8 Adroddiad Alldro Cyfalaf 2018/19 PDF 643 KB
Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
Penderfynwyd –
• Nodi sefyllfa alldro ddrafft y Rhaglen Gyfalaf ar gyfer 2018/19 sy’n destun Archwiliad.
• Cymeradwyo cario £3.065m drosodd i 2019/20 ar gyfer y tanwariant ar y rhaglen oherwydd llithriad. Bydd y cyllid ar gyfer hyn hefyd yn cario drosodd i 2019/20 yn unol â pharagraff 4.2, Atodiad A.
Cofnodion:
Cyflwynwyd er sylw’r Pwyllgor Gwaith – adroddiad y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 yn nodi’r sefyllfa alldro cyfalaf ar gyfer blwyddyn ariannol 2018/19.
Dywedodd yr Aelod Portffolio Cyllid fod y gyllideb ar gyfer y Gronfa Gyffredinol yn £ 46.521m gyda gwariant o £ 21.650m yn unig ar 31 Mawrth, 2019 sy’n cyfateb i 47% o'r gyllideb. Roedd hyn yn bennaf oherwydd y tanwariant mawr yn erbyn chwe phrosiect mawr y darperir manylion amdanynt ym mharagraff 2.2 yr adroddiad; nid oedd y rhain yn symud ymlaen gymaint ag y rhagwelwyd oherwydd oedi a achoswyd gan amrywiol resymau ac, yn achos y Briffordd Newydd i Wylfa Newydd, oherwydd gohiriad y prosiect. Bydd yr arian ar gyfer y prosiectau yn cael ei gario drosodd i 2019/20 heb golli adnoddau i'r Cyngor.
Cadarnhaodd y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151 fod y canlyniad yn unol â'r rhagamcanion yn Chwarter 2 a 3. Gyda phrosiectau cyfalaf mawr fel arfer mae oedi annisgwyl yn digwydd ac nid yw'n anarferol gweld gwariant ar y mathau hyn o brosiectau yn llithro.
Diolchodd y Cadeirydd i'r Panel Sgriwtini Cyllid am ei gyfraniad hefyd o ran craffu ar hyn ac adroddiadau monitro cyllideb eraill.
Penderfynwyd –
• Nodi sefyllfa alldro ddrafft y Rhaglen Gyfalaf ar gyfer 2018/19 sy’n destun Archwiliad.
• Cymeradwyo cario £3.065m drosodd i 2019/20 ar gyfer y tanwariant ar y rhaglen oherwydd llithriad. Bydd y cyllid ar gyfer hyn hefyd yn cario drosodd i 2019/20 yn unol â pharagraff 4.2, Atodiad A.