4 Blaen Raglen Waith y Pwyllgor Gwaith PDF 787 KB
Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd.
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
Penderfynwyd cadarnhau Blaen Raglen Waith y Pwyllgor Gwaith wedi ei diweddaru am y cyfnod Gorffennaf, 2019 i Chwefror, 2020 fel y’i cyflwynwyd.
Cofnodion:
Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd yn ymgorffori Blaen Raglen Waith y Pwyllgor Gwaith ar gyfer y cyfnod rhwng Gorffennaf, 2019 a Chwefror, 2020, a nodwyd y newidiadau canlynol -
Eitemau Newydd ar gyfer cyfarfod 15 Gorffennaf, 2019 -
• Eitem 3 - Cronfa'r Degwm (cymeradwyo trefniadau newydd)
• Eitem 4 - Trefniadau Byw â Chymorth (Anableddau Dysgu): Opsiynau Comisiynu
• Eitem 7 - Tai Cyngor: Datblygiadau o 10 uned neu fwy
Eitemau a aildrefnwyd -
• Eitem 15 - Anableddau Dysgu: Trawsnewid Cyfleoedd Dydd (caniatáu’r broses ymgysylltu) o 15 Gorffennaf i gyfarfod 16 Medi, 2019 ac o ganlyniad, tynnu’r eitem Anableddau Dysgu: Trawsnewid Cyfleoedd Dydd (adrodd ar ganlyniad y broses ymgysylltu a chynigion ar gyfer trawsnewid) a drefnwyd yn wreiddiol ar gyfer 25 Tachwedd oddi ar y Rhaglen Waith hyd oni cheir cadarnhad ynghylch yr amserlen.
• Eitem 22 - Cerdyn Sgorio Corfforaethol Chwarter 2 2019/20 - adolygu'r trefniadau ar gyfer adrodd i'r Pwyllgor Sgriwtini a'r Pwyllgor Gwaith a'u cadarnhau yn dilyn trafodaeth fewnol.
Penderfynwyd cadarnhau Blaen Raglen Waith y Pwyllgor Gwaith wedi ei diweddaru am y cyfnod Gorffennaf, 2019 i Chwefror, 2020 fel y’i cyflwynwyd.