Mater - cyfarfodydd

Annual Delivery Document 2019/20

Cyfarfod: 17/06/2019 - Pwyllgor Gwaith (Eitem 6)

6 Dogfen Cylfawni Blynyddol 2019/20 pdf eicon PDF 4 MB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Proffesiwn, AD a Thrawsnewid.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Penderfynwyd

 

           Rhoi’r hawl i Swyddogion drwy law’r Aelod Portffolio Busnes Corfforaethol i ymgymryd â’r dasg o orffen y cynllun drafft ac argymell i’r Cyngor Llawn fabwysiadu’r Ddogfen Gyflawni Flynyddol ar gyfer 2019/20 yn ei gyfarfod ar 15 Gorffennaf, 2019.

           Bod y Pwyllgor Gwaith yn cadarnhau pa mor ymarferol ydyw cyflawni’r ddogfen hon fel cynllun sydd yn nodi gwaith y Cyngor wedi’i alinio â blaenoriaethau Cynllun y Cyngor ar gyfer ei gyflawni yn ystod 2018/19.

           Bod y Ddogfen Gyflawni Flynyddol yn cael ei chyhoeddi yn gynharach yn y flwyddyn ariannol yn y dyfodol.

Cofnodion:

Cyflwynwyd er sylw’r Pwyllgor Gwaith, adroddiad y Pennaeth Proffesiwn (Adnoddau Dynol) / Trawsnewid yn ymgorffori'r Ddogfen Gyflwyno Flynyddol ar gyfer 2019/20. Mae'r ddogfen yn egluro sut y bydd y Cyngor yn cyflawni ei flaenoriaethau allweddol dros y deuddeg mis nesaf yng nghyd-destun amcanion ehangach y Cynllun Corfforaethol ar gyfer 2017-22.

 

Dywedodd y Rhaglen, Cynllunio Busnes a Pherfformiad fod y ddogfen yn darparu manylion ynghylch dyheadau'r Cyngor am y flwyddyn ac mae'n seiliedig ar y gwaith a wnaed mewn adolygiadau gwasanaeth blynyddol ac mewn cyfarfodydd cynllunio busnes gwasanaeth blynyddol sydd, gyda'i gilydd, wedi dylanwadu ar ddisgwyliadau'r Cyngor yn gorfforaethol am y flwyddyn i ddod.

 

Roedd y Pwyllgor Gwaith yn nodi ei fod yn fodlon â chynnwys y Ddogfen Gyflawni Flynyddol a'i fod yn credu bod modd gwireddu'r dyheadau yr oedd eu hadlewyrchu ond yn ymwybodol hefyd y gall digwyddiadau sydd y tu hwnt i reolaeth y Cyngor ddrysu unrhyw gynlluniau. Gofynnodd y Pwyllgor Gwaith pam fod y Ddogfen Gyflawni Flynyddol yn cael ei chyhoeddi dri mis i mewn i’r flwyddyn ariannol newydd er mai’r nod oedd gosod ynddi yr amcanion ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod a gofynnodd a oedd yn bosibl ei chyhoeddi’n gynharach. Dywedodd y Rheolwr Rhaglen, Cynllunio Busnes a Pherfformiad, er y byddai’n ddelfrydol ei chyhoeddi ar ddechrau'r flwyddyn ariannol newydd ym mis Ebrill bob blwyddyn, mae’n rhaid yn gyntaf cwblhau gweithdrefnau cau lawr ar gyfer diwedd y flwyddyn flaenorol, e.e. cyfrifon y Cyngor, ac yn ychwanegol at hynny, mae’r Ddogfen Gyflawni yn cael ei llywio gan gydnabyddiaeth y gwasanaethau o'r hyn sydd angen ei wneud yn y flwyddyn i ddod ac nid yw’r gwaith cynllunio busnes ar gyfer hyn yn cael ei gwblhau tan ddechrau mis Ebrill.

 

Er yn cydnabod y gallai cyhoeddi’r ddogfen yn gynharach fod yn her, roedd y Pwyllgor Gwaith o'r farn y dylai hyn fod yn nod a chytunwyd i wneud argymhelliad i'r perwyl hwnnw.  

 

Penderfynwyd

 

           Rhoi’r hawl i Swyddogion drwy law’r Aelod Portffolio Busnes Corfforaethol i ymgymryd â’r dasg o orffen y cynllun drafft ac argymell i’r Cyngor Llawn fabwysiadu’r Ddogfen Gyflawni Flynyddol ar gyfer 2019/20 yn ei gyfarfod ar 15 Gorffennaf, 2019.

           Bod y Pwyllgor Gwaith yn cadarnhau pa mor ymarferol ydyw cyflawni’r ddogfen hon fel cynllun sydd yn nodi gwaith y Cyngor wedi’i alinio â blaenoriaethau Cynllun y Cyngor ar gyfer ei gyflawni yn ystod 2018/19.

           Bod y Ddogfen Gyflawni Flynyddol yn cael ei chyhoeddi yn gynharach yn y flwyddyn ariannol yn y dyfodol