Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Dysgu.
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
Penderfynwyd awdurdodi Swyddogion i gychwyn y broses o ymgynghori ar ffurfioli’r bartneriaeth rhwng Ysgol Goronwy Owen ac Ysgol Moelfre trwy ffederaleiddio’r ddau gorff llywodraethu.
Cofnodion:
Cyflwynwyd i’r Pwyllgor Gwaith ei ystyried – adroddiad y Pennaeth Dysgu ynglŷn â chais a wnaed gan Gyrff Llywodraethu Ysgol Goronwy Owen ac Ysgol Moelfre i ffurfioli’r bartneriaeth rhwng y ddwy ysgol trwy ffederaleiddio’r ddau Gorff Llywodraethu.
Cadarnhaodd y Pennaeth Dysgu fod Swyddogion yn gefnogol i’r cais a’u bod yn argymell symud ymlaen i ymgynghori ar y cynnig yn unol â’r broses. Awgrymodd yr Aelod Portffolio Addysg, Llyfrgelloedd, Diwylliant ac Ieuenctid fod y Pwyllgor Gwaith yn cymeradwyo’r argymhelliad.
Penderfynwyd awdurdodi Swyddogion i gychwyn y broses o ymgynghori ar ffurfioli’r bartneriaeth rhwng Ysgol Goronwy Owen ac Ysgol Moelfre trwy ffederaleiddio’r ddau Gorff Llywodraethu.