Mater - cyfarfodydd

Corporate Debt Recovery Policy

Cyfarfod: 17/06/2019 - Pwyllgor Gwaith (Eitem 10)

10 Polisi Corfforaethol ar Adennill Dyledion pdf eicon PDF 1 MB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Penderfynwyd cymeradwyo’r Polisi Corfforaethol ar Adennill Dyledion fel y’i cyflwynwyd.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151 yn gofyn i'r Pwyllgor Gwaith gymeradwyo’r Polisi Dyledion Corfforaethol fel y’i atodwyd.

 

Dywedodd yr Aelod Portffolio Cyllid fod y polisi yn cyflwyno, er cymeradwyaeth y Pwyllgor Gwaith, yr egwyddorion i'w mabwysiadu gan Gyngor Sir Ynys Môn wrth gasglu dyledion sy'n ddyledus i'r Cyngor fel y manylir arnynt ar dudalen 3. Darllenodd yr Aelod Portffolio yr egwyddorion fel y'u rhestrwyd a thynnodd sylw at bwysigrwydd sicrhau bod gan y Cyngor ymagwedd glir a chytûn tuag at gasglu dyledion sy'n ei alluogi i fynd i'r afael â'r amrywiol ddyledion sy'n ddyledus ac i ddelio'n briodol ag unigolion / busnesau sydd mewn dyled i'r Cyngor.

 

Cytunodd y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151 bod cael proses yn ei lle i adennill dyledion yn yr hinsawdd ariannol anodd sydd ohoni ar hyn o bryd yn bwysig ond gan gydnabod hefyd y gallai rhai unigolion ei chael hi'n anodd talu ac efallai y bydd angen help arnynt i gyflawni eu rhwymedigaethau ariannol tra bod eraill yn cael eu hystyried yn fregus ac y bydd angen eu trin â sensitifrwydd a disgresiwn. Felly, bydd y Cyngor yn gweithredu dull cefnogol o adennill dyledion sy'n diwallu anghenion unigolion ac yn cynnig eu cyfeirio at asiantaethau cymorth annibynnol. Mae'r Polisi yn egluro'r egwyddorion a fydd yn cael eu defnyddio wrth adennill yr holl ddyled ac y bydd y polisïau gweithdrefnol ychwanegol yn rhoi mwy o fanylion am y trefniadau ar gyfer casglu dyled ym mhob un o'r meysydd penodol. Yn ogystal, mae'r Cyngor, ers peth amser, wedi bod yn gweithio ar wella ei brosesau ar gyfer gwneud taliadau gan gynnwys hwyluso taliadau ymlaen llaw a galluogi unigolion i sefydlu eu debydau uniongyrchol eu hunain i dalu Treth y Cyngor, ac i wneud cais am ostyngiadau ac eithriadau ar-lein. Bydd gwneud prosesau gweinyddol yn fwy effeithlon fel y gall pobl wneud mwy drostynt eu hunain yn galluogi'r Cyngor i ganolbwyntio mwy ar adennill dyledion.

 

Wrth dderbyn y polisi, nododd y Pwyllgor Gwaith yn benodol ei fod yn gwneud darpariaeth ar gyfer unigolion a all fod mewn trafferthion ariannol ac sy’n ei chael hi'n anodd talu ac yn eu cyfeirio at sefydliadau a all gynnig cyngor a chefnogaeth bellach, ac roedd yn croesawu hynny.

 

Penderfynwyd cymeradwyo'r Polisi Dyledion Corfforaethol fel y'i cyflwynwyd.