Mater - cyfarfodydd

Gweddill y Ceisiadau

Cyfarfod: 06/03/2019 - Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion (Eitem 12)

12 Gweddill y Ceisiadau pdf eicon PDF 2 MB

12.1 FPL/2019/7 – Bryn Meurig, Llangefni

 

12.2 19C779N/VAR – Uned 1 ac Uned 2, Parc Busnes Penrhos, Caergybi

 

12.3 FPL/2019/16 – Maes Awyr Môn, Caergeiliog

 

12.4 46C622/ENF – Y Borth, Ffordd Porthdafarch, Caergybi

 

12.5 FPL/2018/30 – Cyffordd 7, Gaerwen

 

12.6 DIS/2019/7 – Castle Meadow, Biwmares

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

12.1    FPL/2019/7 – Cais Llawn i godi ysgol gynradd newydd a chreu mynedfa newydd i gerbydau i’r B5109 ar dir gyferbyn â Bryn Meurig, Llangefni

 

Penderfynwyd cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad ac adroddiad y Swyddog, gyda’r amodau cynllunio sydd wedi eu cynnwys yn yr adroddiad, a chydag amod ychwanegol mewn perthynas â golau i liniaru unrhyw effaith bosib ar ystlumod.

 

12.2    19C779N/VAR – Cais o dan Adran 73A i amrywio amodau (02) (mân-werthu di-fwyd) a (12) (darluniau fel y’u cymeradwywyd) o ganiatâd cynllunio cyfeirnod 19C779A ac amod (01) (mân-werthu di-fwyd) o ganiatâd cynllunio 19C779J (Codi uned fân-werthu dosbarth A1) fel y gellir gwerthu ac arddangos nwyddau hwylus a chymhariaeth ynghyd â ffurfio un uned yn lle dwy uned yn Uned 1 ac Uned 2, Parc Busnes Penrhos, Caergybi

 

Penderfynwyd, yn amodol ar dderbyn ymateb Adran Briffyrdd Llywodraeth Cymru, cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad ac adroddiad y Swyddog, a hefyd gyda’r amodau cynllunio sydd wedi eu cynnwys yn yr adroddiad hwnnw.

 

12.3    FPL/2019/16 – Cais llawn ar gyfer dymchwel y ffens presennol ynghyd â chodi ffens newydd ym Maes Awyr Môn

 

Penderfynwyd cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad ac adroddiad y Swyddog gyda’r amod sydd wedi’i chynnwys ynddo ac yn amodol hefyd ar dderbyn cadarnhad gan Y Weinyddiaeth Amddiffyn nad oes ganddi unrhyw wrthwynebiad.

 

12.4    46C622/ENF – Cais llawn ar gyfer creu estyniad i’r cwrtil ynghyd â chadw’r adeilad fel garej ddomestig a swyddfa yn Y Borth, Ffordd  Porthdafarch, Caergybi

 

Penderfynwyd ymweld â’r safle yn unol â chais yr Aelod Lleol am y rheswm a roddwyd.

 

12.5    FPL/2018/30 – Cais llawn ar gyfer creu cyfleuster Parcio a Rhannu ynghyd â chreu mynedfa newydd i gerbydau datblygiad cysylltiedig ar dir ger Cyffordd 7, Gaerwen

 

Penderfynwyd yn amodol ar dderbyn sylwadau gan Adran Ddraenio’r Cyngor, i gymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad ac adroddiad y Swyddog a chyda’r amodau cynllunio sydd wedi eu cynnwys yn yr adroddiad hwnnw.

 

12.6    DIS/2019/7 – Cais i ryddhau amod (08) (rheoli amgylcheddol ar gyfer gwaith adeiladau) o ganiatâd cynllunio 12LPA1003F/FR/CC yn Castle Meadow, Biwmares

 

Penderfynwyd cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad ac adroddiad y Swyddog.

