Mater - cyfarfodydd

Gweddill y Ceisiadau

Cyfarfod: 03/04/2019 - Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion (Eitem 12)

12 Gweddill y Ceisiadau pdf eicon PDF 1 MB

12.1  OP2018/1 – Penrhos Newydd, Llanfachraeth

12.2  30C225K/ECON – Treetops Country Club, Tynygongl

12.3  DIS/2019/18 – Cyffordd Star, Star

12.4  DIS/2019/19 – Cyffordd Star, Star

12.5  DIS/2019/21 – Cyffordd Star, Star

12.6  FPL/2019/13 – Mast Teleffon, Nebo

12.7  FPL/2019/6 – Ysgol Gynradd Llanfaethlu, Llanfwrog

12.8  42C267A – Clai Bungalow, Pentraeth

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

12.1  OP/2018/1 – Cais amlinellol ar gyfer codi annedd sydd yn cynnwys manylion llawn am y fynedfa i gerbydau a llunwedd ar dir ger Penrhos Newydd, Llanfachraeth

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog gyda’r amodau sydd wedi eu cynnwys yn yr adroddiad a bod cytundeb cyfreithiol adran 106 yn cael ei lofnodi ar gyfer cael gwared ar y garafán statig sydd ar y safle ar hyn o bryd.

 

12.2  30C225K/ECON – Cais amlinellol ar gyfer lleoli 25 o gabanau gwyliau ynghyd â chyfadeiladau hamdden a ffyrdd mynediad cysylltiedig gyda rhai materion wedi eu cadw yn ôl yn Treetops, Country Club, Tynygongl

 

PENDERFYNWYD ymweld â’r safle yn unol â chais yr Aelod Lleol am y rheswm a roddwyd.

 

12.3  DIS/2019/18 – Cais i ryddhau amod (04) (darparu datganiad a chynllun sy’n dangos dull clir a chadarn sy’n lliniaru’r risg posibl o gerbydau’n aros ar y briffordd gyhoeddus i rywun ddod i agor y gatiau) o ganiatâd cynllunio 41LPA1041/FR/TR/CC cais llawn ar gyfer newid defnydd tir amaethyddol i’w ddefnyddio fel man stopio dros dro (10 llecyn) ar gyfer Sipsiwn a Theithwyr, creu mynedfa gerbydau newydd, ffurfio mynedfa newydd i gerddwyr a phafin ynghyd â datblygiadau cysylltiedig ar dir i’r Dwyrain o Cyffordd Star, Star

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog a gyda’r amodau sydd wedi eu cynnwys yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

12.4  DIS/2019/19 – Cais i ryddhau amod (15) (darparu cynlluniau a ddiweddarwyd sy’n dangos ardal(oedd) a ddiffinnir yn gadarn o blannu newydd ar gyfer llwyni a glaswelltir.  At hyn, bydd yr ardaloedd o lwyni bytholwyrdd arfaethedig yn cael eu plannu yn lle hynny â chelyn a/neu ffawydd fel dewis arall gyda dail llydan sy’n agosach at ystyriaethau ecolegol brodorol) o ganiatâd cynllunio 41LPA1041/FR/TR/CC cais llawn ar gyfer newid defnydd tir amaethyddol i’w defnyddio fel man stopio dros dro (10 llecyn) ar gyfer Sipsiwn a Theithwyr, creu mynedfa gerbydau newydd, ffurfio mynedfa newydd i gerddwyr a phafin ynghyd â datblygiadau cysylltiedig ar dir i’r Dwyrain o Cyffordd Star, Star

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog a gyda’r amodau sydd wedi eu cynnwys yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

12.5  DIS/2019/21 – Cais i ryddhau amod (16) (manylion am raglen o waith archeolegol) o ganiatâd cynllunio o ganiatâd cynllunio 41LPA1041/FR/TR/CC cais llawn ar gyfer newid defnydd tir amaethyddol i’w defnyddio fel man stopio dros dro (10 llecyn) ar gyfer Sipsiwn a Theithwyr, creu mynedfa gerbydau newydd, ffurfio mynedfa newydd i gerddwyr a phafin ynghyd â datblygiadau cysylltiedig ar dir i’r Dwyrain o Cyffordd Star, Star

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog a gyda’r amodau sydd wedi eu cynnwys yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

12.6  FPL/2019/13 –Cais llawn ar gyfer codi sied amaethyddol i gadw anifeiliaid a storio periannau a bwyd ynghyd a adeiladu trac mynediad llain caled ar dir ger Mast Teleffon, Nebo  ...  view the full Penderfyniad text for item 12

Cofnodion:

12.1  OP/2018/1 - Cais amlinellol ar gyfer codi annedd sydd yn cynnwys manylion llawn am y fynedfa i gerbydau a gosodiad y tir ger Penrhos Newydd, Llanfachraeth.

