil wedi ei hadolygu gan y Swyddog Monitro. 

Adroddodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio fod y cais yn un sy’n dilyn cais diweddar a gafodd ei gymeradwyo’n ddiweddar gan y Pwyllgor i dynnu unrhyw amodau cynllunio perthnasol i’r Cod Tai Cynaliadwy ac i ychwanegu amod sydd angen i’r datblygiad gael ei ymgymryd ag ef yn unol â’r cynlluniau sydd wedi’u cymeradwyo er mwyn galluogi’r ymgeisydd i gyflwyno cais o dan Adran 73 Deddf Cynllunio Gwlad a Thref i amrywio dyluniad y cynllun. Mae cynllun diwygiedig wedi’r dderbyn a safbwynt y Swyddog yw nad yw’r newidiadau sydd wedi eu hargymell yn rhai sylweddol ac o ganlyniad y gellir delio â nhw o dan Adran 96A o’r Ddeddf. Ni ragwelir y bydd y newidiadau, fel y’u nodir yn yr adroddiad, yn cael effaith andwyol ar yr amwynderau y mae deiliaid eiddo cyfagos yn eu mwynhau ar hyn o bryd, mwy na’r rheiny a gymeradwywyd eisoes. Mae’r argymhelliad yn un o ganiatáucais.  

Cynigiodd y Cynghorydd Eric Jones y dylid caniatáu’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog. Eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Bryan Owen.

Penderfynwyd cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad ac adroddiad y Swyddog, gyda’r amod yn yr adroddiad hwnnw.

11.2    HHP/2019/39 – Cais llawn am addasiadau ac estyniadau ynghyd â chodi garej ar wahân yng Ngardd y Plas, Llanddeusant

Cyfeiriwyd y cais at y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod y cais yn cael ei wneud gan berthynas agos i swyddog perthnasol. Mae’r cais wedi’i adolygu gan y Swyddog Monitro yn unol â gofynion Cyfansoddiad y Cyngor.

Adroddodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio fo yn cais yn cynnwys codi garej un llawr ar ei phen ei hun â chanddi do ar ongl a fydd wedi’i lleoli ar ddrychiad ochr yr annedd. Bydd y garej bresennol yn cael ei newid yn le byw er mwyn darparu ystafell wely ychwanegol ac ystafell aml-bwrpas. Dywedodd y Swyddog bod y cynllun yn dderbyniol o fewn ei leoliad ac na fydd yn golygu dirywiad yn amwynder preswyl unrhyw eiddo cyfagos. Gan nad yw’r cyfnod ymgynghori yn dod i ben tan 8 Mawrth 2019, ni fydd y caniatâd cynllunio os y’i rhoddir, yn cael ei ryddhau tan ar ôl y dyddiad hwnnw. 