 

 

Cofnodion:

12.1    FPL/2019/7 – Cais Llawn i godi ysgol gynradd newydd a chreu mynedfa newydd i gerbydau i’r B5109 ar dir gyferbyn â Bryn Meurig, Llangefni

 

Cyfeiriwyd y cais at y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod y cais yn cael ei wneud ar ran Cyngor Sir Ynys Môn. 

 

Adroddodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio fod saith ymateb wedi eu derbyn gan y cyhoedd fel rhan o’r broses ymgynghori statudol gyhoeddus a bod y manylion wedi eu crynhoi yn yr adroddiad. Gwnaed nifer o sylwadau hefyd fel rhan o’r ymgynghoriad 28 diwrnod statudol cyn gwneud cais. Mae Cyngor Tref Llangefni bellach wedi cyflwyno sylwadau manwl ac wedi gofyn fel rhan o’r cais am gael creu parth 20 mya yn ardal yr ysgol newydd, i groesfan i gerddwyr gael ei gosod ger y gylchfan, i lwybr troed gael ei chreu ger safle’r hen siop yn Rhostrehwfa ac i oleuadau stryd digonol gael eu darparu. Gan fod Ffordd Cae Garw hefyd yn dueddol o ddioddef llifogydd, dylid hefyd rhoi sylw i gynnal a chadw ffosydd a dylid sicrhau bod y cae chwarae ar gael at ddefnydd y gymuned y tu allan i oriau ysgol. Dywedodd y Swyddog, tra bo’r cais eisoes yn cynnwys croesfan i gerddwyr a goleuadau stryd, nid yw’r Awdurdod Priffyrdfd o’r farn bod gostyngiad yn y cyfyngiad cyflymder o 30 i 20 mya yn ardal uniongyrchol yr ysgol yn angenrheidiol oherwydd y mesurau arafu traffig a’r mesurau lliniaru sydd wedi eu hargymell fel rhan o’r datblygiad. Derbynnir yr angen i gynnal ffosydd ac fe gadarnheir y bydd y cae chwarae, o dan reolaeth yr ysgol, ar gael i’r gymuned leol ei ddefnyddio y tu allan i oriau’r ysgol.  

 

Mae’r angen am ysgol newydd a'r lleoliad sydd wedi’i argymell wedi eu cadarnhau a’u cyfiawnhau gan yr asesiadau a’r ymgynghoriadau helaeth sydd wedi eu hymgymryd â nhw gan y Gwasanaeth Dysgu cyn cyflwyno’r cais cynllunio. O ran yr effeithiau posibl, mae’r adroddiad ysgrifenedig yn delio â’r meysydd lle mae’r cais yn debygol o gael yr effaith mwyaf sylweddol, yn enwedig o ran traffig, sef yr hyn y mae’r rhan fwyaf o bryderon a godwyd yn lleol yn cyfeirio atynt. Mae Asesiad Effaith Traffig wedi ei gyflwyno sy’n dderbyniol i’r Awdurdod Priffyrdd ac mae mesurau lliniaru traffig wedi eu cynnig. Gall effeithiau ar fioamrywiaeth lleol mewn perthynas ag amddiffyn ystlumod a’r madfall gribog hefyd gael eu bodloni drwy weithredu mesurau lliniaru a argymhellir drwy’r arolygon perthnasol a gyflwynir fel rhan o’r cais. Fodd bynnag, mae’n debygol y bydd angen amod ychwanegol mewn perthynas â goleuo’r safle er mwyn lliniaru unrhyw effeithiau posibl ar ystlumod. Ystyrir bod y dyluniad, y gwaith tirlunio a’r effeithiau ar amwynderau’r eiddo cyfagos yn foddhaol yn amodol ar weithredu’r mesurau a amlinellir yn yr adroddiad. Mae’r cais fel y’i cyflwynir yn ystyried sylwadau a wnaed gan ymgyngoreion gan gynnwys y pryderon a godwyd yn lleol yn ystod y cyfnod cyn y cais a’r prosesau ymgynghori statudol. Mae’r argymhelliad felly yn un o ganiatáu’r cais.   

    

Wrth ystyried y cais, cyfeiriodd y  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 12