 

Cyfeiriwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais yr Aelod Lleol. 

 

Adroddodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio mai cais amlinellol yw hwn ar gyfer codi annedd ynghyd â manylion llawn y fynedfa i gerbydau a gosodiad y safle. Dywedodd bod gohebiaeth ychwanegol yn gwrthwynebu’r cais wedi’i dderbyn, a rannwyd gydag Aelodau’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion, a bod y materion hynny eisoes wedi derbyn sylw yn yr adroddiad i’r Pwyllgor. Nododd fod y Gwasanaeth Tân hefyd wedi ymateb ond nad oedd ganddynt unrhyw sylwadau i’w gwneud ar y cais. Nododd y Swyddog ymhellach fod gwrthwynebiadau wedi eu derbyn gan drigolion lleol, sydd wedi eu nodi yn yr adroddiad, yn amlygu effeithiau’r datblygiad arfaethedig hwn ar amwynderau lleol. Dywedodd fod gosodiad yr annedd bellach wedi’i gyflwyno gan yr ymgeisydd a’i fod yn cydymffurfio â’r dyluniad a’r canllawiau pellter oddi wrth eiddo cymdogion. Bydd y rhan o’r eiddo arfaethedig sydd agosaf i eiddo’r cymdogion yn adeilad un llawr heb ffenestri yn wynebu’r eiddo. Mae opsiynau sgrinio ychwanegol hefyd wedi eu cynnig er mwyn gwella tirlun y safle. Mae’r datblygiad ger ardal yr AHNE ond yn dilyn asesid o’r manylion, ystyrir na fydd yn cael effaith andwyol ar yr ardal. Nododd y Swyddog ymhellach bod sylwadau bellach wedi eu derbyn gan yr Adan Dai ac ystyrir bellach bod y materion technegol yn dderbyniol.      

 

Nodwyd y cyfeiriwyd y cais at y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais yr Aelod Lleol o ganlyniad i bryderon am welededd o fynedfa’r safle. Mae’r gwrthwynebydd i’r cais wedi mynegi ei fod yn ystyried nad yw mesuriadau’r llain welededd wedi eu mesur o’r man cywir gan fod yr Awdurdod Priffyrdd yn mesur o’r gilfan o flaen y fynedfa i’r safle; mae’r gwrthwynebydd yn ystyried y dylid mesur o’r fynedfa ei hun. Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio fod y cais blaenorol ar y safle wedi’i wrthod am resymau priffyrdd, mae’r Awdurdod Priffyrdd wedi ystyried y cais sydd gerbron y Pwyllgor ac mae’r Swyddogion Priffyrdd yn ystyried fod y mesur sydd wedi’i gymryd mewn perthynas â’r llain welededd yn dderbyniol. Dywedodd hefyd fod cytundeb cyfreithiol A106 wedi’i osod ar unrhyw ganiatâd cynllunio a roddir yn nodi bod angen cael gwared ar y garafán statig sydd wedi’i lleoli ar y safle. Mae’r argymhelliad yn un o gymeradwyo’r cais. 

 

Dywedodd y Cynghorydd John Griffith fod y gwrthwynebydd, yn ei ohebiaeth, wedi cyfeirio at achosion penodol: Donoghue v Stevenson 1932, Kane v New Forest District Council 2001, Confensiwn Ewrop ar Hawliau Dynol. Holodd y Cynghorydd Griffith pa effaith mae achosion o’r fath yn eu cael ar y cais sydd gerbron y Pwyllgor. Ymatebodd y Rheolwr Gwasanaethau Cyfreithiol nad yw’r achosion y cyfeirir atynt yn creu unrhyw faterion penodol o ran y cais hwn ond eu bod yn rhai cyffredinol y cyfeirir atynt wrth asesu unrhyw gais. 

 

Dywedodd y Cynghorydd K P Hughes ei fod wedi gofyn i’r  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 12