7 Polisi Gosod - Ymgynghori ar gynnwys Cysylltiad Lleol o fewn y System Bandio PDF 398 KB
Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Tai.
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
Penderfynwyd –
· Yn dilyn cynnal gwaith ymchwil pellach, bod cyfnod ymgynghori yn cymryd lle ar gyfer cynnwys cysylltiad lleol o fewn y Polisi Gosod Cyffredin cyfredol a,
· Bod y cyfnod ymgynghori yn gallu cynnig cyfle i wella trefniadau gweinyddu’r Gofrestr.
Cofnodion:
Cyflwynwyd i’w ystyried – adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Tai yn gofyn am gymeradwyaeth y Pwyllgor Gwaith i ymgynghori ar gynnwys cysylltiad lleol o fewn y system fandio ar gyfer gosod tai.
Roedd yr Aelod Portffolio ar gyfer Tai a Chefnogi Cymunedau yn cymeradwyo’r adroddiad a’r argymhellion ynddo i’r Pwyllgor Gwaith.
Dywedodd Rheolwr Strategaeth, Polisi a Chomisiynu y Gwasanaeth Tai fod y Gwasanaeth yn awyddus i ymchwilio i’r goblygiadau o gynnwys cysylltiad lleol yn y Polisi Gosod Cyffredin. O dan y polisi cyfredol, mae’n ofynnol fod gan ymgeisydd o leiaf 5 mlynedd o gysylltiad gyda’r Ynys; byddai’r ymchwil pellach a fwriedir ynghyd â’r ymgynghoriad yn edrych ar y goblygiadau o gynnwys cysylltiad â phlwyf, pentref neu dref benodol. Mae rhaglen waith a chynllun ymgysylltu wedi cael eu paratoi, i’w gweithredu gyda sêl bendith y Pwyllgor Gwaith.
Roedd y Pwyllgor Gwaith yn gefnogol i’r cynnig ac yn cydnabod cysylltiad lleol fel ffactor wrth adeiladu cymunedau cynaliadwy.
Penderfynwyd –
• Yn dilyn cynnal gwaith ymchwil pellach, bod cyfnod ymgynghori yn digwydd ar gyfer cynnwys cysylltiad lleol o fewn y Polisi Gosod Cyffredin cyfredol a,
• Bod y cyfnod ymgynghori yn gallu cynnig cyfle i wella trefniadau gweinyddu’r Gofrestr.